Ystyrir Datganiad Sefyllfa’r Farchnad (DSF) yn un o’r adnoddau a ddefnyddir i hwyluso perthynas barhaus rhwng comisiynwyr a darparwyr. Y ddau gwestiwn y mae angen i gomisiynwyr eu hystyried yw:
- Ydyn ni’n deall ein marchnad leol a busnesau ein darparwyr lleol? Oes gennym ni ymdeimlad o sefydlogrwydd y farchnad (darpariaeth gwasanaethau lleol)?
- Pa weithgareddau allwn ni eu cynnal i ddylanwadu ar yr amrediad o ofal a chymorth sydd ar gael wedi’i addasu i ymateb i faterion lleol penodol, ar hyn o bryd ac yn y dyfodol?
Bydd datblygu DSF yn cael ei ategu a’i hysbysu gan ddadansoddiad manwl o’r farchnad.
Mae datganiad sefyllfa’r farchnad yn ddogfen sy’n rhoi crynodeb o’r cyflenwad a’r galw mewn ardal / rhanbarth lleol, a dylai hysbysu darparwyr am gynlluniau’r comisiynwyr. Y bwriad yw i ddarparwyr ei ddefnyddio i ddylanwadu ar ddewisiadau a chynlluniau busnes megis buddsoddiad a chyfalaf neu bersonél. Bydd y wybodaeth yn galluogi darparwyr i gydweithio â chomisiynwyr a chynllunio’u datblygiad busnes, gan ddeall i ba gyfeiriad y mae’r comisiynwyr (awdurdodau lleol a byrddau iechyd) yn mynd, a hefyd pam eu bod yn mynd i’r cyfeiriad hwnnw ac ar sail pa dystiolaeth.
Enghreiftiau o arfer da:
Cydweithredfa Gwella Gofal Cymdeithasol a Lles Gogledd Cymru
Datganiad Siapio'r Farchnad 2018: Cartrefi Gofal i Bobl Hŷn
Prifysgol Oxford Brookes - Institute of Public Care
Astudiaeth Achos - Cyngor Sir Powys - Cynllunio ar gyfer dyfodol llety pobl hŷn ym Mhowys
Saesneg yn unig
Cyngor Sir Powys
Datganiad o Sefyllfa'r Farchnad 2017: Llety ar gyfer poblogaeth sy'n heneiddio
Saesneg yn unig
Mae rhagor o wybodaeth gan: Maria Bell