Newid yn yr hinsawdd a ddatgarboneiddio

Anerchiad gan Arweinydd CLlLC, y Cynghorydd Andrew Morgan, ar gyfer Wythnos Hinsawdd Cymru 2020

6 Tachwedd 2020

Mae effaith newid hinsawdd yn dod yn fwyfwy amlwg i drigolion Cymru, boed hynny drwy weld yr effaith ar gymunedau arfordirol megis Fairbourne yn y gogledd, neu’r llifogydd dinistriol a welwyd yn Ne Cymru’n ddiweddar. Nid delfryd yw gweithredu ar newid hinsawdd bellach, mae’n ddisgwyliad gan y cyhoedd a’r gymdeithas drwyddi draw. Yn ogystal â’r heriau sylweddol sy’n ein hwynebu wrth geisio mynd i’r afael â newid hinsawdd yn y tymor byr, rhaid i lywodraethau ar bob lefel ddangos arweiniad o safbwynt lleihau allyriadau carbon – gan gydnabod y buddsoddiad sylweddol sydd ei angen, a’r cyfleoedd a ddaw yn sgîl hyn.

 

YR HER

Er mwyn cwrdd â’r targed uchelgeisiol i greu sector cyhoeddus carbon sero-net yng Nghymru erbyn 2030, rhaid i ni weld mwy o ymrwymiad a newidiadau’n dod i rym yn gyflymach ar draws yr holl lywodraethau a’r sector preifat. I gyflawni hyn, rhaid cael:

 

Arweinyddiaeth: Rhaid sicrhau bod datgarboneiddio’n rhan annatod o waith yr Awdurdodau Lleol. Mae hyn yn galw am arweinyddiaeth sy’n deall pa mor ddifrifol fyddai peidio â gweithredu ar newid hinsawdd, yn ogystal â’r cyfleoedd arwyddocaol a ddaw yn sgîl datgarboneiddio, o safbwynt y cyd-fanteision i’r economi ac iechyd . Mae’r awdurdodau eisoes yn mynd i’r afael â’r her hon ac mae nifer gynyddol o’r penderfyniadau a’r buddsoddiadau a wneir yn ystyried beth fydd eu heffaith ar garbon. Rhaid cydnabod mai her ar y cyd yw hon, ar draws yr holl sector cyhoeddus, a rhaid i ni rannu adnoddau a gwybodaeth er mwyn ei chyflawni.

 

Buddsoddiad: O ganlyniad i’r effaith sylweddol mae COVID yn ei chael ar gyllidebau llywodraeth leol, nawr ac yn yr hirdymor, mae darparu gwasanaethau ar y rheng flaen wrth gwrs yn flaenoriaeth. Serch hynny, wrth i ni daro’n golygon tuag at adfer, mae’n amlwg yr hoffai Cymru ddilyn llwybr ‘gwyrdd’, a bod y cyfnod hwn yn gyfnod o newid sy’n rhoi cyfle i ni ymdrin â materion cymdeithasol ac amgylcheddol parhaus ac adeiladu dyfodol gwirioneddol gynaliadwy. Bydd hyn yn galw am fuddsoddiad sylweddol gan lywodraethau, ac mae’n galonogol gweld arwyddion o hyn yn barod. Mae’r awdurdodau lleol mewn sefyllfa unigryw i allu cyflwyno prosiectau ynni, trafnidiaeth, defnydd tir ac adeiladau, creu twf economaidd a chyflogaeth, yn ogystal â helpu i ddatgarboneiddio Cymru ar yr un pryd. Mae sawl awdurdod wedi cynllunio prosiectau y gellir eu cyflawni gyda’r buddsoddiad a’r gefnogaeth angenrheidiol.

 

Cynllunio yn yr hirdymor: I gyd-fynd â’r pum dull gweithio a welir yn Neddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol, mae’n hollbwysig ein bod yn meddwl yn yr hirdymor wrth ystyried sut gellir ymyrryd er mwyn lleihau allyriadau carbon. Drwy beidio â meddwl am yr effaith a gaiff hyn ar genedlaethau’r dyfodol, y tueddiadau a welir, a thechnolegau newydd a’r dechnoleg sy’n datblygu, rydym mewn perygl o fuddsoddi mewn atebion nad ydynt yn ateb y galw nac ychwaith yn cynnig gwerth am arian. Mae CLlLC yn dymuno gweithio gyda’i haelodau, Llywodraeth Cymru, a’r trydydd sector, er mwyn datblygu rhaglenni cyllid a chymorth hyblyg, y gellir eu haddasu, ac a fydd yn sicrhau canlyniadau ymhell i’r dyfodol. Mae’r awdurdodau eu hunain yn datblygu cynlluniau gweithredu ar gyfer datgarboneiddio hirdymor a fydd yn llywio penderfyniadau buddsoddi dros y deng mlynedd nesaf, ac mae’n bwysig fod yr holl lywodraethau’n cysoni eu blaenoriaethau ac yn cydweithio tuag at yr un nod, fel a bwysleisir yn null ‘Tîm Cymru’ i fynd i’r afael â’r her ddatgarboneiddio. Rhaid i ni hefyd sicrhau bod gan yr awdurdodau fynediad at yr offer a’r adnoddau sydd eu hangen er mwyn gosod man cychwyn a mesur cynnydd yn gywir ac yn gyson yn erbyn targed 2030. Heb ddata i gefnogi penderfyniadau, mae perygl na fydd yr ymdrechion yn canolbwyntio ar y meysydd a gaiff yr effaith fwyaf.

 

Atebion sy’n seiliedig ar leoedd: Nid oes un ateb sy’n addas i bawb er mwyn lleihau allyriadau carbon yn y sector cyhoeddus. Mae pob awdurdod yn unigryw o safbwynt ei dirwedd, ei isadeiledd, ei ddemograffeg, ei adnoddau a’i economi, a dim ond trwy gydnabod hyn y gallwn ganfod atebion addas. Er y gwyddom y gwelir yr effaith fwyaf drwy ddatgarboneiddio ynni, trafnidiaeth, adeiladau a chaffael, bydd cydbwysedd y buddsoddiad yn y meysydd hyn yn amrywio rhwng pob awdurdod. Gallai cymunedau gwledig gynnig mwy yn nhermau rheoli tir ar gyfer storio a dal carbon ac adeiladu ar y gallu sylweddol maent eisoes yn ei gynnig ym maes ynni adnewyddadwy. Mewn ardaloedd mwy trefol, efallai mai rhwydweithiau gwresogi a theithio actif a fyddai’n sicrhau’r canlyniadau gorau. Dros Gymru gyfan, mae ôl-osod tai aneffeithlon yn flaenoriaeth, ond rhaid i’r atebion a ddefnyddir fod yn addas ar gyfer mathau penodol o stoc tai. Mae angen cydbwysedd felly rhwng sicrhau arbedion maint, a sicrhau bod yr atebion yn addas ar gyfer anghenion penodol yn seiliedig ar leoedd.

 

CRYNODEB A CHASGLIADAU

  • Mae’r cyhoedd yn dod yn fwyfwy cefnogol i’r syniad o weithredu ar newid hinsawdd. Nid delfryd yw hyn bellach, ond disgwyliad
  • Mae gan yr awdurdodau lleol ran allweddol i’w chwarae wrth ddatgarboneiddio’r sector cyhoeddus yng Nghymru, drwy’r gwasanaethau maent yn eu darparu, yr ystadau maent yn eu rheoli, a’r esiamplau y gallent eu gosod
  • Rhaid i’r sector cyhoeddus barhau i ddatblygu llwybr a fframwaith eglur er mwyn cwrdd â tharged 2030. Mae hyn yn galw am:
  • Arweinyddiaeth gref: heb hyn, ni allwn roi’r ymrwymiad na’r buddsoddiad sylweddol
  • Cydweithio: drwy’r sector cyhoeddus i gyd, gan ymgysylltu â’r trydydd sector a’r sector preifat – rhaid rhannu atebion os am rannu her
  • Data a phenderfyniadau a wneir ar sail blaenoriaeth: fe’u gwneir ar sail gwybodaeth a dylent gynnig gwerth am arian o safbwynt eu heffaith ar garbon, y cyd-fanteision a’r gost
  • Atebion cynaliadwy, hirdymor yn unol â Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol
  • Cefnogaeth adnoddau, nawdd a pholisi

Mae rhagor o wybodaeth gan: Tim Peppin

  About

Mae Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru (WLGA) yn cynrychioli buddiannau byd llywodraeth leol ac yn hyrwyddo democratiaeth leol yng Nghymru.

  Cysylltwch â ni

Ffôn : 029 2046 8600
E-bost : enquiry@wlga.gov.uk
Oriau busnes : Llun - Iau 8:30 - 5:00, Gwen - 08:30 - 16:30