Mae WLGA wedi llunio pecynnau cymorth am wasanaethau tai gwell i helpu byd llywodraeth leol i wella gwasanaethau tai. Mae'r pecynnau hyn yn cynnig templed hyblyg ar gyfer adolygu gwasanaethau, nodi risgiau a pharatoi cynllun gwella.
Mae chewch pecyn cymorth ar gael yn y meysydd isod:
- Swyddogaeth strategol ym maes tai
- Cyngor am faterion tai a digartrefedd
- Rheoli Rhaglen 'Cefnogi Pobl'
- Atgyweirio a gwella tai
- Cydweithio â landlordiaid preifat
- Tai Lloches
Mae'n bwysig defnyddio'r pecynnau mewn modd adeiladol ac agored, gan ymgysylltu'n llawn â'r budd-ddalwyr i gyd.
Llawlyfrau arferion da i landlordiaid a deiliaid prydlesau yng Nghymru
Llywodraeth Cymru, Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru (WLGA), Tai Cymunedol Cymru a Gwasanaeth Cynghori’r Deiliaid Prydlesau (LEASE) wedi llunio’r llawlyfrau ar y cyd. Maen nhw ar ddwy ffurf:
- Gweithiau mawr: Llawlyfr arferion da i landlordiaid - Diben y llawlyfr yw helpu landlordiaid cymdeithasol i reoli proses y gweithiau mawr mewn modd teg a chyson
- Gweithiau mawr: Llawlyfr ar gyfer deiliaid prydlesau landlordiaid cymdeithasol - Ei ddiben yw esbonio ystyr ‘gweithiau mawr’, beth yw cyfrifoldebau eich landlord yn ôl y gyfraith a pha arferion da y dylai’r landlord eu defnyddio yn ystod gweithiau mawr ar eich safle.
Mae rhagor o wybodaeth gan: Jim McKirdle