Mae prosiect Claddedigaethau, Amlosgiad a Dulliau Angladdol Newydd Comisiwn y Gyfraith yn rhannu’r Cylch Gorchwyl a gytunwyd, a’r amserlen ar gyfer y tair elfen wahanol o waith:
- Claddedigaethau ac Amlosgiad, a fydd yn edrych ar y gyfraith sy’n llywodraethu gwahanol fathau o diroedd claddu ac amlosgfeydd. Bydd hyn yn cynnwys ystyried ailddefnyddio beddau. Mae’r elfen hon nawr wedi dechrau a bydd yn weithredol tan ddiwedd 2025.
- Dulliau Angladdol Newydd, a fydd yn ystyried fframwaith reoleiddio addas ar gyfer y dyfodol i ddelio â chorff ar ôl marwolaeth, megis compostio dynol a hydrolysis alcalin. Bydd yr elfen hon yn weithredol o ddechrau 2024 tan y gwanwyn 2026.
- Hawliau a Rhwymedigaethau yn ymwneud â Dulliau Angladdol, Angladdau a Gweddillion, a fydd yn edrych ar faterion gan gynnwys a ddylai dymuniadau unigolyn am eu corff ar ôl marwolaeth fod yn gyfreithiol rwymol, pwy ddylai gael yr hawl i wneud penderfyniadau am gyrff, ac angladdau iechyd cyhoeddus. Bydd yr elfen hon yn weithredol o ddiwedd 2025 tan ddiwedd 2027.
Cynhelir ymgynghoriad cyhoeddus ar bob elfen o’r gwaith prosiect.
Gweler tudalen we’r prosiect trwy’r ddolen ganlynol i gael mwy o wybodaeth: Claddedigaethau, Amlosgiad a Dulliau Angladdol Newydd - Comisiwn y Gyfraith