Cyfamodau CymunedolFis Mai 2011, penderfynodd Llywodraeth San Steffan wella perthynas y boblogaeth, llywodraethau a’r lluoedd arfog trwy gyflwyno Cyfamod y Lluoedd Arfog. Prif ddiben y ddogfen yw amlinellu egwyddorion neu gyfrifoldebau moesol Deddf y Lluoedd Arfog 2011 ynglŷn â thrin a thrafod aelodau o’r lluoedd arfog a’u teuluoedd. Mae’n helpu i osgoi unrhyw anfanteision y gallen nhw eu profi, hefyd. Mae cyfamodau wedi’u cyflwyno fel y bydd modd ychwanegu at y cymorth lleol.
Beth yw cyfamod ynglŷn â’r lluoedd arfog?
Ar wahân i roi cyfle i anrhydeddu lluoedd arfog y Deyrnas Gyfunol, nodau cyfamod o’r fath yw:
- annog cymunedau lleol i gefnogi’r lluoedd arfog yn eu hardaloedd nhw a meithrin dealltwriaeth ac ymwybyddiaeth y cyhoedd am faterion sy’n effeithio arnyn nhw
- cydnabod a chofio aberthau’r lluoedd arfog
- hybu gweithgareddau sy’n helpu i gymathu’r lluoedd arfog ym mywyd y fro
- annog pobl y lluoedd arfog i gynorthwyo a chefnogi’r gymuned ehangach – boed trwy gymryd rhan mewn gweithgareddau a phrosiectau ar y cyd neu fathau eraill o ymgysylltu
Gwaith awdurdodau lleol Cymru
Mae cyfamod lluoedd arfog gan bob un o 22 awdurdod lleol y wlad. Bu achlysuron arbennig lle llofnododd cynrychiolwyr y cyngor a’r lluoedd arfog gyfamod y fro.
Mae pob cyfamod wedi’i llunio yn ôl anghenion y lluoedd arfog sydd yn y fro dan sylw. I gyflawni’r cyfrifoldebau mae pob cyngor wedi ymrwymo iddyn nhw yn y cyfamodau, mae rhaid cydweithio ag amryw bartneriaid megis Llywodraeth Cymru, byrddau iechyd lleol, cymdeithasau tai, colegau a phrifysgolion.
Trwy lofnodi cyfamod, mae pob awdurdod lleol wedi:
- Penodi cynghorydd i hybu materion y lluoedd arfog, gofalu bod yr awdurdod yn cadw at yr hyn yr ymrwymodd iddo a chwalu unrhyw feini tramgwydd. Mae pob hyrwyddwr yn gweithio gyda chymorth uwch swyddog
- Sefydlu gwefan ar y cyd â’r prif sefydliadau cysylltiedig. Mae’r wefan yn cynnig cymorth a chefnogaeth arbenigol i bobl y lluoedd arfog (aelodau cyfredol, y rhai wrth gefn, hen filwyr, perthnasau a gweddwon) mewn meysydd megis addysg, cyflogaeth, iechyd, lles, materion teuluol a materion ariannol
- Sefydlu prosiectau i gryfhau cysylltiadau a pherthynas y lluoedd arfog â’r gymuned ehangach lle maen nhw’n byw. Mae hynny wedi’i gyflawni trwy gyflwyno ceisiadau llwyddiannus o dan y grant Covenant Fund
Mae rhai awdurdodau lleol wedi bwrw ymlaen â’u prosiectau eu hunain hefyd i helpu lluoedd arfog eu hardaloedd nhw:
- Yn Wrecsam, mae'r cyngor yn cynnal cynllun nofio’n rhad ac am ddim i hen filwyr
- Ym Mro Morgannwg, mae'r cyngor wedi cyflwyno polisi lle mae’n holi pawb sy’n cysylltu â’r cyngor a yw’n ymwneud â’r lluoedd arfog o gwbl i ofalu bod yr holl wasanaethau priodol ar gael i bobl y lluoedd arfog. Mae’r cyngor wedi cydweithio â phartneriaid allanol i gynnig cronfa ddata ar y we o’r cymorth sydd ar gael
- Yng Ngheredigion, mae'r cyngor wedi cyflwyno rhif ffôn arbennig i bobl y lluoedd arfog lle mae modd cael cynghorion a gwybodaeth trwy staff mae Lleng Frenhinol Prydain wedi’u hyfforddi
- Yng Nghaerdydd, mae'r cyngor yn cynnal prosiect ar y cyd â sefydliad tai Trivallis a Phartneriaeth Hen Filwyr Cymru i gynnig cartrefi cynaladwy i hen filwyr a’u teuluoedd. Cydweithiodd y cyngor â Trivallis, Partneriaeth Hen Filwyr Cymru a chwmni Seraph Property Management i godi 152 o dai newydd ym Mae Caerdydd. Bydd yn neilltuo o leiaf 15% i hen filwyr sydd ar restr y rhai sy’n aros am gartref. Mae’r cyngor o’r farn bod prosiect o’r fath yn cyd-fynd ag ysbryd Cyfamod y Lluoedd Arfog
Dolenni:
Mae rhagor o wybodaeth gan: Rachel Morgan