Mae gwella a diogelu’r amgylchedd yn effeithio’n fawr ar ansawdd bywydau pobl. Mae’r cynghorau lleol yn gwneud hynny er bod llai a llai o arian ar ei gyfer.
O ganlyniad i arloesi parhaus yng ngwasanaethau’r cynghorau lleol, mae Cymru yn ailgylchu mwy na gwledydd eraill y Deyrnas Gyfunol bellach.
Bydd yn anodd gwella eto fyth. Mae angen bwrw ymlaen ar y cyd, gan alluogi pob cyngor i gyflawni targedau ailgylchu statudol uchelgeisiol trwy lunio gwasanaethau cyhoeddus yn ôl anghenion ei fro.
Mae gan y cynghorau wasanaethau amryfal megis gwella’r dirwedd, rhwystro bioamrywiaeth rhag dirywio, rheoli perygl llifogydd a helpu cymunedau i ymaddasu yn sgîl y newid hinsoddol. Mae'r tri pharc cenedlaethol, sy'n aelodau cyswllt o WLGA, yn cyflawni rôl bwysig yn y meysydd hynny i gyd a rhagor.
Mae’r cynghorau’n arwain proses cyflwyno Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol ac, ar yr un pryd, yn hwyluso deilliannau cymdeithasol, economaidd a diwylliannol mwyfwy buddiol.
Mae’r cynghorau lleol yn cyflawni rôl hanfodol yn ymdrech Cymru i wella diogelwch ynni a hyrwyddo ynni adnewyddadwy, hefyd.
Mae’n Rhaglen Gwella Gwastraff yn parhau i helpu cynghorau i feincnodi gwasanaethau cynaladwy ar gyfer rheoli gwastraff ac yn rhoi ymchwil fanwl i’w helpu i gyflawni rhagor.
Rydyn ni’n helpu cynghorau trwy eu hyfforddi a lledaenu’r arferion gorau ym maes llifogydd a dŵr. Rydyn ni’n cydweithio â phartneriaethau lleol i lunio buddsoddiadau ynni adnewyddadwy y bydd byd llywodraeth leol yn eu harwain, hefyd.
I gyflawni hynny i gyd, byddwn ni’n cydweithio â Llywodraeth Cymru, Cyfoeth Naturiol Cymru a’n cymunedau gan eu helpu i lunio polisïau’r wlad ym maes yr amgylchedd.
Ein nod yw cynnig gwasanaethau cyhoeddus lleol a fydd yn gwella ac yn diogelu’r amgylchedd er lles y genhedlaeth bresennol a rhai’r dyfodol.
Dolen:
Mae rhagor o wybodaeth gan: Tim Peppin