News http://www.wlga.cymru/news http://www.rssboard.org/rss-specification mojoPortal Blog Module cy-GB 120 no Arweinydd CLlLC yn talu teyrnged i'r Llywydd ac Arweinydd Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr Mae Arweinydd CLlLC, y Cynghorydd Andrew Morgan, wedi talu teyrnged i’r Cynghorydd Huw David OBE yn dilyn y cyhoeddiad y bydd yn sefyll lawr fel Arweinydd Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr yn y Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol yr awdurdod sydd ar ddod.

Etholwyd y Cynghorydd David fel Arweinydd Pen-y-bont ar Ogwr am y tro cyntaf ym mis Hydref 2016 a daeth yn aelod o Gabinet yr awdurdod am y tro cyntaf yn 2012. Ers 2019, mae wedi gweithredu fel Llywydd CLlLC ac mae hefyd wedi cyfrannu’n fawr at waith y Gymdeithas fel ei Llefarydd dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol, ac yn flaenorol fel Llefarydd Addysg. Ym mis Mehefin 2022, cafodd ei anrhydeddu ag OBE gan y diweddar Frenhines Elizabeth II i gydnabod ei ymdrechion.

 

Dywedodd y Cynghorydd Andrew Morgan OBE, Arweinydd CLlLC:

“Dros nifer o flynyddoedd, mae’r Cynghorydd Huw David wedi gwneud cyfraniad sylweddol i waith llywodraeth leol ac mae’n cael ei barchu gan ei holl gyfoedion ledled Cymru, yn ogystal â llawer o partneriaid. Fel Llefarydd dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol, mae Huw wedi dangos yn gyson ei angerdd dros amddiffyn pobl agored i niwed a sicrhau mynediad at ofal i’r rhai sydd ei angen. Nid oedd hyn ar unrhyw adeg yn fwy amlwg nag yn ystod y pandemig Covid, wrth i Huw achub ar bob cyfle i gyflwyno’r achos dros wasanaethau lleol a llesiant gweithwyr gofal.

“Mae agwedd ddiarfog a charedig Huw wedi bod yn nodwedd allweddol yn ystod ei gyfnod fel Llywydd CLlLC sydd wedi ennill ymddiriedaeth cydweithwyr o bob rhan o Gymru a ledled y DU. Drwy gydol y cyfnod hwn, mae wedi dangos gwir arweiniad ac ymroddiad wrth eiriol dros lywodraeth leol. Mae ei waith diflino dros wasanaethau lleol ar lefel genedlaethol yn cyd-fynd yn unig â’i gyfraniad mawr a’i falchder yn ei gymuned ym Mhen-y-bont ar Ogwr.

“Er gwaethaf y newyddion heddiw, rwy’n hyderus y bydd y Cynghorydd David yn parhau â’i waith diflino yn ei gymuned. Ar ran arweinwyr ledled Cymru a staff CLlLC, hoffwn ddiolch yn ddiffuant i Huw am ei gyfraniad i lywodraeth leol dros nifer o flynyddoedd. Ac fel ffrind a chydweithiwr, dymunaf y gorau iddo ar gyfer y dyfodol.”

]]>
http://www.wlga.cymru/arweinydd-clllc-yn-talu-teyrnged-ir-llywydd-ac-arweinydd-cyngor-bwrdeistref-sirol-pen-y-bont-ar-ogwr http://www.wlga.cymru/arweinydd-clllc-yn-talu-teyrnged-ir-llywydd-ac-arweinydd-cyngor-bwrdeistref-sirol-pen-y-bont-ar-ogwr http://www.wlga.cymru/arweinydd-clllc-yn-talu-teyrnged-ir-llywydd-ac-arweinydd-cyngor-bwrdeistref-sirol-pen-y-bont-ar-ogwr Wed, 06 Mar 2024 16:14:00 GMT
CLlLC yn rhybuddio am effaith ar gymunedau oherwydd diffyg buddsoddiad yng Nghyllideb y Gwanwyn Mae Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru (CLlLC) wedi galw heddiw ar Lywodraeth y DU i ailystyried ei dyraniadau cyllidebol i fynd i’r afael ag anghenion dybryd cymunedau ledled Cymru, gan fynegi braw ynghylch y diffyg cyllid ar gyfer gwariant cyhoeddus neu fuddsoddiad. 

Gan adleisio galwadau tebyg gan Lywodraeth Cymru, mae CLlLC yn haeru y dylai’r Canghellor ganolbwyntio’n bennaf ar flaenoriaethu buddsoddiadau mewn gwasanaethau cyhoeddus hanfodol y mae pob un ohonom yn dibynnu arnynt. 

 

Dywedodd y Cynghorydd Anthony Hunt, Llefarydd Cyllid CLlLC:

“Rydym yn bryderus iawn am oblygiadau Cyllideb y Gwanwyn i gymunedau ledled Cymru. 

“Mae’r Canghellor yn sôn am wariant gwastraffus, ond y gwir amdani yw bod cynghorau ar eu gliniau diolch i’w Lywodraeth, gyda gwariant dewisol yn cael ei dorri hyd at 40% ar ôl addasu ar gyfer chwyddiant. Mae'r gwasanaethau cyhoeddus lleol a ddarperir gan gynghorau yn profi pwysau ariannol digynsail ac mae cynghorau'n ystyried pob llwybr posibl i fantoli cyllidebau. Er y gallant ymdopi yn y tymor byr, mae pryder difrifol ynghylch goroesiad gwasanaethau lleol hanfodol. Mae disgwyl i awdurdodau lleol gyflawni mwy gyda llai o gyllid, felly ni ellir gorbwysleisio’r straen ar gynghorau. 

“Bydd diffyg buddsoddiad mewn llywodraeth leol ond yn cynhyrchu canlyniadau gwaeth i gymunedau a bydd yn effeithio ar allu cynghorau i ariannu ysgolion a gofal cymdeithasol, adeiladu tai cymdeithasol a buddsoddi yn y newid i sero net. 

“Diolch i’r Gyllideb hon, bydd cymunedau Cymru yn profi cynnydd yn y Dreth Gyngor ond gallant ddisgwyl gweld llai am eu harian. Gallai hyn gael effaith ddinistriol ar unigolion, teuluoedd, a chymunedau ledled Cymru gan fod hyn yn ychwanegu at y pwysau a deimlwyd eisoes oherwydd yr argyfwng costau byw a chyfraddau chwyddiant uchel. Mae'r gwasanaethau sy'n sail i wead cymdeithas dan straen. 

“Mae angen ariannu’r GIG a gofal cymdeithasol ar sail gyfartal gan eu bod yn rhan o’r un system a bod ganddynt bwysau tebyg. Er gwaethaf y cyllid ychwanegol a gyhoeddwyd ar gyfer y GIG, mae gofal cymdeithasol yn parhau i gael ei danariannu a’i ddiystyru’n ddifrifol, gan waethygu’r pwysau presennol ar awdurdodau lleol yn ogystal â chynyddu’r baich ar y gwasanaeth iechyd.” 

]]>
http://www.wlga.cymru/wlga-warns-of-impact-on-communities-due-to-lack-of-investment-in-spring-budget- http://www.wlga.cymru/wlga-warns-of-impact-on-communities-due-to-lack-of-investment-in-spring-budget- http://www.wlga.cymru/wlga-warns-of-impact-on-communities-due-to-lack-of-investment-in-spring-budget- Wed, 06 Mar 2024 13:43:00 GMT
Llywodraeth leol yn croesawu £25 miliwn, ond angen am gyllid cynaliadwy hir-dymor Mae Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru (CLlLC) heddiw wedi croesawu’r cyhoeddiad gan Lywodraeth Cymru o £25m yn ychwanegol i awdurdodau lleol yn 2024-25. Ond mae CLlLC yn rhybuddio nad yw dal yn unman agos i fod yn ddigon i gwrdd â’r bwlch cyllidol o £432m sy’n cael ei wynebu gan lywodraeth leol.

Y mis diwethaf, cyhoeddodd Lywodraeth y DU y byddai’r setliad llywodraeth leol yn Lloegr yn cael ei gynyddu £600m, yn bennaf i ymateb i bwyseddau gofal cymdeithasol, gan arwain at ddyraniad cyllid canlyniadol o thua £25m i Gymru.

Bydd y cyllid yn helpu i gefnogi’r gweithlu gofal cymdeithasol, ysgolion, ac i gefnogi cynghorau i fynd i’r afael â phwyseddau o fewn cymunedau lleol.

 

Dywedodd y Cynghorydd Andrew Morgan OBE, Arweinydd CLlLC:

“Rydyn ni’n croesawu’r cyhoeddiad heddiw o £25m ychwanegol i awdurdodau lleol gan Lywodraeth Cymru. Rydyn ni’n ddiolchgar i’r Gweinidog am wrando i’r achos a waned gan CLlLC ac awdurdodau lleol i gefnogi gwasanaethau lleol sydd dan bwysau aruthrol, gan gynnwys cefnogi’r rhai mwyaf bregus trwy ddarparu gwasanaethau gofal cymdeithasol.

“Ond mae graddfa’r pwyseddau’n golygu fod llywodraeth leol yn parhau i wynebu bwlch o £432m, gan olygu y bydd yn rhaid cymryd penderfyniadau anodd gan gynnwys codi lefelau’r Dreth Gyngor ac o ran darparu gwasanaethau.”

 

Dywedodd y Cynghorydd Anthony Hunt, Llefarydd CLlLC dros Gyllid:

“Rwy’n falch i glywed cyhoeddiad Llywodraeth Cymru heddiw am gyllid ychwanegol i gefnogi gwasanaethau hollbwysig megis gofal cymdeithasol, y gweithlu ac ysgolion. Bydd deialog CLlLC yn parhau gyda Llywodraeth Cymru, ac fe fyddwn ni’n troi ein gorwelion tuag at Gyllideb y Gwanwyn Llywodraeth y DU am gefnogaeth gynaliadwy i helpu ymhellach i leddfu’r pwyseddau cyllidebol sy’n cael eu profi gan gwasanaethau lleol hanfodol.”

 

Dywedodd y Cynghorydd Llinos Medi, Arweinydd Grwp Plaid Cymru:

“Dwi’n ddiolchgar i’r Gweinidog am ei hymgysylltu adeiladol gyda llywodraeth leol. Tra bod unrhyw gyllid i’w groesawu, mae’n glir na fydd y dyraniad yma’n cyffwrdd ochrau’r tyllau du cegrwth yng nghyllidebau ein gwasanaethau lleol. Mae gan gynghorau ddyletswydd gyfreithiol i gyflwyno cyllidebau cytbwys. Gan ystyried lefelau chwyddiant eithriadol, costau cynyddol, a mwy a mwy o alw ar ein gwasanaethau, mae’r orchwyl honno’n brysur fod yn amhosib.

“Siomedig yw gweld na fydd mwy o gyllid yn cael ei ddarparu i ariannu’r cynnydd mewn cyflogau athrawon. Golyga hyn y bydd disgwyl i lywodraeth leol i dalu am gost polisi Llywodraeth Cymru allan o goffrau bregus ein cynghorau.”

 

Dywedodd y Cynghorydd Mark Pritchard, Arweinydd Grwp Annibynnol CLlLC

“Ers cychwyn y cynni ariannol, mae cynghorau wedi colli dros £1bn o’u cyllidebau. Dyna golli £1bn o wasanaethau beunyddiol allweddol megis gofal cymdeithasol, ysgolion, datblygu economaidd, a gwasanaethau amgylcheddol i enwi ond rhai. Bydd y cyllid a gyhoeddwyd heddiw yn gwneud fawr ddim i gwrdd â’r bylchau cyllidebol enfawr yn ein cyllidebau.

“Mae’n glir bod angen ar fyrder am ymrwymiad gan lywodraethau Cymru a’r DU am gyllid cynaliadwy, hir-dymor i helpu i amddiffyn gwasanaethau ein cynghorau sy’n cefnogi ac yn gwella bywydau cymaint o bobl yn ein cymunedau.”  

]]>
http://www.wlga.cymru/25-million-welcomed-by-local-government-but-sustainable-long-term-funding-needed http://www.wlga.cymru/25-million-welcomed-by-local-government-but-sustainable-long-term-funding-needed http://www.wlga.cymru/25-million-welcomed-by-local-government-but-sustainable-long-term-funding-needed Wed, 07 Feb 2024 21:21:00 GMT
CLlLC yn ymrwymo i weithio gyda Llywodraeth Cymru i fynd i’r afael â diwylliant Tân ac Achub De Cymru Mae’r CLlLC wedi ymateb i gyhoeddiad Llywodraeth Cymru ynghylch camau i’w cymryd i fynd i’r afael â’r diwylliant gweithio yn Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru, mater a amlygwyd yn ddiweddar mewn adroddiad annibynnol.

 

Mae pedwar comisiynydd wedi’u penodi gan Lywodraeth Cymru i oruchwylio’r Gwasanaeth, gan gynnwys cyn Arweinydd CLlLC, y Farwnes Wilcox o Gasnewydd.

 

Fis diwethaf, mynegodd arweinwyr eu sioc a’u pryder ynghylch yr ymddygiadau annerbyniol a ddisgrifiwyd yn yr adroddiad “na ellir ac na fydd yn cael eu goddef”.

 

Dywedodd y Cynghorydd Jane Gebbie, Llefarydd CLlLC ar y Gweithlu:

 

“Mae’r adroddiad, sy’n seiliedig ar ganfyddiadau’r ymchwiliad annibynnol, i ddiwylliant gwaith Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru yn adlewyrchiad damniol o rai ymddygiadau a arddangosir gan unigolion”

 

“Mae’r adroddiad yn amlygu rhywfaint o ymddygiad annerbyniol ac ysgytwol na ddylid byth ei oddef yn y gweithle. Rwy’n gobeithio y bydd camau gweithredu pendant Llywodraeth Cymru yn arwain at y newid mawr a chynaliadwy sydd ei angen.”

 

“Bydd CLlLC ac awdurdodau lleol yn gweithio’n agos gyda Llywodraeth Cymru, Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru, y Comisiynwyr a phartneriaid i roi’r camau gweithredu sydd eu hangen i greu diwylliant cadarnhaol a chynhwysol, sy’n rhydd o wahaniaethu ar waith.”

 

DIWEDD –

 

NODIADAU I OLYGYDDION

 

Llywodraeth Cymru yn penodi comisiynwyr i oruchwylio Awdurdod Tân ac Achub De Cymru yn dilyn adroddiad 'damniol'

]]>
http://www.wlga.cymru/wlga-committed-to-working-with-the-welsh-government-to-address-south-wales-fire-and-rescue-culture http://www.wlga.cymru/wlga-committed-to-working-with-the-welsh-government-to-address-south-wales-fire-and-rescue-culture http://www.wlga.cymru/wlga-committed-to-working-with-the-welsh-government-to-address-south-wales-fire-and-rescue-culture Wed, 07 Feb 2024 15:15:00 GMT
“Hollbwysig” bod arian canlyniadol yn cael ei ddarparu i gynghorau Cymru yn llawn Yn ymateb i gyhoeddiad Llywodraeth y DU am gyllid ychwanegol i gynghorau yn Lloegr, dywedodd y Cynghorydd Anthony Hunt (Torfaen), Llefarydd CLlLC dros Gyllid:

 

“Mae’r cyhoeddiad heddiw y bydd cynghorau yn Lloegr yn derbyn £600m yn ychwanegol yn profi ni ellir mwyach anwybyddu’r argyfwng ariannu llywodraeth leol. Rydyn ni’n croesawu’r ffaith y bydd y rhan fwyaf o’r cyllid yma yn cael ei dargedu at ddarparu gwasanaethau gofal cymdeithasol allweddol i’r rhai mwyaf bregus”

 

“Mae’n hollbwysig nawr fod yr arian canlyniadol sy’n deillio o’r cyhoeddiad heddiw yn cael ei basio ymlaen yn llawn i gynghorau Cymru i helpu ein gwasanaethau gofal cymdeithasol ac i gyllido ein ysgolion.”

 

DIWEDD -

]]>
http://www.wlga.cymru/“vital”-that-consequential-funding-is-delivered-to-welsh-councils-in-full http://www.wlga.cymru/“vital”-that-consequential-funding-is-delivered-to-welsh-councils-in-full http://www.wlga.cymru/“vital”-that-consequential-funding-is-delivered-to-welsh-councils-in-full Wed, 24 Jan 2024 14:17:00 GMT
Llywodraeth leol yn arwyddo i Siarter i helpu i symleiddio’r system fudd-daliadau yng Nghymru Mae siarter yn cael ei lansio heddiw i helpu i wella hygyrchedd y system fudd-daliadau ac i hybu trigolion cymwys i hawlio cefnogaeth hollbwysig.

Cyd-ddyluniwyd Siarter Budd-daliadau Cymru gan ystod eang o randdeiliaid, gan gynnwys CLlLC ac awdurdodau lleol, gyda ffocws cyffredin ar gefnogi’r rhai mwyaf difreintiedig yn ein cymunedau.

Mae CLlLC a phob awdurdod lleol i gyd wedi arwyddo’r Siarter, gan gytuno i weithio gyda Llywodraeth Cymru i weithredu i ddatblygu cyfundrefn fudd-daliadau cyson sy’n gweithio i bobl Cymru.

 

Dyweoddd y Cynghorydd Anthony Hunt (Torfaen), Llefarydd CLlLC dros Gyllid:

“Nawr yn fwy nag erioed, wrth i’n cymunedau barhau i deimlo gwasgfa’r argyfwng Costau Byw, mae’n hanfodol bod trigolion cymwys yn gallu cael mynediad a hawlio pob cefnogaeth posib. Gan weithio gyda Llywodraeth Cymru a phartneriaid, mae’r Siarter yma’n rhan o’r broses barhaus o ddylunio a darparu cyfundrefn fudd-daliadau gynhwysol sy’n gweithio i’n trigolion.

“Rydyn ni’n annog trigolion i wirio pa gymorth y gallent fod yn gymwys i'w dderbyn. Mae mwy o wybodaeth ar gael ar wefan eich awdurdod lleol.”

DIWEDD -

]]>
http://www.wlga.cymru/local-government-signs-up-to-charter-to-help-streamline-the-welsh-benefits-system http://www.wlga.cymru/local-government-signs-up-to-charter-to-help-streamline-the-welsh-benefits-system http://www.wlga.cymru/local-government-signs-up-to-charter-to-help-streamline-the-welsh-benefits-system Mon, 22 Jan 2024 17:37:00 GMT
Colli swyddi Tata yn “ergyd ysgytwol” yn lleol ac yn genedlaethol Mynegwyd pryderon difrifol gan arweinwyr cyngor ynghylch y cyhoeddiad heddiw gan gwmni dur Tata.

Mewn cyfarfod o Fwrdd Gweithredol CLlLC, sy’n cynnwys pob un o’r 22 o gynghorau Cymru, siaradodd arweinwyr am eu pryder ynghylch y newyddion “dinistriol” i gymunedau a’r rhanbarth.

 

Dywedodd y Cynghorydd Rob Stewart (Abertawe), Llefarydd CLlLC dros yr Economi:

“Mae’r cyhoeddiad heddiw gan gwmni dur Tata yn ergyd ysgytwol yn nhermau’r effeithiau llym ar economi Cymru, ac ar gapasiti’r DU i gynhyrchu dur. Mae CLlLC yn glir nad yw llywodraeth leol yn cefnogi’r datblygiad yma.”

“Mae’r gwaith dur yn ddiwydiant sofran a bydd cynlluniau Tata yn gadael y DU fel yr unig genedl G20 heb y gallu i greu ei dur ei hun. Tra’r ydyn ni’n cefnogi symud i ffwrneisi modern fel proses ychwanegol i alluogi ailgylchu ac atgynhyrchu dur, dylai hynny eistedd ochr-yn-ochr gallu’r DU i greu dur cynhenid. Fel arall, fel sydd wedi ei brofi dros yr argyfwng ynni, bydd y DU ar drugaredd marchnadoedd a chyflenwad rhyngwladol.

“Ni fydd hyn chwaith yn helpu i fynd i’r afael â newid hinsawdd chwaith, gan y bydd y broses o greu dur mewn ffwrneisi chwyth yn dal i gymryd lle ond mewn ffordd llai cynaliadwy yn amgylcheddol mewn rhannau eraill o’r byd.

“Yn syml iawn, byddai cynlluniau arfaethedig Tata yn ergyd ddinistriol yn lleol ac yn genedlaethol. Byddai’n golygu colli 2,800 o swyddi gydag effaith gwerth £500m i economi Cymru o ran colli swyddi yn uniongyrchol ac yn anuniongyrchol.

“Rydyn ni’n gal war Lywodraeth y DU a Tata i barhau trafodaethau gyda’r Undebau a, gyda chefnogaeth Llywodraeth Cymru, i amddiffyn y diwydiant gwneud dur ym Mhort Talbot ac yn y DU. Rhaid canfod ffordd amgen i bontio tuag at greu dur glanach, sydd yn amddiffyn swyddi ac economi Cymru, ynghyd â chadw isadeiledd cenedlaethol a gallu’r DU i greu dur.”

- DIWEDD -

]]>
http://www.wlga.cymru/tata-steel-job-losses-a-local-and-national-body-blow http://www.wlga.cymru/tata-steel-job-losses-a-local-and-national-body-blow http://www.wlga.cymru/tata-steel-job-losses-a-local-and-national-body-blow Fri, 19 Jan 2024 18:18:00 GMT
Cynghorau De Cymru yn Ymateb i Ymchwiliad i Wasanaeth Tân ac Achub De Cymru Mewn ymateb i gyhoeddiad yr ymchwiliad annibynnol i Wasanaeth Tân ac Achub De Cymru, mae’r 10 cyngor sy’n gweithredu yn ardal De Cymru wedi cyhoeddi’r datganiad a ganlyn:

 

Fel arweinwyr cynghorau yn ardal Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru, rydym yn hynod o frawychus ac yn bryderus o weld canfyddiadau’r ymchwiliad annibynnol i ddiwylliant gwaith y Gwasanaeth. Mae’r adroddiad yn adlewyrchiad damniol o rai achosion erchyll o ymddygiad annerbyniol ac ysgytwol na ellir byth eu derbyn yn y gweithle a diolchwn i’r tîm adolygu ac i bawb a gyfrannodd eu profiadau i’r adolygiad.

 

Ni ellir ac ni fydd ymddygiad o'r fath yn cael ei oddef a byddwn yn ceisio sicrwydd brys gan yr Awdurdod Tân ac Achub bod yr holl argymhellion a wneir gan y tîm adolygu yn cael eu gweithredu'n llawn, nid yn unig mewn geiriau ond trwy gamau gweithredu a chyfathrebu clir.

 

Mae angen, ac yn wir hawl, i bob gweithiwr a’r cyhoedd ddisgwyl a derbyn safonau uchel o ymddygiad gan ddiffoddwyr tân a staff eraill fel gweision cyhoeddus. Trwy ein cysylltiadau gyda'r Awdurdod byddwn yn ceisio sicrwydd o'r fath a chyfarfod gyda'r Cadeirydd i drafod ein pryderon a'n disgwyliadau ar gyfer symud ymlaen.

 

Byddwn hefyd yn sicrhau bod ein prosesau craffu yn ceisio adborth rheolaidd a byddwn yn craffu ar y cynnydd a wneir o ran newid diwylliant ac arferion.

Rydym yn awyddus i weithio gyda'r Gwasanaeth a'r Awdurdod i wneud y newidiadau angenrheidiol wrth i ni ddysgu o ganfyddiadau'r adroddiad damniol hwn a mynd i'r afael â hwy.

 

DIWEDD –

]]>
http://www.wlga.cymru/south-wales-councils-respond-to-investigation-of-south-wales-fire-and-rescue-service http://www.wlga.cymru/south-wales-councils-respond-to-investigation-of-south-wales-fire-and-rescue-service http://www.wlga.cymru/south-wales-councils-respond-to-investigation-of-south-wales-fire-and-rescue-service Thu, 04 Jan 2024 12:11:00 GMT
CLlLC yn Ymateb i Ymchwiliad i Wasanaeth Tân ac Achub De Cymru Mewn ymateb i gyhoeddiad yr ymchwiliad annibynnol i Wasanaeth Tân ac Achub De Cymru, mae CLlLC wedi cyhoeddi’r datganiad a ganlyn:

 

Mae CLlLC wedi’i siomi ac yn bryderus gyda chanfyddiadau’r ymchwiliad i ddiwylliant ac ymddygiad mewnol Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru ac mae’n credu’n gryf na ellir ac na ddylai ymddygiad o’r fath gael ei oddef yn y gweithle, nac yn y gymdeithas ehangach. Mae'r aelodau wedi'u syfrdanu gan lawer o'r enghreifftiau o ymddygiad cwbl annerbyniol a adlewyrchir yn yr adroddiad ac yn pryderu bod llawer o bobl wedi cael profiadau mor negyddol yn gweithio yn y Gwasanaeth, gyda rhai aelodau o'r cyhoedd hefyd yn derbyn lefelau annerbyniol o wasanaeth. Ni ellir goddef hyn ac ni all barhau.

 

Mae CLlLC yn cymeradwyo dewrder a gonestrwydd y rhai a gyfrannodd eu profiadau i’r tîm ymchwilio ac yn credu bod angen gwneud newidiadau sylweddol yn awr er mwyn gweithredu’n llawn yr argymhellion a wnaed a sicrhau newid sylweddol i ddiwylliant ac arferion gwaith y Gwasanaeth Tân ac Achub. Mae angen hefyd i bob corff ddysgu gwersi o’r adroddiad hwn ac adroddiadau diweddar eraill sy’n adlewyrchu profiadau a phryderon tebyg mewn cyrff cyhoeddus a sefydliadau eraill, gan nad oes unrhyw sefydliad yn ddiogel rhag achosion o’r fath, a rhaid i gyrff adolygu eu diwylliant a’u diwylliant mewnol yn barhaus. ymddygiadau i sicrhau y gall pob cyflogai, ac aelod o’r cyhoedd, ddisgwyl a derbyn safonau uchel o ymddygiad, yn seiliedig ar barch, yn eu hymwneud â chydweithwyr a gweision cyhoeddus.

 

Bydd CLlLC yn adolygu’r adroddiad a’i argymhellion yn fanwl ac yn asesu gwersi ehangach y mae angen mynd i’r afael â nhw. Fel aelod cyswllt, bydd CLlLC yn gweithio gydag Awdurdod Tân ac Achub De Cymru, ynghyd ag Awdurdodau Tân ac Achub eraill Cymru, ac yn eu cefnogi, i roi’r argymhellion ar waith yn llawn, nid yn unig mewn geiriau ond mewn gweithredoedd ac mewn newid diwylliannau i sicrhau bod pawb gweithwyr a’r cyhoedd yn cael eu trin ag urddas a pharch ym mhob amgylchiad, ac wrth sicrhau na fydd ymddygiad o’r fath yn cael ei oddef yn y dyfodol.

 

DIWEDD –

 

]]>
http://www.wlga.cymru/wlga-responds-to-investigation-of-south-wales-fire-and-rescue-service http://www.wlga.cymru/wlga-responds-to-investigation-of-south-wales-fire-and-rescue-service http://www.wlga.cymru/wlga-responds-to-investigation-of-south-wales-fire-and-rescue-service Thu, 04 Jan 2024 12:07:00 GMT
Ymateb CLlLC i’r setliad llywodraeth leol Dywedodd y Cynghorydd Andrew Morgan OBE, Arweinydd CLlLC:

“Roeddem ni’n gwybod y byddai hwn yn setliad heriol, ac yn cydnabod ymdrechion Llywodraeth Cymru wrth geisio amddiffyn gwasanaethau cyhoeddus rheng flaen i raddau. Ond llwm yw’r rhagolwg i wasanaethau lleol o hyd sydd yn cael eu heffeithio’n ddifrifol gan gostau cynyddol. Er bod chwyddiant yn arafu, mae’n dal i olygu ein bod ni i gyd yn cael llai am ein harian nawr nag yn y gorffennol, ac mae hyn yn wir i gynghorau hefyd. Roedd cyfle gan Lywodraeth y DU i fynd i’r afael â’r bwlch cyllidol yma yn Natganiad yr Hydref, ond fe wnaethon nhw ddewis peidio ei gymryd. Golyga’r ffaith na chafwyd arian ychwanegol i ysgolion a gofal cymdeithasol na fydd arian canlyniadol yn llifo i Gymru. Bydd yn rhaid cymryd penderfyniadau anodd i sicrhau bod cynghorau yn cwrdd â’u dyletswydd cyfreithiol i osod cyllidebau cytbwys.”

“Rydym ni wedi croesawu perthynas glós, adeiladol gyda’r Gweinidog a’i chydweithwyr. Byddwn yn edrych ymlaen i gydweithio’n agos â hi a gweddill Llywodraeth Cymru i lywio trwy’r amseroedd cythryblus ar gyfer ein gwasanaethau lleol hanfodol ac i reoli’r effeithiau posibl ar ein cymunedau.”

 

Dywedodd y Cynghorydd Llinos Medi, Arweinydd Grŵp Plaid Cymru:

“Gellir gweld yn glir, mewn cynnydd mewn galw am wasanaethau fel gofal cymdeithasol i oedolion, gwasanaethau plant, a thai, fod angen gwasanaethau lleol yn fwy nag erioed mewn argyfwng Costau Byw sydd yn effeithio’n wael ar ein cymunedau. Ond, er ein bod ni’n gwerthfawrogi’r amgylchiadau anodd i Lywodraeth Cymru, ni fydd y setliad yma’n gwneud llawer i leddfu’r pwysau ar wasanaethau. Mae’n siomedig nad oes cyllid ychwanegol wedi ei glustnodi i ariannu’r cynnydd mewn cyflogau i athrawon, sydd yn golygu y bydd disgwyl i gynghorau i gwrdd â’r gost o ymrwymiad ariannol sydd wedi ei wneud gan Lywodraeth Cymru ei hun.”

“Ers cychwyn y cynni ariannol, mae dros £1bn wedi ei golli o goffrau llywodraeth lleol. Mae cynghorau wedi gweithio’n ddygn i ganfod arbedion effeithlonrwydd a lleihau costau, ond mae’r arbedion rhwydd hynny wedi hen fynd. Does dim posib i lywodraeth leol barhau i wneud toriadau cyllidebol sylweddol heb effeithiau difrifol ar hyfywedd ein gwasanaethau ni.”

 

Dywedodd y Cynghorydd Mark Pritchard, Arweinydd Grŵp Annibynnol CLlLC:

“Ers tro, mae cynghorau wedi rhybuddio am y pwyseddau aruthrol sy’n eu wynebu wedi cyn gymaint o flynyddoedd o doriadau. Yn anffodus, dyw’r setliad heddiw ddim yn darparu digon o gyllid i gwrdd â phwyseddau costau a galw eithriadol fydd yn cyflwyno heriau difrifol y flwyddyn nesaf o ran gosod cyllidebau cytbwys, yn ôl y gofyniad cyfreithiol. Tra ei bod hi’n ymddangos bod 3.1% o hwb mewn cyllid craidd, mae toriadau dwfn i grantiau – a gyda dim arian ychwanegol i gwrdd â’r cynnydd mewn cyflog athrawon – yn golygu y bydd cynghorau mewn gwirionedd yn derbyn llawer yn llai na hyn.

“Dyw defnyddio arian ‘diwrnod glawog’ wrth gefn ddim yn ateb cynaliadwy i lenwi bylchau cyllidebol cynyddol a fydd yn dod i’r amlwg bfwyddyn ar ôl blwyddyn. Yr unig ateb i gwrdd â chostau a galw cynyddol ydi i lwyr gydnabod a chwrdd â’r pwyseddau cyllidebol i lywodraeth leol.”

Dywedodd y Cynghorydd James Gibson-Watt, Diprrwy Lywydd CLlLC (Democratiaid Rhyddfrydol):

“Mae trigolion, busnesau, a chymunedau ymhob rhan o Gymru yn dibynnu ar wasanaethau bara menyn sy’n cael ei darparu gan gynghorau. O ofal cymdeithasol i ddatblygu economaidd. Tai i ysgolion, mae’r rhain yn gonglfeini sy’n chwarae rhan allweddol yn ein bywydau pob dydd. Ond mae’r effaith o chwyddiant 10%, yr angen canlyniadol i gynyddu cyflogau staff i gwrdd â’r argyfwng costau byw, a chynnydd aruthrol mewn galw ar ofal cymdeithasol, wedi cyfuno i greu storm berffaith i gyllid ein cynghorau.

“Dros y blynyddoedd diwethaf, mae cynghorau wedi chwarae rôl hanfodol yn darparu ar uchelgeisiau llywodraethau DU a Chymru. Bydd hyn yn llawer yn anoddach i’w gyflawni os nad oes rhagor o gyllid ar gael i ni.”

 

Dywedodd y Cynghorydd Anthony Hunt, Llefarydd CLlLC dros Gyllid:

“Tra bod cyllid craidd wedi cael ei gynnal, mae cyllid grantiau eraill wedi disgyn mewn termau real. Dros y cyfnod ymgynghori, byddwn yn gweithio efo Llywodraeth Cymru ar y mater hwn a materion eraill yng nghyswllt cyflogau a phensiynau i athrawon, a chostau gofal cymdeithasol.

“Mae cynghorau yn wynebu diffyg cyllidol o £432m hyd yn oed wedi cynnydd mewn trethi cyngor a byddwn i gyd yn wynebu penderfyniadau tu hwnt o anodd. Yn ogystal â’r ddeialog barhaus gyda Llywodraeth Cymru, bydd yn rhaid i ni hefyd ymgysylltu â’n cymunedau ynglyn â’r penderfyniadau anodd sydd ar y gorwel.”

 

DIWEDD –

 

NODIADAU I OLYGYDDION

 

  1. Cyhoeddwyd setliad llywodraeth leol heddiw gan Lywodraeth Cymru. Gellir darllen datganiad y Gweinidog yma.
  2. Ynghlwm mae dogfen sy’n amlinellu ymhellach y pwyseddau sy’n wynebu gwasanethau lleol, a graddfa’r sefyllfa sydd ohoni.
]]>
http://www.wlga.cymru/wlga-responds-to-the-local-government-settlement http://www.wlga.cymru/wlga-responds-to-the-local-government-settlement http://www.wlga.cymru/wlga-responds-to-the-local-government-settlement Wed, 20 Dec 2023 14:36:00 GMT
Ymateb CLlLC i Gyhoeddiad Cyllid Llywodraeth Cymru Heddiw Nid yw’r rhain yn benderfyniadau hawdd, a byddem yn cefnogi’r Gweinidog i ddiogelu cyllid craidd llywodraeth leol yn 2023-24. Rydym hefyd yn cefnogi’r egwyddorion sylfaenol y mae Llywodraeth Cymru wedi’u cymhwyso i ddiogelu gwasanaethau rheng flaen, swyddi a’r rhai mwyaf agored i niwed. Fel CLlLC ysgrifennasom at y Trysorlys yn ôl yn yr haf yn dadlau’r achos dros gyllid ychwanegol yng Nghymru ac am fwy o hyblygrwydd yn y ffordd y caiff Cymru ei hariannu.

 

Rydym yn parhau i bryderu am y rhaglenni na fyddant yn mynd rhagddynt a'r effaith ar gyllidebau'r flwyddyn nesaf. Mae cyllidebau llywodraeth leol yn wynebu pwysau y flwyddyn nesaf o £720m, sef tua 10% o'n gwariant net. Ni fydd y cyllid sydd ar gael yn cwmpasu’r cyfan ac rydym yn wynebu bwlch ariannu sylweddol. Byddwn yn gweithio’n agos gyda Llywodraeth Cymru i sicrhau’r canlyniad gorau posibl i wasanaethau lleol.

 

DIWEDD –

]]>
http://www.wlga.cymru/wlgas-response-to-today’s-welsh-government-finance-announcement http://www.wlga.cymru/wlgas-response-to-today’s-welsh-government-finance-announcement http://www.wlga.cymru/wlgas-response-to-today’s-welsh-government-finance-announcement Tue, 17 Oct 2023 11:16:00 GMT
Cynghorau yn croesawu cynllun Llywodraeth Cymru i leihau beichiau Mae CLlLC heddiw wedi croesawu cynllun gan Llywodraeth Cymru i leihau beichiau gweinyddol ar awdurdodau lleol.

Mewn Datganiad Ysgrifenedig heddiw, amlinellodd y Gweinidog dros Gyllid a Llywodraeth Leol ymrwymiadau i dalu llai o grantiau penodol a gwneud gwelliannau i'r system dalu grantiau, ygnhyd a lleihau beichiau gweinyddol ar awdurdodau lleol. 

 

Dywedodd y Cynghorydd Andrew Morgan, Arweinydd CLlLC:

“Rydyn ni’n croesawu’n fawr y datganiad gan y Gweinidog heddiw sy’n cryfhau rol llywodraeth leol fel partner ymddiriedig o fewn llywodraethiant Cymru

“Ers tro bellach, mae llywodraeth leol wedi bod yn gwneud yr achos ar gyfer mwy o hyblygrwydd mewn gweinyddu a rheoli grantiau, Bydd cael gwared o fiwrocratiaeth diangen yn helpu i godi pwysau sydd ar gynghorau a fydd, yn ei dro, yn eu helpu i ganolbwyntio ar ddarparu dros gymunedau.”

"Mae cydweithrediad parod y Gweinidog wedi cael ei wir werthfawrogi gennym ni, yn ogystal a’i hymagwedd adeiladol tuag at weithio mewn partneriaeth. Edrychwn ymlaen i barhau’r cydweithio ffrwythlon gyda Llywodraeth Cymru, yn seiliedig ar set newydd o egwyddorion.”

 

]]>
http://www.wlga.cymru/councils-welcome-welsh-government-plan-to-reduce-burdens- http://www.wlga.cymru/councils-welcome-welsh-government-plan-to-reduce-burdens- http://www.wlga.cymru/councils-welcome-welsh-government-plan-to-reduce-burdens- Tue, 02 May 2023 15:00:00 GMT
CThEF yn annog contractwyr i beidio â chael eu twyllo gan arbed treth Mae Cyllid a Thollau EF (CThEF) yn annog contractwyr mewn ystod eang o swyddi ar draws llywodraeth leol i beidio â dioddef cam ar law hyrwyddwyr diegwyddor cynlluniau arbed treth.

Arbed treth yw pan fo pobl yn plygu rheolau’r system dreth i geisio talu llai o dreth nag y dylent. Ond, gall y rhai sy’n ymuno â chynlluniau arbed treth orfod talu’r dreth sy’n ddyledus yn y lle cyntaf – yn ogystal â llog a chosbau o bosibl. Mae hynny ar ben y ffioedd y maent eisoes wedi’u talu i ymuno â’r cynllun.

Mae CThEF am atal pobl rhag cael eu denu gan gynlluniau o’r fath, yn ogystal â’u helpu i adael cynlluniau arbed treth os ydynt yn credu eu bod wedi’u dal mewn un. Mae CThEF yn gweithio gydag amrediad eang o sefydliadau er mwyn rhoi’r adnoddau sydd eu hangen arnynt, i addysgu’r contractwyr sy’n gweithio iddynt am y risgiau o ddefnyddio cynlluniau arbed treth.

Mae pawb yn gyfrifol o dan gyfraith y DU am dalu’r swm cywir o dreth. Mae hyn yn dal i fod yn berthnasol pan fo’r contractwr wedi penodi rhywun arall i ddelio â’i faterion treth neu wedi cael cyngor gwael – yr unigolyn sy’n gyfrifol yn y pen draw ac sy’n wynebu’r risg. 

Gall aelodau o’r Gymdeithas Llywodraeth Leol (LGA) sy’n ymwneud â recriwtio gweithwyr asiantaeth a gweithwyr dros dro helpu’r gweithwyr hyn i ddeall y risgiau a’r canlyniadau sydd ynghlwm wrth ddefnyddio cynlluniau arbed treth. Bydd yr wybodaeth yn yr erthygl hon yn helpu gweithwyr i sylwi ar yr arwyddion o arbed treth.

 

Dyma rai pethau i weithwyr fod yn wyliadwrus ohonynt:

  • Unrhyw gynllun sy’n caniatáu i chi gadw mwy o’ch incwm nag y byddech yn ei ddisgwyl, gydag ychydig neu ddim didyniadau o gwbl ar gyfer Treth Incwm a chyfraniadau Yswiriant Gwladol (CYG)
  • Dywedir bod rhai o’r taliadau a gewch, neu bob un ohonynt, yn “anhrethadwy”. Gellid disgrifio’r rhain fel benthyciadau, blwydd-daliadau, bonysau neu gyfranddaliadau. Nid yw’r taliadau hyn yn wahanol i incwm arferol, ac mae angen i chi dalu Treth Incwm a CYG arnynt o hyd
  • Cynlluniau y dywedir wrthych eu bod yn ddiogel ac yn cydymffurfio neu wedi’u cymeradwyo gan CThEF. Nid yw hyn yn wir – nid yw CThEF byth yn cymeradwyo cynlluniau arbed treth
  • Dim ond rhan o gyfanswm y taliadau a gewch y gellir ei threthu fel incwm. Os ydych yn gyflogedig, swm sy’n cyfateb i’r isafswm cyflog cenedlaethol yw hyn fel arfer
  • Cael cynnig dewis rhwng cynllun cyflog safonol neu gynllun cyflog “uwch”. Mae’r fersiwn uwch yn debygol o fod yn gynllun arbed treth
  • Cael cais i lofnodi mwy nag un contract neu gytundeb
  • Contract cyflogaeth neu gytundeb nad yw’n nodi sut y telir eich incwm, nac yn rhoi dadansoddiad i chi o’ch holl ddidyniadau
  • Cael cynnig ‘bonws arian parod’ os byddwch yn argymell y cynllun i ffrind

 

Mae CThEF yn annog contractwyr, gweithwyr asiantaeth neu’r rhai sy’n gweithio drwy gwmni ambarél i wirio sut maent yn cael eu talu i wneud yn siŵr nad ydynt yn cael eu dal wrthi. Gallant ddefnyddio’r gwiriwr risg rhyngweithiol i wirio a allai arbed treth fod yn rhan o’u contract presennol.

 

Dywedodd Mary Aiston, Cyfarwyddwr Gwrth-Arbed CThEF: “Does dim angen i chi fod yn arbenigwr treth i sylwi ar gynllun arbed treth. Os byddwch chi’n cael cynnig cyflog clir uwch am ad-drefnu sut mae’n eich cyrraedd, er enghraifft fel benthyciad nad yw’n ad-daladwy neu fel taliad ymddiriedolaeth, mae bron yn sicr yn gynllun arbed treth, felly peidiwch â chymryd rhan.

“Rydym yma i helpu ac os ydych chi’n credu eich bod wedi ymuno â’r fath gynllun, mae’n hanfodol eich bod yn ei adael cyn gynted ag y gallwch. Y cynharaf y byddwch yn ei adael, y cyntaf y gallwch dalu’r dreth sydd arnoch a lleihau’ch risg o gael biliau treth uwch.”

 

Ers mis Ebrill 2022, mae CThEF wedi defnyddio pwerau newydd i enwi hyrwyddwyr cynlluniau arbed treth yn gyhoeddus er mwyn helpu cwsmeriaid i gadw’n glir o’r cynlluniau y maent yn eu hyrwyddo nawr ac unrhyw rai y gallent eu hyrwyddo yn y dyfodol.

Erbyn diwedd mis Chwefror 2023, mae cyfanswm o 26 o hyrwyddwyr, sy’n ymwneud â hyrwyddo cynlluniau arbed treth, wedi cael eu henwi. Nid yw’r rhestr gyhoeddedig yn rhestr gyflawn o’r holl gynlluniau arbed treth sy’n cael eu marchnata ar hyn o bryd, nac ychwaith yn rhestr gyflawn o’r holl hyrwyddwyr, galluogwyr a chyflenwyr. Os na ddangosir cynllun arbed treth ar y rhestr, nid yw hyn yn golygu bod y cynllun yn gweithio na’i fod wedi’i gymeradwyo gan CThEF mewn unrhyw ffordd. Nid yw CThEF yn cymeradwyo cynlluniau arbed treth i’w defnyddio.

Mae cyfres ‘Spotlight’ CThEF, a gyhoeddir ar GOV.UK, yn rhoi gwybodaeth am gynlluniau arbed treth y mae CThEF yn credu eu bod yn cael eu defnyddio i osgoi talu treth sy’n ddyledus.

Mae ‘Spotlight 60’ a gyhoeddwyd ym mis Awst 2022 yn rhybuddio’n benodol am gwmnïau ambarél nad ydynt yn cydymffurfio, a beth i fod yn wyliadwrus ohono.

I gael rhagor o wybodaeth a yr ymgyrch ‘Arbed Treth – Peidiwch â Chael eich Dal Wrthi’, ewch i’r dudalen hon.

Os daw aelodau o’r LGA yn ymwybodol o gynllun arbed treth, neu o asiantaeth neu gwmni ambarél nad yw’n dilyn y rheolau treth, dylent gymryd camau i adrodd hyn wrth CThEF.

]]>
http://www.wlga.cymru/hmrc-urges-contractors-not-to-get-caught-out-by-tax-avoidance http://www.wlga.cymru/hmrc-urges-contractors-not-to-get-caught-out-by-tax-avoidance http://www.wlga.cymru/hmrc-urges-contractors-not-to-get-caught-out-by-tax-avoidance Mon, 10 Apr 2023 14:32:00 GMT
Cyhoeddiad porthladd rhydd Wrth gyhoeddi’r ceisiadau llwyddiannus, meddai’r Cynghorydd Andrew Morgan Arweinydd CLlLC: “Mae hyn yn newyddion da i Gymru. Hoffwn longyfarch y tri chyngor a’u partneriaid am sicrhau statws porthladd rhydd. Mae’r cynigion ar gyfer Ynys Môn ac ar gyfer Chastell-nedd Port Talbot a Sir Benfro yn gyffrous ac mae ganddynt botensial mawr i greu buddsoddiad a swyddi newydd, gwyrdd”. 

 

Meddai’r Cynghorydd Rob Stewart, Dirprwy Arweinydd CLlLC a Llefarydd ar yr Economi: “Dyma enghraifft dda iawn o gydweithredu rhwng llywodraethau ar sawl lefel, rhwng Llywodraeth y DU, Llywodraeth Cymru a llywodraeth leol, yn gweithio gyda phartneriaid lleol. Mae CLlLC yn dymuno pob llwyddiant i’r ddau borthladd rhydd a byddwn yn awyddus i ddysgu gwersi. Er bod Casnewydd a’i bartneriaid yn siomedig nad yw eu cais wedi llwyddo, gobeithio y bydd cyfleoedd i ehangu’r fenter porthladd rhydd yn y dyfodol, yn sgil profiad”.

]]>
http://www.wlga.cymru/freeports-announcement-23323 http://www.wlga.cymru/freeports-announcement-23323 http://www.wlga.cymru/freeports-announcement-23323 Tue, 28 Mar 2023 08:52:00 GMT
Heriau’r gweithlu ar frig pryderon gofal cymdeithasol, medd adroddiad  

Heriau enfawr o ran y gweithlu sydd wedi ei adnabod fel un o’r risgiau parhaus mwyaf sylweddol mewn gofal cymdeithasol, mewn adroddiad sydd yn cael ei gyhoeddi heddiw.

Mae’r adroddiad wedi ei selio ar ymchwil a gomisiynwyd gan CLlLC yn 2022, wedi cynnal arolwg o uwch aelodau cyngor a swyddogion ymghyd â sefydliadau eraill sydd yn darparu, neu gefnogi, gofal cymdeithasol yng Nghymru.

Daeth materion y gweithlu i frig y rhestr o bryderon allweddol, yn ogystal â diffyg cyllid cynaliadwy, a heriau yng nghyswllt cwrdd ag anghenion mwy cymhleth oherwydd newidiadau demograffeg.

Trafodwyd ystod o faterion gan y cyfrannwyr, sy’n effeithio ar staff gofal cymdeithasol, gan gynnwys recriwtio a chadw staff, moral, statws, â’r angen i gefnogi datblygu a dilyniant gyrfa.

Amlygodd llawer o’r cyfrannwyr bod darparu gofal yn waith anodd a blinedig sydd yn aml yn dod gyda chyfrifoldeb mawr, ond gyda diffyg cydnabyddiaeth. Dywed un cyfrannwr:

“Ar hyn o bryd, rydyn ni mewn safle lle nad ydyn ni’n gallu dod o hyd i’r staff fyddai’n gwneud y math yma o swyddi, oherwydd bod y cyflog mor isel ac ei fod yn gallu fod yn waith anodd sy’n cario straen. Mewn gwirionedd, mae’r cyflog yn llawer is nag am weithio yn Aldi, ac yn llawer caletach.”

Bu cyfrannwyr hefyd yn trafod yr angen i wneud gofal yn opsiwn gyrfa mwy deniadol:

“Nid dim ond [codi] yr isafswm cyflog yw hyn: rydym angen bod yna strwthur gyrfa mewn gofal, fel bod cymhwysterau, profiad a gallu yn cael eu gwobrwyo i’w wneud yn swydd mwy deniadol fel ein bod yn gallu cadw staff yn y maes.”

 

Yn croesawu’r adroddiad heddiw, dywedodd y Cynghorydd Huw David OBE (Pen-y-Bont ar Ogwr), Llefarydd CLlLC dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol:

“Mae’r gweithlu gofal cymdeithasol yn gwneud gwaith arbennig yn galluogi pawb sydd yn dibynnu ar ofal i fyw bywydau llawn. Fodd bynnag, mae’r adroddiad heddiw yn ychwanegu tystiolaeth ymhellach i’r angen i fynd i’r afael ar fyrder â heriau’r gweithlu sy’n ein wynebu. Rhaid cael gweithlu sydd wir yn cael eu gwerthfawrogi, gyda pharch cydradd â gweithwyr y GIG, a sydd yn cael eu gwobrwyo’n briodol am y gwaith allweddol mae nhw’n ei wneud.”

“Bydd methu i flaenoriaethu a buddsoddi mewn gofal cymdeithasol â’r gweithlu, sydd yn parhau i ddarparu cefnogaeth i bobl gydag ymroddiad, yn gwanhau yn sylweddol system sydd eisoes yn cael ei hymestyn i’r eithaf ac yn cael ei tan-gyllido, gyda goblygiadau difrifol i’r bobl sydd yn dibynnu ar ofal cymdeithasol i fyw bywydau cydradd ac ystyrlon.”

 

Dywedodd y Cynghorydd Llinos Medi (Ynys Môn), Llefarydd CLlLC dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol:

“Mae’r adroddiad heddiw yn dangos yn foel yr effeithiau y mae degawd o dangyllido cyson mewn gofal cymdeithasol a thanfuddsoddi mewn gwasanaethau ataliol wedi ei gael ar ein gallu i ddarparu gofal cymdeithasol safonnol sydd yn helpu i adeiladu annibyniaeth a gwydnwch.”

“Rydyn ni’n gwybod bod pobl yn dibynnu ar ofal cymdeithasol i’w cefnogi nhw i fyw bywydau llawn, annibynnol. Ond fel sydd wedi ei amlygu yn yr adroddiad, mae gan cynghorau bryderon difrifol o hyd am ein gwasanaethau gofal cymdeithasol hollbwysig. Rwan yw’r amser i gael sgwrs ystyrlon am ddyfodol darpariaeth gofal cymdeithasol, a sut y gallwn ni ganfod ateb cynaliadwy hir-dymor ar gyfer gofal cymdeithasol.”

 

-DIWEDD-

 

Nodiadau i olygyddion

 

Ymchwil Cwestiwn o Flaenoriaethau 

]]>
http://www.wlga.cymru/workforce-challenges-is-top-social-care-concern-report--says http://www.wlga.cymru/workforce-challenges-is-top-social-care-concern-report--says http://www.wlga.cymru/workforce-challenges-is-top-social-care-concern-report--says Wed, 15 Mar 2023 13:17:00 GMT
Cynghorau i ymestyn darpariaeth prydau ysgol am ddim i wyliau Ebrill a Mai Mae CLlLC wedi croesawu cyhoeddiad Llywodraeth Cymru y bydd darpariaeth Prydau Ysgol Am Ddim yn parhau i fod ar gael i blant o deuluoedd incwm isel trwy wyliau ysgol y Pasg a’r Sulgwyn.

Mae £9m wedi cael ei fuddosddi i helpu cynghorau i gynnig prydau maethlon i ddisgyblion cymwys hyd ddiwedd gwyliau hanner tymor fis Mai, gan gynnwys pob un o wyliau banc yn ystod y cyfnod.

 

Dywedodd y Cynghorydd Ian Roberts (Sir y Fflint), Llefarydd CLlLC dros Addysg:

“Bydd cymaint o deuluoedd sy’n ei chael hi’n andros o anodd oherwydd costau byw yn buddio o’r estyniad i brydau ysgol am ddim.

“Rwyf yn falch iawn o’r gwaith mae’n cynghorau wedi ei wneud, ac yn parhau i’w wneud, i sicrhau bod y rhai cymwys yn derbyn y gefnogaeth bwysig yma.

“Dyma eisampl arall o’r ffordd y mae’n cymunedau ar eu h’ennill pan fo Llywodraeth Cymru a llywodraeth leol yn cydweithio’n agos.”

 

Dywedodd y Cynghorydd Darren Price (Sir Gaerfyrddin), Dirprwy Lefarydd CLlLC dros Addysg

“Mae’r cyhoeddiad yma heddiw yn cynnig cymorth i lu o deuluoedd sy’n ei chael hi’n anodd cadw dau ben llinyn ynghyd ar hyn o bryd.

“Rydyn ni i gyd yn gwybod pa mor allweddol yw bwyd a maeth i ddatblygiad plant a phobl ifanc.

“O ganlyniad i’r Cytundeb Cydweithio blaengar rhwng Llywodraeth Cymru a Phlaid Cymru, bydd cynghorau ledled Cymru yn gallu estyn y gefnogaeth hollbwysig yma i ddisgyblion a theuluoedd cymwys “

]]>
http://www.wlga.cymru/council-delivered-free-school-meals-extended-to-april-and-may-holidays http://www.wlga.cymru/council-delivered-free-school-meals-extended-to-april-and-may-holidays http://www.wlga.cymru/council-delivered-free-school-meals-extended-to-april-and-may-holidays Thu, 09 Mar 2023 15:21:00 GMT
CLlLC yn ymateb i’r streic gan undebau athrawon. Mae CLlLC yn cefnogi egwyddorion partneriaeth gymdeithasol yn llawn ac mae’n barod i weithio gyda phartneriaid yn yr undebau llafur i ddatrys unrhyw anghytundeb. Yn yr achos hwn, mae CLlLC wedi bod yn gweithio’n agos gyda chynghorau, undebau llafur a Llywodraeth Cymru i geisio cael setliad cadarnhaol. Mae cynghorau mewn cysylltiad cyson â'u hysgolion o ran rhoi arweiniad a chyngor priodol iddyn nhw ynghylch y gweithredu diwydiannol a gynlluniwyd. Mae sawl cyfarfod adeiladol wedi’u cynnal yn ystod yr wythnosau diwethaf ac mae CLlLC wedi ymrwymo i barhau â’r drafodaeth hon hyd nes y ceir datrysiad.

Dywedodd y Cynghorydd Ian Roberts, Llefarydd Addysg CLlLC: “Mae llywodraeth leol wedi ymrwymo i weithio’n agos mewn partneriaeth gymdeithasol â Llywodraeth Cymru a’r undebau i ddatrys yr anghydfod hwn, ac i geisio tarfu cyn lleied â phosibl ar yr addysg sy’n cael ei darparu, rydym ni wedi cael cyngor cyfreithiol annibynnol i sicrhau ein bod ni’n cydymffurfio â’r holl ofynion.”

 

-Diwedd

]]>
http://www.wlga.cymru/wlga-responds-to-teaching-unions’-strike-action http://www.wlga.cymru/wlga-responds-to-teaching-unions’-strike-action http://www.wlga.cymru/wlga-responds-to-teaching-unions’-strike-action Wed, 01 Feb 2023 16:04:00 GMT
Cynghorau yn gofyn am eglurder am gefnogaeth ynni i wasanaethau lleol Mae CLlLC wedi ysgrifennu i’r Canghellor yn gofyn am eglurder ar pa wasanaethau cyngor fydd yn cymhwyso am gefnogaeth I’w biliau ynni wedi Mawrth 2023.

 

Dywedodd y Cynghorydd Rob Stewart (Abertawe), Dirprwy Arweinydd CLlLC:

“Tra’r ydyn ni yn croesawu cynnwys sefydliadau sector gyhoeddus yn y Cynllun Gostyngiad mewn Biliau Ynni a gyhoeddwyd yn ddiweddar, rydyn ni angen sicrwydd y bydd holl wasanaethau ein cynghorau yn gymwys am gymorth o dan delerau’r cynllun.

“Yn ychwanegol i wasanaethau rheng flaen fel ysgolion a safleoedd gofal cymdeithasol, mae asedau cymunedol gwerthfawr megis goleuo strydoedd, llyfrgelloedd, pyllau nofio a chanolfannau hamdden hefyd yn cyfrannu’n aruthrol I lesiant ein cymunedau. Ond mae costau ynni cynyddol sy’n anghynaladwy yn eu gosod nhw mewn perygl difrifol.

“O ganlyniad I fesurau effeithlonrwydd sydd wedi eu cymryd eisoes gan gynghorau, nid ydym ni mewn safle i allu lleihau costau ynni ymhellach. Er lles ein trigolion a’n cymunedau, mae’n hollbwysig bod yr anghenion ynni sylfaenol yma yn cael eu diwallu er mwyn sicrhau hyfywedd ein gwasanaethau.”

-DIWEDD-

]]>
http://www.wlga.cymru/councils-seek-clarity-on-energy-support-for-local-services http://www.wlga.cymru/councils-seek-clarity-on-energy-support-for-local-services http://www.wlga.cymru/councils-seek-clarity-on-energy-support-for-local-services Thu, 19 Jan 2023 09:18:00 GMT
Llywodraeth Cymru wedi cefnogi cynghorau gyda’r setliad, ond penderfyniadau anodd yn parhau, dywed CLlLC Mae CLlLC wedi croesawu setliad cyllidebol y flwyddyn nesaf gan Lywodraeth Cymru ond yn rhybuddio y bydd penderfyniadau anodd yn dal i fod angen eu gwneud o ganlyniad i amgylchiadau economaidd heriol.

Bydd cynghorau yn derbyn cynnydd cyfartalog mewn cyllid o 7.9% gan Lywodraeth Cymru, sydd tua £400m.

 

Dywedodd y Cynghorydd Andrew Morgan OBE (Rhondda Cynon Taf), Arweinydd CLlLC:

“Ein gwasanaethau lleol yw conglfeini ein cymunedau, gyda cynifer yn dibynnu arnyn nhw bob dydd. Rydyn ni’n ddiolchgar iawn i’r Gweinidog am wrando ar ein hachos dros fuddsoddi mewn gofal cymdeithasol, ysgol, a gwasanaethau allweddol eraill gan gynghorau. Rhagorwyd ar ein disgwyliadau o gyllid o’r arian canlyniadol. Ond llwm yw’r rhagolygon economaidd o hyd sy’n golygu y bydd yn rhaid i gynghorau wneud penderfyniadau anodd i gwrdd a bylchau cyllidebol cynyddol oherwydd biliau ynni, chwyddiant a chostau cyflogau. Ychydig dros hanner y pwyseddau’r flwyddyn ariannol nesaf sy’n cael eu cyfarch gan y setliad hwn. Edrychwn ymlaen i barhau gyda’r ymgysylltu adeiladol gyda Llywodraeth Cymru fel ein bod yn gallu gweithio gyda’n gilydd i ddarparu i Gymru gyfan.”

 

Dywedodd y Cynghorydd Mark Pritchard (Wrecsam), Arweinydd Grwp Annibynnol CLlLC:

“Croesawaf yr ymrwymiad sydd wedi ei ddangos gan Lywodraeth Cymru heddiw i’n gwasanaethau lleol. Rydyn ni wedi ymgysylltu mewn deialog clós gyda’r Gweinidog i amlinellu’r heriau difrifol sy’n ein wynebu, ac mae hynny wedi cael ei werthfawrogi. Ar adeg pan fo trigolion yn gorfod dewis rhwng bwyta neu cadw’n glyd, rydyn ni eisiau parhau i fod yno i barhau cefnogaeth i’n cymunedau.”

 

Dywedodd y Cynghorydd Llinos Medi (Ynys Môn), Arweinydd Grwp Plaid Cymru CLlLC:

“Pob dydd o’r flwyddyn, gwneir gwaith arbennig gan ein cynghorau i wella bywydau pobol ac i gefnogi ein cymunedau. Ond dyw ddim yn gyfrinach bod gwasanaethau sy’n achubiaeth i gynifer, megis gofal cymdeithasol, gan bwysau dwys dros ben. Tra’r ydyn ni’n gorfod cwrdd â biliau ynni a phwyseddau chwyddiant sy’n cynyddu tu hwnt i bob rheswm, y canlyniad yw fod yr arian sydd gennym ni i wario ar wasanaethau hollbwysig yn sylweddol yn llai. Rydyn ni wrth gwrs yn gwerthfawrogi’n fawr y setliad yma gan Lywodraeth Cymru, ond mae’n bell o fod yn fwled arian i heriau cyllidebol neilltuol. Bydd yn rhaid i ni o hyd ymgynghori ein cymunedau ar benderfyniadau anodd dros ben i helpu i sicrhau bod gwasanaethau hanfodol yn aros yn hyfyw i bawb sydd eu hangen nhw.”

-DIWEDD-

]]>
http://www.wlga.cymru/welsh-government-has-supported-councils-with-settlement-but-tough-decisions-remain http://www.wlga.cymru/welsh-government-has-supported-councils-with-settlement-but-tough-decisions-remain http://www.wlga.cymru/welsh-government-has-supported-councils-with-settlement-but-tough-decisions-remain Wed, 14 Dec 2022 11:35:00 GMT
“Gobeithio am weld ymrwymiad Llywodraeth Cymru i wasanaethau lleol yn parhau” Gan edrych ymlaen i’r setliad llywodraeth leol i’w gyhoeddi gan Lywodraeth Cymru fory, dywedodd y Cynghorydd Anthony Hunt (Torfaen), Llefarydd CLlLC dros Gyllid:

 

“Dros y misoedd diwethaf, rydyn ni wedi ei gwneud yn hollol glir y niwed sy’n cael ei wneud i gyllidebau cyngor oherwydd pwyseddau chwyddiant eithriadol a biliau ynni afresymol. Yn eu tro, mae’r effeithiau ar ein cymunedau a thrigolion yn debygol o fod yn ddwys.”

“Fel mae’n sefyll, mae gwasanaethau lleol yn wynebu twll du cyllidebol o £784m dim ond am y flwyddyn nesaf, sydd ond yn debygol o gynyddu fwyfwy mewn blynyddoedd i ddod.

“Wrth edrych tuag at setliad llywodraeth leol, rydyn ni’n gwerthfawrogi mai cyfyng yw pŵer ariannol Llywodraeth Cymru, a rydyn ni felly yn realistig am y posibilrwydd am ddatrysiad a fydd yn cwrdd â’r pwyseddau anferthol. Ond, fel sydd wedi ei arddangos mewn ymgysylltu clós a setliadau cyllidebol y gorffennol, rydyn ni hefyd yn gwybod am ymrwymiad Llywodraeth Cymru i’n gwasanaethau lleol hanfodol sy’n cyfrannu cyn gymaint i’n cymunedau, Rydyn ni’n gobeithio’n arw i weld ymrwymiad, er yn anhebyg i gwrdd a’r bylchau cyllidebol anferthol, a fydd yn adlewyrchu pwysigrwydd ein gwasanaethau lleol sy’n cael eu rhedeg gan gynghorau.”

DIWEDD -

]]>
http://www.wlga.cymru/hopeful-of-continuation-of-welsh-government’s-commitment-to-local-services http://www.wlga.cymru/hopeful-of-continuation-of-welsh-government’s-commitment-to-local-services http://www.wlga.cymru/hopeful-of-continuation-of-welsh-government’s-commitment-to-local-services Tue, 13 Dec 2022 22:00:00 GMT