Mae'r fframwaith hwn yn amlinellu'r medrau a'r wybodaeth sy'n berthnasol i gynghorwyr fel y gallan nhw gyflawni eu gwahanol rolau ac yn awgrymu ffyrdd effeithiol o ymgymryd â'r rolau hynny. Nid rhestr gynhwysfawr a chyfarwyddol mo hon - y bwriad yw helpu cynghorwyr newydd a phrofiadol i nodi meysydd lle gallai fod angen cymorth arnyn nhw – boed ar ffurf gwybodaeth, hyfforddiant, gweithdai, hyfforddi personol/mentora neu gyfleon i ddysgu trwy wylio. Mae bwriad i'r fframwaith fod yn un hyblyg fel y gall cynghorwyr gydweithio â swyddogion i bennu'r dull mwyaf defnyddiol.
Ar gyfer pwy mae'r fframwaith?
Caiff pob cynghorydd ddefnyddio'r fframwaith - ar ei ben ei hun i nodi anghenion personol, fesul carfan i nodi beth allai fod o gymorth i bwyllgor neu gylch penodol, neu ar y cyd â'r swyddogion i flaenoriaethu anghenion datblygu a hyfforddi. Gallai'r fframwaith fod o gymorth i swyddogion cynorthwyo'r cynghorwyr a rheolwyr hyfforddi yn fan cychwyn dadansoddi anghenion hyfforddi. Mae modd addasu’r fframwaith yn ôl anghenion lleol.
Mae rhagor o wybodaeth gan: Ann-Marie McCafferty
Gwelliant@wlga.gov.uk