Mae trais yn y cartref yn effeithio ar bobl o bob lliw a llun. Gall trais o'r fath fod yn gorfforol, yn deimladol neu'n rhywiol. Er bod y fwyafrif o'r rhai sy'n dioddef yn ferched, gall effeithio ar ddynion, plant a phobl ifanc sy'n byw mewn cartrefi treisgar, hefyd. Mae'r rhan fwyaf o ffurfiau'r trais yn droseddau ond, i fynd i'r afael â nhw, rhaid i nifer mawr o asiantaethau a gwasanaethau, gan gynnwys byd llywodraeth leol, gymryd camau yn ogystal â'r heddluoedd a'r cyrff cyfiawnder troseddol.
Yn 2010, fe gyhoeddodd Llywodraeth Cymru ei strategaeth ar gyfer mynd i'r afael â thrais yn erbyn merched, 'Yr Hawl i Fod yn Ddiogel'. Mae pedair blaenoriaeth allweddol yn y strategaeth:
- Atal trais yn erbyn merched a thrais yn y cartref a chodi ymwybyddiaeth ohono
- Rhoi cymorth i'r merched sydd wedi dioddef a'u plant nhw
- Gwella ymateb asiantaethau cyfiawnder troseddol
- Gwella ymateb gwasanaethau iechyd ac asiantaethau eraill
Mae llawer o'r nodau a'r amcanion sydd yn y strategaeth yn cyd-fynd â strategaeth Llywodraeth San Steffan, 'Together We Can End Violence Against Women and Girls,’ ac ynddi amryw gamau y dylai cyrff sydd heb eu datganoli eu cymryd yn ogystal â rhai gofynion a fydd yn berthnasol i Gymru a Lloegr ym maes cyfiawnder troseddol.
Bydd partneriaethau diogelwch cymunedol yn hanfodol i lwyddiant 'Yr Hawl i Fod yn Ddiogel’. Mae'r partneriaethau'n cyflawni sawl gorchwyl yn barod ynglŷn â thrais yn y cartref.
Yn ogystal â'r ‘Hawl i Fod yn Ddiogel’, mae nifer o fentrau gwladol eraill i geisio datrys y broblem, gan gynnwys:
- Cyflwyno cynadleddau asesu risgiau ymhlith asiantaethau
- Sefydlu llysoedd arbennig i drin a thrafod achosion o drais yn y cartref
- Agor nifer o ganolfannau atgyfeirio ynghylch ymosodiadau rhywiol
Yn ôl Deddf 'Trais yn erbyn Merched, Trais yn y Cartref a Thrais Rhywiol' Cymru 2014, rhaid i Weinidogion Cymru, awdurdodau lleol a byrddau iechyd lleol lunio a chyhoeddi strategaethau ar gyfer rhwystro trais yn y cartref, trais yn erbyn merched a thrais rhywiol rhag digwydd.
Mae rhagor o wybodaeth gan: Rachel Morgan