Yn sgîl cyflwyno Cynllun Rhentu Doeth Cymru fis Tachwedd 2015, rhaid i landlordiaid ac asiantaethau anheddau preifat gofrestru, yn ogystal â rhoi manylion eu hanheddau bellach.
Rhaid i landlordiaid ac asiantau gydymffurfio â gofynion y cynllun newydd cyn pen blwyddyn. O fethu â gwneud hynny, byddan nhw’n agored i gamau gorfodi awdurdodau lleol yn ogystal â’r awdurdod trwyddedu, Cyngor Caerdydd.
Mae modd cofrestru a chyflwyno cais am drwydded ar y we neu dros y ffôn: www.rhentudoeth.llyw.cymru neu 03000 133344.
Mae’r cynllun yn gofyn i bob landlord:
- gael ei asesu i bennu a yw’n ‘addas ac yn briodol’
- ymgymryd â hyfforddiant cymeradwy
- talu am gofrestru a thrwydded (mae manylion y taliadau ar y wefan)
Ar y llaw arall, bydd landlord yn cael penodi asiant trwyddedig i reoli anheddau ar ei ran, er y bydd yn ymwneud â’r broses o hyd.
Dyma nodau’r cynllun:
- rhwystro landlordiaid ac asiantau gwael rhag rheoli tai a’u rhoi ar osod
- codi ymwybyddiaeth landlordiaid, asiantau a thenantiaid am eu hawliau a’u cyfrifoldebau
- galluogi cynghorau lleol i nodi am y tro cyntaf y tai preifat i gyd sydd ar osod yn eu hardaloedd fel y bydd yn haws cydweithio’n agos â landlordiaid i ofalu bod safonau uchel ar waith
- disodli Cynllun Achredu Landlordiaid Cymru a throsglwyddo’r rhai oedd wedi cofrestru o’u gwirfodd ynddo i’r cynllun newydd
Mae rhagor o wybodaeth gan: Jim McKirdle