Caffael cydweithredol fodern yn seiliedig ar ganlyniadau: Canllaw cyfreithiol ymarferol i gomisiynwyr a swyddogion caffael
Comisiynodd y Bwrdd Comisiynu Cenedlaethol, gan weithio mewn partneriaeth gyda Gofal Cymdeithasol Cymru, Léonie Cowen o Léonie Cowen & Associates i osod trosolwg cyfreithiol a chanllaw arferion da i’r gyfundrefn gaffael gyhoeddus ar gyfer y gwasanaethau gofal cymdeithasol. Gellir gweithredu'r rhain yr un fath ar gyfer y gwasanaethau iechyd. Comisiynwyd hyn yn wreiddiol i gefnogi'r Pecyn Gwaith Gofal Cartref ond gellir ei ddarllen yn annibynnol a'i weithredu gyda gwasanaethau cymunedol eraill.
Caiff y cymhelliant dros gomisiynu'r canllawiau ei yrru gan yr angen i sicrhau fod arfer caffael yn cefnogi darparu’r gwasanaeth yn unol â bwriadau polisi a deddfwriaeth Llywodraeth Cymru yn ymwneud â’r gwasanaethau iechyd a’r gwasanaethau cymdeithasol. Mae hyn yn golygu fod angen i wasanaethau gofal a chefnogi ganolbwyntio ar sicrhau deilliannau lles y mae pobl sydd angen gofal a chymorth a gofalwyr sydd angen cymorth am eu cyflawni.
Rydym eisiau i gomisiynwyr weithio gyda chydweithwyr caffael a chyfreithiol i gynllunio'r trefniadau caffael mwyaf effeithiol a all sicrhau gwasanaethau personol all gyflawni’r deilliannau sydd eu hangen o ran lles yr unigolyn. Pwrpas y canllawiau yw i annog y trafodaethau hyn fel bod ein trefniadau caffael a chytundebau yn cefnogi ein huchelgais o ddatblygu gwasanaethau personol sy’n canolbwyntio ar ddeilliannau.
Mae rhagor o wybodaeth gan: Maria Bell