
Sefydlwyd Partneriaeth Mewnfudo Strategol Cymru (WSMP) yn 2001, mae’n cael ei ariannu gan y Swyddfa Gartref ac mae’n gweithio gyda rhanddeiliaid yn y sectorau statudol, gwirfoddol, preifat a chymunedol i ddarparu arweinyddiaeth strategol, cynghorol a chydlynol ar ymfudo yng Nghymru. Mae yna hefyd Bartneriaethau Mewnfudo ar draws y DU, yn ffurfio seilwaith cenedlaethol.
Mae Partneriaeth Mewnfudo Strategol Cymru yn cael ei chynnal gan Gymdeithas Llywodraeth Leol Cymru (CLlLC) i adlewyrchu rôl Cymru o’r Bartneriaeth ar ymfudo a helpu i feithrin gweithio’n agosach gyda’r 22 awdurdod lleol yng Nghymru, gan gysylltu â strwythurau gwleidyddol llywodraeth leol a blaenoriaethau lleol.
Rôl y Bartneriaeth yw:
- Hwyluso cydweithrediad a thrafodaeth ymhlith y DU, llywodraeth leol a datganoledig a gwasanaethau cyhoeddus, sector gwirfoddol a phreifat a holl bartneriaid â diddordeb mewn ymfudiad, i gefnogi camau strategol.
- Cyfrannu at ddatblygu a gweithredu polisi ymfudo cenedlaethol, datganoledig a lleol, datrys materion a rhannu arfer orau
- Cynorthwyo i ddarparu gwasanaethau sy’n diwallu anghenion ceiswyr lloches, ffoaduriaid a mewnfudwyr ar draws Cymru
- Gweithredu fel cwndid ar gyfer llif gwybodaeth dwy ffordd rhwng y Swyddfa Gartref ac adrannau eraill o’r llywodraeth a phartneriaid cenedlaethol (DU a Chymru)
Mae Bwrdd Gweithredol Partneriaeth Mewnfudo Strategol Cymru yn cwrdd tair gwaith y flwyddyn i sicrhau trosolwg strategol o raglenni mudo yng Nghymru a dull cydlynol, yn seiliedig ar leoedd. Mae cyfarfodydd y Bwrdd Gweithredol yn cael eu cadeirio gan y Cyng Andrea Lewis a mynychir gan aelodau etholedig ac uwch gynrychiolwyr awdurdodau lleol, y Swyddfa Gartref, Llywodraeth Cymru, Clearsprings/Ready Homes, y Groes Goch Prydeinig, Cymorth Mewnfudwyr, Cyngor Ceiswyr Lloches Cymru, Iechyd Cyhoeddus Cymru, Alltudion ar Waith (DPIA), Heddluoedd Cymru, Cymunedau Ffydd. Arsylwyr: Comisiynydd Plant Cymru a Sefydliad y Cyfarwyddwyr
Gwefan:
Dolenni: