Comisiynu gwasanaethau gan gartrefi gofal yn integredig (Cytundeb Adran 33)

 

Templed cytundeb ar gyfer trafodaeth

Nodiadau Esboniadol

 

Rhan 9 Canllawiau a gyhoeddwyd o dan Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 yn ei gwneud yn ofynnol i Fyrddau Partneriaeth Ranbarthol i ddatblygu ymagwedd integredig i gomisiynu gwasanaethau o gartrefi gofal i bobl hŷn drwy’r defnydd o bartneriaethau ffurfiol a chyllidebau cyfun. Gweithiodd y Bwrdd Comisiynu Cenedlaethol gyda rhanbarth i ddatblygu model cytundeb partneriaeth ar gyfer trafodaeth gyda’r rhanbarthau i hwyluso'r datblygiadau hyn. Nid oedd y model wedi’i gynllunio fel templed gan y bydd pob partneriaeth ranbarthol yn ceisio ei gyngor cyfreithiol ei hun ac yn addasu'r cytundeb yn unol â hynny i greu eu cytundeb eu hunain. Cynhaliodd y Bwrdd Comisiynu Cenedlaethol weithdai ymhob rhanbarth i drafod y cytundeb.


Mae rhagor o wybodaeth gan: Maria Bell

  About

Mae Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru (WLGA) yn cynrychioli buddiannau byd llywodraeth leol ac yn hyrwyddo democratiaeth leol yng Nghymru.

  Cysylltwch â ni

Ffôn : 02920 468680
E-bost : ymholiadau@wlga.gov.uk
Oriau busnes : Llun - Iau 8:30 - 5:00, Gwen - 08:30 - 16:30