Mae ymddygiad gwrthgymdeithasol yn ymwneud ag amryw weithgareddau a allai amharu ar fywydau unigolion a chymunedau. Yn ogystal ag aflonyddu ar bobl, gall ymddygiad o'r fath rwystro ardaloedd rhag cael eu hadfywio a chreu amgylchiadau lle gallai troseddau mwy difrifol ddigwydd. Dyma enghreifftiau o ymddygiad gwrthgymdeithasol:
- cadw sŵn ac achosi niwsans
- pobl ifainc yn ymgasglu'n fygythiol mewn mannau cyhoeddus
- difrodi, murysgrifen a gosod posteri heb ganiatâd
- gwerthu a phrynu cyffuriau yn y stryd;
- gadael sbwriel a cherbydau heb ganiatâd
- yfed gwrthgymdeithasol
- camddefnyddio tân gwyllt
Mae awdurdodau lleol a phartneriaethau dros ddiogelwch yn y gymuned ledled Cymru yn gwneud llawer i fynd i'r afael ag ymddygiad o'r fath yn eu cymunedau.
Yn sgîl Deddf ‘Ymddygiad Gwrthgymdeithasol, Troseddu a Phlismona’ 2014, mae gan asiantaethau bwerau a dulliau newydd ar gyfer mynd i’r afael ag ymddygiad gwrthgymdeithasol, gan gynnwys gorchmynion sifil, sy’n disodli’r ASBO.
Mae sbardun y gymuned a chywiriad y gymuned yn grymuso dioddefwyr a chymunedau hefyd, fel y gallan nhw ddweud eu dweud ynglŷn â’r modd mae asiantaethau’n ymateb i gwynion am ymddygiad gwrthgymdeithasol ac yn cosbi troseddwyr.
Dolenni: Llywodraeth Cymru / Y Swyddfa Gartref
Mae rhagor o wybodaeth gan: Rachel Morgan