A chithau'n gynghorydd, efallai y bydd eich cyngor yn eich enwebu'n aelod o amryw fathau o gyrff allanol megis mudiadau cymunedol, cymdeithasau tai a chwmnïau lleol. O gael eich penodi i gorff o'r fath, fyddwch chi ddim yn cynrychioli buddiannau'r cyngor yno o reidrwydd. O'r herwydd, gallai'ch rôl yn gynghorydd a'ch rôl yn gynrychiolydd mewn corff allanol fod yn groes i'w gilydd, weithiau. Diben y daflen a'r pecyn cymorth isod yw'ch helpu i ddeall eich rôl ac osgoi unrhyw wrthdaro:
- Taflen i Aelodau - Penodiadau i gyrff allanol: Rôl y cynghorydd Agor y ddolen yma
- Pecyn cymorth i Aelodau - Penodiadau i gyrff allanol: Rôl y cynghorydd Agor y ddolen yma
Mae rhagor o wybodaeth gan: Sarah Titcombe