Mae WLGA a'r awdurdodau wedi llunio disgrifiadau o amryw rolau cynghorwyr a'u gofynion. Mae'r disgrifiadau'n berthnasol i bob awdurdod ac rydyn ni'n eu cyflwyno'n hawgrymiadau yn hytrach na chyfarwyddiadau.
Mae'r disgrifiadau'n amlinellu cyfrifoldebau a swyddogaethau cynghorydd. Mae rhestri'r gofynion yn pennu'r rhinweddau a'r medrau priodol i bob rôl i ddibenion datblygu personol.
Dyma'r rolau sydd dan sylw:
- Cynghorydd
- Arweinydd
- Aelod o'r cabinet
- Cadeirydd y cyngor
- Cadeirydd pwyllgor gwasanaethau democrataidd
- Aelod o bwyllgor gwasanaethau democrataidd
- Cadeirydd pwyllgor rheoleiddio
- Aelod o bwyllgor rheoleiddio
- Cadeirydd pwyllgor safonau
- Aelod o bwyllgor safonau
- Cadeirydd pwyllgor archwilio ariannol
- Aelod o bwyllgor archwilio ariannol
- Cadeirydd pwyllgor craffu
- Aelod o bwyllgor craffu
- Arweinydd gwrthblaid
- Hyrwyddwr o Gynghorydd
Mae disgrifiadau eraill wedi'u llunio i aelodau awdurdodau'r gwasanaethau tân ac achub a'r parciau cenedlaethol. Mae dogfennau yma ar gael ar gais.
Mae rhagor o wybodaeth ar gael gan: Sarah Titcombe