Diwallu anghenion presennol a diogelu rhai’r dyfodol. Yn ôl Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol, dyna un o ddyletswyddau statudol y cynghorau lleol bellach.
Mae’r ddeddf yn berthnasol i bob rhan o waith maes llywodraeth leol, a bydd angen newid ein prosesau a’n hymddygiad yn sylweddol i gydymffurfio â hi.
Bydd angen i gynghorau ystyried y tymor hir wrth ddod i benderfyniadau. Rhaid cadw effeithiau cymdeithasol, economaidd, amgylcheddol a diwylliannol ein gwaith ar genedlaethau’r dyfodol mewn cof.
Bydd yn ymestynnol. Gwaith cymhleth yw cynllunio ar gyfer y tymor hir, a bydd yn anos fyth yn wyneb amryw bwysau megis mwy a mwy o alw am wasanaethau ond llai a llai o arian ar eu cyfer.
Mae’r ddeddf yn cynnig fframwaith ac yn cydblethu’n dda â’n maniffesto ni, ‘Atebolrwydd Lleol 2016’, sy’n gofyn i Lywodraeth Cymru bennu trywydd strategol y wlad a chynnig i’r cynghorau lleol y rhyddid i lunio eu hamcanion a’u gwasanaethau yn ôl anghenion pob bro.
Trwy Fframwaith Datblygu Cynaladwy, rydyn ni wedi treulio’r degawd diwethaf yn helpu’r cynghorau lleol i feithrin cadernid eu cymunedau yn wyneb amrywiaeth helaeth o dueddiadau a phwysau hirdymor.
Ers 2014, rydyn ni wedi paratoi’r cynghorau lleol ac mae llawer o’n gwaith wedi dylanwadu ar y canllawiau mae Llywodraeth Cymru wedi’u cyhoeddi ar gyfer y ddeddf.
O ganlyniad i gydweithio â’r 11 cyngor lleol a’r tri pharc cenedlaethol sydd wedi mabwysiadu gofynion y ddeddf yn gynnar, rydyn ni wedi llunio amrywiaeth o adnoddau i helpu’r cynghorau i ymaddasu yn ôl y drefn newydd.
Ein nod yw gofalu y bydd cynghorau lleol yn parhau i roi gwasanaethau cyhoeddus sy’n diwallu anghenion eu cymunedau heb amharu ar anghenion cenedlaethau’r dyfodol.
Dolen: Comisiynydd Cenedlaethau'r Dyfodol Cymru / Cenedlaethau'r Dyfodol a Gwella (CLlLC)
Mae rhagor o wybodaeth gan: Neville Rookes