Mae gwasanaethau cyhoeddus lleol yn cynorthwyo ein cymunedau bob dydd. I’w cynnal, mae angen un o weithluoedd mwyaf yng Nghymru ynghyd â medrau amryfal iawn.
Mae dros 140,000 o bobl yn gweithio yn y cynghorau. Felly, mae tua un o bob naw o weithwyr Cymru yn ymwneud yn uniongyrchol â chynnig gwasanaethau hanfodol i’n cymunedau ni.
Mae gweithwyr y cynghorau lleol yn wynebu cyfnod anodd. Bydd cyllidebau’r cynghorau yn crebachu bob blwyddyn er bod rhagor o alw am eu gwasanaethau. Felly, rhaid arloesi drwy’r amser.
I ateb amryw heriau’r dyfodol, rhaid meithrin medrau, datblygu arweinyddion fydd yn gallu ysgogi’r staff a llunio gweithlu sy’n gallu diwallu anghenion cyfnewidiol.
Mae cynghorau lleol Cymru yn gyflogwyr uchel eu parch na all neb gymryd eu lle. Rhaid rhoi iddyn nhw ryddid i lunio gweithluoedd a gwasanaethau yn ôl anghenion pobl pob bro.
Rydyn ni’n helpu cynghorau lleol i ledaenu’r arferion gorau a dysg, cynnig cyfarwyddyd am y gyfraith ym maes cyflogaeth, meithrin medrau’r staff a chydweithio wrth lunio gweithlu’r dyfodol.
A ninnau’n sefydliad cyflogwyr llywodraeth leol Cymru, rydyn ni’n cydnabod gwaith diogelu cyfraniad hanfodol gweithlu maes llywodraeth leol ynglŷn â gwella cyflwr cymdeithasol ac economaidd pob cymuned, ac rydyn ni am gadw cydberthynas ddiwydiannol dda â’r gweithlu.
Mae rhagor o wybodaeth gan: Jenna Redfern