Croeso i Hyb Meincnodi Ariannol Gwasanaethau Gwastraff byw Rhaglen Gwella Cymru ar-lein a ddatblygwyd ar y cyd ag Data Cymru ac mae’n darparu cronfa fanwl o ddata ariannol yn ymwneud â gwastraff o 22 awdurdod lleol Cymru. Mae’r data hwn yn cynnwys pum maes ar gyfer y cyfnod 2011 - 2019, sef:
- Gwasanaethau Gwastraff Bwyd
- Gwasanaethau Gwastraff Gweddilliol
- Gwasanaethau Ailgylchu Gwastraff Cartrefi (HWRC)
- Gwasanaethau Gwastraff Masnach
- Gwasanaethau Ailgylchu Sych
Data diweddaraf
Ar gael nawr:
- 2018/19 Papurau waith meincnodi: Gwasanaethau casglu gwastraff ar garreg y drws (A'r data ategol)
- 2018/19 Adroddiad meincnodi: Gwasanaethau gwastraff masnachol (A'r data ategol)
- 2018/19 Data meincnodi ariannol gwasanaethau gwastraff
- 2018/19 Compendiwm data gwastraff trefol
Crëwyd yr Hyb yn dilyn argymhelliad a wnaed ar ôl adolygiad a gynhaliwyd gan Ricardo AEA i waith meincnodi Cymru. Ei nod yw gwella lledaenu data'r gwaith meincnodi. Trwy gydgrynhoi’r data mewn un lle, mae’r Hyb yn rhoi cyfle i swyddogion mewn awdurdodau lleol gwestiynu a chael mynediad i’r data yn ôl eu dymuniad.
Cyfarwyddiadau ymuno ar gyfer swyddogion awdurdodau leol
Er mwyn defnyddio’r Hyb, bydd angen creu cyfrif ar-lein wedi ei ddiogelu gan gyfrinair yn gyntaf. Ewch i wefan Data Cymru yma, agor y ddolen i gofrestru. Wrth gofrestru, nodwch mai data gwastraff y mae gennych ddiddordeb ynddo pan ofynnir y cwestiwn “Pam mae angen i chi gael mynediad i’r Hyb Meincnodi?”
Ar ôl i chi gofrestru ac ymweld â’r Hyb Meincnodi, byddem yn croesawu unrhyw adborth sydd gennych. Cyflwynwch eich sylwadau trwy’r cyfeiriad e-bost isod.
DOLEN:
FyNghyngorLleol
Pecyn sydd wedi ei ddylunio i ddod â data perfformiad i’r cyhoedd yw FyNghyngorLleol. Mae’n cynnig cyfle i ddefnyddwyr weld sut mae eu cyngor hwy yn perfformio o’i gymharu â chynghorau eraill ledled Cymru. Adran ar berfformiad gwastraff ac ailgylchu am 2018/19.
Mae rhagor o gwybodaeth gan: Barry Williams