Gweithio mewn partneriaeth i wella deilliannau i blant

Dydd Iau, 15 Tachwedd 2018

Mewn cynhadledd a gynhaliwyd gan Llywodraeth Cymru yn Llandrindod heddiw ar ‘Wella Deilliannau i Blant’, daeth pobl broffesiynol o fewn gofal cymdeithasol i blant ynghyd i drafod yr ystod o heriau y mae’r sector yn eu wynebu.

 

Yn mynychu’r gynhadledd, dywedodd Llefarydd CLlLC dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol y Cynghorydd Huw David (Penybont ar Ogwr):

“I bawb sydd yn gysylltiedig â gofal cymdeithasol yng Nghymru, bu cynhadledd heddiw yn atgoffa unwaith eto o’r myrdd o heriau demograffig ac ariannol y mae’r sector yn eu wynebu. Dyma pam yn gynharach yr wythnos hon y cafodd y cyhoeddiad o £15m ychwanegol, i helpu i gadw plant yng Nghymru rhag gorfod cael eu rhoi mewn gofal, ei groesawu’n gynnes gan CLlLC.

“Bu’r Gweinidog dros Blant, Huw Irranca-Davies, yn ymgynghori yn llawn gyda CLlLC ar y mater yma. Rydyn ni’n falch ei fod wedi cydnabod galwad CLlLC dros sefydlu cronfa gwasanaethau ataliol llywodraeth leol yn deillio o’r dyraniad o £30m i fyrddau Partneriaethau Rhanbarthol.”

“Mae’r pwysedd sydd ar gyllidebau plant mewn gofal yn enfawr, a chostau yn codi o hyd. Mae gorwariant mawr yn y system ar hyn o bryd wrth i fwy o blant ddisgyn i’r categori o fod mewn gofal. Mae atal plant, yn enwedig y rhai hynny â phrofiadau plentyndod niweidiol, rhag gorfod cael eu rhoi mewn gofal yn un o brif amcanion cynghorau. Bydd y cyllid yma yn helpu i ddatblygu rhaglenni hir-dymor fydd yn amddiffyn a gofalu am yr holl blant a phobl ifanc, ond yn enwedig y rhai hynny sy’n fregus.”

“O dan Adran 76 o’r Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru), bydd plentyn mewn rhai achosion angen yr awdurdod lleol i ddarparu llety ar eu cyfer gan nad oes ganddyn nhw unrhyw un â chyfrifoldeb rhiant drostyn nhw, neu mewn achosion ble mae nhw ar goll neu’n amddifad, neu bod amgylchiadau yn eu rhwystro rhag derbyn gofal a llety gan riant neu person â chyfrifoldeb rhiant. Mae hyn yn ddyletswydd allweddol sydd gan gynghorau i amddiffyn a diogelu plant.

“Dim ond yr wythnos diwethaf, dywedodd Comisiynydd Plant Cymru bod y ddarpariaeth bresennol ar gyfer cartrefi diogel yn annigonol a bod angen gwasanaethau therapiwtig preswyl newydd ar fyrder ar gyfer plant a phobl ifanc yng Nghymru. Mae CLlLC yn cefnogi’r safbwynt hynny ac yn gobeithio y byddwn ni yn cynnal rhagor o waith gyda Llywodraeth Cymru i ymateb i’r angen yma.”

  About

Mae Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru (WLGA) yn cynrychioli buddiannau byd llywodraeth leol ac yn hyrwyddo democratiaeth leol yng Nghymru.

  Cysylltwch â ni

Ffôn : 02920 468680
E-bost : enquiries@wlga.gov.uk
Oriau busnes : Llun - Iau 8:30 - 5:00, Gwen - 08:30 - 16:30