Diben Cyngor Partneriaeth Cymru yw hyrwyddo cydweithio a chydweithredu rhwng Llywodraeth Cymru a llywodraeth leol.
Bydd Cyngor Partneriaeth Cymru (y Cyngor Partneriaeth) yn darparu atebolrwydd ac arweiniad gwleidyddol i’r gwaith o ddiwygio’r gwasanaethau cyhoeddus a’r cydweithrediad rhyngddynt, ac yn ysgogi’r broses o wella gwasanaethau cyhoeddus Cymru.
Yr Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a Llywodraeth Leol fydd yn cadeirio’r Cyngor Partneriaeth, prif gyfrifoldebau’r Cyngor yw:
- annog deialog rhwng Gweinidogion Cymru a llywodraeth leol ar faterion sy’n effeithio ar lywodraeth leol yng Nghymru, yn unol ag Adrannau 72 a 73 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006;
- darparu atebolrwydd gwleidyddol cyfun ar gyfer camau i wneud y gwasanaethau cyhoeddus yn fwy effeithiol ac effeithlon.
Cliciwch yma i weld aelodau’r Cyngor a phapurau.