Croeso i’r Canllawiau ar Arferion da ynghylch Gwasanaethau Comisiynu ar gyfer Pobl ag Anableddau Dysgu.
Mae Bwrdd Comisiynu Cenedlaethol Cymru (NCB) wedi datblygu’r canllawiau hyn. Maen nhw wedi gwneud y canlynol
- penodi yr Institute of Public Care, Prifysgol Oxford Brookes i gefnogi datblygiad y canllawiau; a
- gweithio mewn partneriaeth gyda chynrychiolwyr yn y rhanbarthau a’r Grŵp Cynghori ar Anabledd Dysgu.
Bwriad y canllawiau yw darparu arweiniad o’r radd flaenaf i gefnogi’r dasg o weithredu Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 mewn perthynas â chomisiynu gwasanaethau ar gyfer pobl ag anableddau dysgu. Yn y pen draw, bydd canllawiau manylach yn cymryd lle’r rhain o ran meysydd gwasanaeth penodol, gan ddechrau gyda gwasanaethau byw â chymorth.
Ar ben rhoi arweiniad mewn perthynas â chomisiynu, gall comisiynwyr hefyd ddefnyddio’r adnodd hwn i edrych yn fanwl ar eu harferion comisiynu cyfredol.
Dolenni (Sefydliadau): Institute of Public Care, Prifysgol Oxford Brookes
Dolenni (Adnoddau): Cyfarwyddyd Ymarfer ar ddatblygu strategaeth gomisiynu ar gyfer pobl sydd ag anabledd dysgu (Llywodraeth Cymru) (Saesneg yn unig)
Mae rhagor o wybodaeth gan: Maria Bell