Teclyn a Chanllawiau Defnydd Tir a Secwestriad Carbon CLlLC

 

Mae’r Teclyn Mapio Secwestriad Tir a Charbon ar gyfer swyddogion cyngor, aelodau etholedig a’r rhai sy’n gwneud penderfyniadau mewn awdurdodau lleol i:

 

  • gyfrifo allyriadau tir a secwestriad ar gyfer adrodd blynyddol.
  • deall effeithiau allyriadau defnydd tir a secwestriad rhaglenni, prosiectau a newid defnydd tir.
  • cyfrifo'r carbon sy'n cael ei secwestru a'i allyrru trwy wahanol fathau o dir.

 

Mae’r teclyn â’r canllawiau yn rhan o lyfrgell o setiau data a mapiau i gefnogi cynghorau i ddeall effaith carbon eu mathau o dir a chynefinoedd.

 

 

Canllawiau Tir a Secwestriad a Storio Carbon CLlLC

 

Mae'r canllawiau hyn yn ymdrin â; cysyniadau allweddol; dulliau rheoli ar gyfer gwahanol fathau o dir; dulliau strategol; rheoli asedau; dylanwadu ar eraill; ac arweinyddiaeth; a chyfres o ymarferion integreiddio i awdurdodau eu cynnal.

 

Gall y canllawiau hyn helpu uwch dimau arweinyddiaeth, rheolwyr asedau, cynllunwyr, rheolwyr gweithredol ac aelodau etholedig i integreiddio dulliau o ddal a storio carbon i mewn i’w gwaith. 

 

Teclyn Secwestriad a Storio Allyriadau Nwyon Tŷ Gwydr a Charbon CLlLC

 

Mae’n bwysig bod awdurdodau lleol yn mesur allyriadau defnydd tir a dal a storio carbon i nodi’r dull o wneud penderfyniadau ac ymarfer, ac adrodd yn flynyddol ar eu hallyriadau defnydd tir.

 

Mae CLlLC wedi datblygu Teclyn Secwestriad a Storio Allyriadau Nwyon Tŷ Gwydr a Charbon i gefnogi hyn.

 

Gall y dull hwn, sydd wedi’i gynnal gan Data MAP Cymru, helpu awdurdodau lleol:

 

  • cyfrifo allyriadau tir ar gyfer adrodd blynyddol.
  • deall effeithiau allyriadau defnydd tir rhaglenni, prosiectau a newid defnydd tir.
  • cyfrifo’r carbon sy’n cael ei ddal, ei storio a’i allyrru drwy wahanol weithgareddau sy’n gysylltiedig â rheoli tir.

 

Pam fod carbon tir mor bwysig i awdurdodau lleol?

 

  • Gellir dal a storio carbon mewn gwahanol dir, llystyfiant, pridd a gwaddod dros amser.
  • Gall awdurdodau lleol annog y broses hon o fewn yr asedau tir ac adeiladau maent yn berchen arnynt, eu rheoli, eu gosod a’u dylanwadu.
  • Mae dal a storio carbon yn y dull hwn yn helpu i wrthbwyso allyriadau carbon deuocsid sy’n cyfrannu at newid hinsawdd.
  • Gall rheolaeth carbon tir effeithiol helpu ymdrechion y Cyngor wrth fynd i’r afael â’r argyfwng newid hinsawdd.
  • Gall hyn helpu i wrthbwyso allyriadau nwyon tŷ gwydr y sefydliad o ganlyniad i ddarpariaeth gwasanaeth, gan ei helpu i weithio tuag at dargedau allyriadau Net Sero erbyn 2030.
  • Gall dulliau o ddal a storio carbon gynnig manteision ar gyfer bioamrywiaeth, adfer natur a helpu awdurdodau i fynd i’r afael â’r argyfwng naturiol.
  • Gall awdurdodau lleol ddylanwadu ar eraill i ddal a storio carbon drwy reolaeth tir ar draws ardal yr awdurdod lleol, yn eu gwahanol rolau fel rheolydd, cynllunydd, datblygwr a phartner prosiect.

 

Mae’n berthnasol i nifer o wahanol rolau a senarios rheoli tir:

 

  • Adfywio - Dal a storio carbon mewn perthynas â newid defnydd tir ac isadeiledd gwyrdd ar safle adfywio.
  • Rheoli Asedau/Eiddo - Dal a storio carbon cronnol sy’n gysylltiedig â strategaeth rheoli asedau/eiddo.
  • Tir Ysgol - Dal a storio carbon asedau ysgolion, ar y cyd, ac yn unigol.
  • Cynlluniau Lleoedd - Archwilio cyfleodd ar gyfer dal a storio carbon fel rhan o ddatblygiad cynllun ar lefel gymunedol.
  • Datblygiad - Dal a storio carbon sy’n gysylltiedig â newid defnydd tir o gais cynllunio gan ddatblygwr.
  • Coetiroedd - Dal a storio carbon sy’n ymwneud â gorchudd coed a gwrych presennol, ac effaith posib coetir newydd a phlannu cloddiau.
  • Coridorau Afon - Dal a Storio Carbon a thir ar hyd coridorau afon, ar y cyd gyda dulliau o reoli maetholion.
  • Cadwraeth natur: safleoedd penodol - Dal a storio carbon sy’n gysylltiedig â safleoedd penodol sydd eisoes yn bodoli, ar y cyd gyda rheolaeth tymor hir o’u nodweddion dynodedig.
  • Parciau a Mannau Agored - Dal a storio carbon sy’n gysylltiedig ag asedau tir sy’n cael eu rheoli gan y Cyngor.
  • Cynllun Isadeiledd Gwyrdd - Dal a storio carbon sy’n gysylltiedig â sawl prosiect a ddarperir gan bartneriaid i gefnogi isadeiledd gwyrdd.
  • Adfer Natur - Dal a storio carbon sy’n gysylltiedig â phrosiectau sy’n ymwneud â phrosiectau sy’n cael eu cyflawni drwy Cynllun Adfer Natur a Lleoedd Lleol ar gyfer Ariannu Natur.

 

Sefydlu secwestriad a storio carbon fel canlyniad allweddol i weithgareddau awdurdod lleol

 

Mae awdurdodau lleol yn rheoli ystod eang o asedau tir ac adeiladau. Mae’r rhain yn cynnwys sawl cyfle i ddal a storio carbon mewn perthynas â’r ffordd y mae tir, pridd a llystyfiant sy’n gysylltiedig â’r asedau yn cael eu rheoli.

 

Bydd gwella’r modd o ddal a storio carbon drwy reoli asedau/eiddo, gweithgarwch adfywio, cynllunio datblygiadau ac ystod eang o raglenni a phrosiectau’r Cyngor yn her.

 

Bydd sefydlu carbon tir fel canlyniad allweddol ar gyfer rheoli’r asedau hyn yn bwysig, fel bod dal a storio carbon yn cael ei gyflawni ar y cyd gyda chanlyniadau lles eraill.

 

Bydd angen arweinyddiaeth ac integreiddiad effeithiol ar draws y Cyngor mewn perthynas â gwella’r modd o ddal a storio carbon.

 

Mae CLlLC wedi llunio’r canllawiau canlynol i gefnogi’r broses:

  About

Mae Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru (WLGA) yn cynrychioli buddiannau byd llywodraeth leol ac yn hyrwyddo democratiaeth leol yng Nghymru.

  Cysylltwch â ni

Ffôn : 02920 468680
E-bost : ymholiadau@wlga.gov.uk
Oriau busnes : Llun - Iau 8:30 - 5:00, Gwen - 08:30 - 16:30