Nod y Bwrdd Comisiynu Cenedlaethol yn fras yw gwella ansawdd gwaith comisiynu yng Nghymru a meithrin arferion effeithiol mewn perthynas â chomisiynu integredig rhwng awdurdodau lleol a byrddau iechyd lleol. Ymhlith aelodau’r bwrdd, mae cynrychiolwyr fel a ganlyn: awdurdodau lleol, y Gwasanaeth Iechyd Gwladol, swyddogion arweiniol rhanbarthau, Fforwm Cenedlaethol y Darparwyr, Cyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru (y trydydd sector), Swyddogion Caffael Cymru, Gofal Cymdeithasol Cymru, Arolygiaeth Gofal a Gwasanaethau Cymdeithasol Cymru, asiantaethau gwella a Llywodraeth Cymru.
Cylch gorchwyl - Bwrdd Comisiynu Cenedlaethol (Cymru) - Gweld yma (Saesneg yn unig)
Dyma grynodeb o’r prosiectau:
Llywodraeth Cymru: 'Gadewch inni cytuno i gytuno' - Pecyn cymorth ar gyfer comisiynwyr a darparwyr i gytuno costiau o gofal preswyl ar gyfer pobl hŷn / Agorwch y ddolen yma - Llythyr Llywodraeth Cymru / Agorwch y ddolen yma
Mae rhagor o wybodaeth gan: Maria Bell