Yn 2021-22 lansiwyd y Rhaglen Wella i gefnogi gwelliant a arweinir gan y sector ar draws llywodraeth leol yng Nghymru. Mae hon yn rhaglen a ariennir gan grant gan Lywodraeth Cymru o hyd at £800,000 y flwyddyn am dair blynedd.
Ers 2021-22 mae tîm bach wedi’i recriwtio i ddatblygu, darparu a rheoli’r rhaglen, i ddarparu a chomisiynu cymorth ac i recriwtio panel o aelodau a swyddogion cyfoedion.
Beth yw Gwelliant a Arweinir gan y Sector?
Mae llwyddiant gwelliant a arweinir gan y sector yn ddibynnol ar gyfranogiad weithgar y sector sydd yn ei dro yn dibynnu ar y ffaith bod y cynnig yn berthnasol ac o werth.
Mae arweinwyr a phrif weithredwyr wedi mynegi ymrwymiad i welliant a arweinir gan y sector, wedi’i ategu gan her, cefnogaeth a chymorth cydfuddiannol gan gyfoedion. Er gwaethaf yr heriau digynsail yn ystod Covid-19, mae cymorth cydfuddiannol a phartneriaeth wedi ategu ymateb cydlynol llywodraeth leol a gwasanaethau cyhoeddus ac mae uwch reolwyr wedi parhau i ddarparu mentora, cefnogaeth gan gymheiriaid a her i gydweithwyr ar draws llywodraeth leol.
Bydd model llwyddiannus a arweinir gan y sector yn ddibynnol ar ymrwymiad gan uwch aelodau a gweithwyr proffesiynol i ymrwymo i ymgysylltu a chynnig cefnogaeth o’r ddwy ochr i gydweithwyr o fewn ac ar draws llywodraeth leol. Mae manteision herio a chefnogi cyfoedion yn ddeublyg:
- mae awdurdod yn derbyn safbwyntiau arbenigol a phrofiad cyfoedion wrth fynd i’r afael â mater penodol neu gynnal asesiad/proses herio; a
- mae hi’n gyfle i gyfoedion ddatblygu, i gael profiad o ddulliau, diwydiannau a datrysiadau sefydliadau eraill a dod â syniadau a dysgu sefydliadol, personol neu broffesiynol newydd yn ôl.
Rhaglen Gwelliant CLlLC
Nod cyffredinol y rhaglen ar gyfer 2023-24 yw ‘datblygu ymhellach gan greu cefnogaeth ar gyfer ymgysylltu â’r cyhoedd, cyfranogiad a galluogrwydd digidol a data i sicrhau bod pob cyngor yn ymgysylltu ac yn cynnwys eu dinasyddion sydd â hyder yn eu perfformiad’.
Mae Rhaglen Wella CLlLC 2023-24 yn adeiladu ar y gwaith a wnaed dros ddwy flynedd ddiwethaf y rhaglen ac mae wedi’i llywio gan ymgysylltu â chynghorau, canfyddiadau adroddiadau Archwilio Cymru a Rheoleiddwyr, ymgysylltu â Llywodraeth Cymru, a blaenoriaethau gwella hunanasesiad cynghorau, a amlygodd y themâu corfforaethol cyfunol canlynol:
- Cydraddoldeb
- Craffu
- Diwylliant Data
- Rheoli Risg
- Ymgysylltu â’r Cyhoedd a Chyfranogiad
- Gwydnwch Diwylliant Sefydliadol a Chymunedol
- Cynllunio’r Gweithlu
- Rheoli Galw a Gallu
Mae Rhaglen Wella CLlLC wedi ei chymeradwyo gan arweinwyr a’i chefnogi gan brif weithredwyr.
Mae’r rhaglen wella yn ystod 2023-24 yn cynnwys dwy elfen:
- cynnig cyffredinol ar gael i bob Cyngor - yn canolbwyntio ar adeiladu capasiti corfforaethol cryf a galluogrwydd gyda chynghorau o dan bedwar blaenoriaeth cyd-ddibynnol:
- cynnig wedi’i dargedu ar gyfer y cynghorau hynny sydd angen cymorth mwy dwys a phenodol i fynd i’r afael â bygythiadau corfforaethol sy’n codi.
Herio a Chefnogi Cyfoedion
Mae CLlLC yn recriwtio Swyddogion Cyfoedion i gefnogi gwelliant o dan arweiniad sector ar draws Llywodraeth Leol yng Nghymru. Mae disgrifiad Rôl Cymheiriaid Swyddogion yn rhoi manylion am y rôl a chyfrifoldebau, a’r cymwyseddau craidd sy’n ofynnol.
I wneud cais i ddod yn Swyddog Cyfoedion, cwblhewch y ffurflen sydd ar gael o dan adran Cyhoeddiadau CLlLC ar frig y dudalen hon. Mae ein hysbysiad preifatrwydd Swyddog Cyfoedion yn egluro pa wybodaeth sydd ei hangen arnom, y sail gyfreithlon yr ydym yn dibynnu arni a sut y byddwn yn defnyddio'ch data personol.
Bydd CLlLC yn parhau i weithio’n agos gyda’r CLlL i gael mynediad at gronfa gyfoedion ehangach gydag arbenigedd a phrofiad amrywiol. Tra bod CLlLC yn datblygu ei gynnig her a chefnogaeth cyfoedion, bydd yn parhau i ariannu awdurdodau Cymru i gael mynediad at gynnig cyfoedion CLlL
I gael rhagor o wybodaeth am unrhyw un o'r cymorth, cysylltwch â Thîm Gwella CLlLC:
Gwelliant@wlga.gov.uk