Pecyn gwaith parodrwydd trefniadau pontio'r UE (2020)
Y meysydd i ganolbwyntio arnynt wrth baratoi busnesau (Atodiad A)
Mae’r Pecyn Gwaith Brexit a baratowyd yn wreiddiol wedi ei ddiweddaru gyda Phecyn Gwaith Parodrwydd Trefniadau Pontio’r UE ac mae’n seiliedig ar yr wybodaeth ddiweddaraf. Dylid ei ddarllen ochr yn ochr â’r canllawiau cenedlaethol a ddarparwyd gan Lywodraeth Cymru.
Fel fersiynau blaenorol o’r pecyn gwaith, mae’r ddogfen hon yn canolbwyntio ar dri maes allweddol y mae trefniadau pontio’r UE yn debygol o gael yr effaith fwyaf sylweddol arnynt: Eich Sefydliad; Eich Gwasanaeth a’ch Cyflenwyr a’ch Lle.
Pecyn gwaith parodrwydd am Brexit (2019)
Mae awdurdodau lleol Cymru wastad wedi ymdopi ag ansicrwydd ac wynebu heriau ar ran cymunedau. Er bod canlyniad y trafodaethau Brexit yn dal yn ansicr, mae’n hanfodol bod cynghorau’n pennu llwybr i sicrhau bod gwasanaethau’n parhau i gael eu darparu a sicrhau’r canlyniadau gorau posib’ ar gyfer eu cymunedau a’u heconomïau lleol.
Mae’r pecyn gwaith wedi’i ddylunio i ddarparu dull cynhwysfawr a chyson i gefnogi Awdurdodau Lleol Cymru i ddeall a mynd i’r afael â goblygiadau Brexit yn lleol.
Wedi’i lunio mewn partneriaeth â Grant Thornton ac yn rhan o Raglen Cefnogi Trosglwyddiad Brexit ar gyfer awdurdodau lleol Cymru, bwriad y pecyn gwaith yw cefnogi gwleidyddion a swyddogion gweithredol lleol sy’n gwneud penderfyniadau i ddeall y risgiau a’r cyfleoedd posib’ sy’n dod yn sgil Brexit, gan sicrhau eu bod yn gofyn y cwestiynau cywir yn lleol ac yn rhoi cynlluniau cadarn ar waith ar ran eu cymunedau a’u busnesau.