Mae’n bwysicach nag erioed inni ddefnyddio pob cartref sydd yng Nghymru. Mae cynghorau lleol Cymru yn rhoi mwy a mwy o sylw i lenwi tai sy’n wag ers amser maith a chynnig cymorth ac anogaeth i’w perchnogion, gan gynnwys cymryd camau gorfodi lle bo angen.
Cynllun 'Troi Tai'n Gartrefi'
Sefydlodd Llywodraeth Cymru Gynllun ‘Troi Tai’n Gartrefi’ fis Ebrill 2012 i helpu i lenwi nifer sylweddol o gartrefi gwag. Mae cronfa o fenthyciadau ailgylchadwy gwerth £20 miliwn ar gael fel y bydd modd gwneud tai neu adeiladau masnachol gwag yn addas i’w gwerthu neu eu rhoi ar osod. Mae’r benthyciadau di-log ar gael i unigolion, elusennau, cwmnïau a busnesau. Mae uchafswm o £25,000 ar gyfer pob adeilad, a rhaid ei ad-dalu cyn pen dwy neu dair blynedd yn ôl y diben – ei werthu neu ei roi ar osod. Awdurdodau lleol unigol sy’n gweinyddu’r cynllun trwy gydweithio’n rhanbarthol. Prifysgol Hallam Sheffield sy’n ei werthuso.
In 2016 a joint steering group was established to monitor and review the Houses into Homes Scheme and Home Improvement Loans Scheme. The group meets on a quarterly basis with membership from the WLGA, Welsh Government and Welsh local authorities.
Dolen:
Mae rhagor o wybodaeth gan: Jim McKirdle