Swyddog Cyfathrebu, Ymchwil a Gwella Tîm Niwrowanhaniaeth Cenedlaethol

Dyddiad Cau:  Dydd Llun 29 Ionawr 2024

Dyddiad Cyfweliad:  Dydd Iau 15 Chwefror 2024


Cyflog:                   Gradd 3* SCP (25 – 29 (£29,577- £32.910)

Tymor:                    Hyd at 31 Mawrth 2025


Swydd o dan gyfyngiadau gwleidyddol:  Ydi

Cymraeg yn hanfodol:  Na. Mae gallu  siarad ac ysgrifennu’n rhugl yn ddymunol ar gyfer y rôl hon


Ynglŷn â’r Swydd                                

Mae’r swydd hon yn canolbwyntio’n bennaf ar ddatblygu cynnwys penodol am Anhwylderau Niwroddatblygiadol ar gyfer amrywiaeth o hyfforddiant cenedlaethol, codi ymwybyddiaeth ac adnoddau cefnogol, yn seiliedig ar dystiolaeth o’r angen, tystiolaeth ymchwil ac ymarfer proffesiynol.  Mae tair elfen allweddol i’r swydd:

Cyfathrebu (50%)
Gwella gan gynnwys ymwybyddiaeth o bolisïau a dylanwadu arnynt (30%)
Ymchwil (20%)

 

Mae’r swydd yn darparu capasiti cyfathrebu, ymchwil a gwella ar gyfer y tîm. Agwedd allweddol o’r swydd yw cyfrannu at gynnal a chadw gwefan bresennol AwtistiaethCymru.org / AutismWales.org ac arwain ar allbynnau’r Tîm ar y cyfryngau cymdeithasol. Bydd deiliad y swydd yn rhoi cefnogaeth wrth ymchwilio i ymarfer i lywio digwyddiadau, gweminarau a datblygiadau eraill yn y dyfodol. Mae’r swydd yn cynnwys cysylltu ag uwch weithwyr proffesiynol mewn Byrddau Iechyd ac Awdurdodau Lleol, sefydliadau gwirfoddol, rhieni / gofalwyr a phobl niwrowahanol, a bydd ganddyn nhw ran bwysig mewn cyfathrebu a rhannu gwybodaeth ar draws y grwpiau hyn. 

 

Mae'r swydd hon yn rhan o dîm cefnogi a datblygu integredig unigryw ac mae wedi’i chynnal gan Gymdeithas Llywodraeth Leol Cymru a gweithio mewn partneriaeth ag Iechyd Cyhoeddus Cymru.  Mae hon yn swydd genedlaethol Cymru gyfan a bydd yn golygu teithio ledled Cymru.


Gwnewch gais Rŵan!

I gael sgwrs gychwynnol ynglŷn â’r swydd a’r sefydliad, cysylltwch â Wendy Thomas, Pennaeth Gwasanaeth ND Cymru ar 07717822479.

I wneud cais, anfonwch lythyr eglurhaol gyda ffurflen gais wedi'i chwblhau erbyn y dyddiad cau,Dydd Llun 29 Ionawr 2024  i: recruitment@wlga.gov.uk

Gwahoddir ymgeiswyr ar y rhestr fer i gyfweld panel dethol drwy Microsoft Teams ar  Dydd Iau 15 Chwefror 2024            

Efallai y bydd gofyn i ymgeiswyr ar y rhestr fer gwblhau tasg cyn bod yn bresennol yn y cyfarfod, yn ogystal â thasgau cyn cyfweliad ar y diwrnod, wedi’i ddilyn gan gyfweliad gyda phanel dethol.

Bydd yn ofynnol i'r ymgeisydd llwyddiannus ddarparu tystiolaeth o hunaniaeth a chymhwysedd i weithio yn y DU.


 

  About

Mae Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru (WLGA) yn cynrychioli buddiannau byd llywodraeth leol ac yn hyrwyddo democratiaeth leol yng Nghymru.

  Cysylltwch â ni

Ffôn : 02920 468680
E-bost : ymholiadau@wlga.gov.uk
Oriau busnes : Llun - Iau 8:30 - 5:00, Gwen - 08:30 - 16:30