Mae Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru (CLlLC) yn cynrychioli buddiannau llywodraeth leol ac yn hybu democratiaeth leol yng Nghymru.
Ei phrif ddibenion yw hyrwyddo llywodraeth leol well, hyrwyddo ei enw da a chefnogi awdurdodau wrth ddatblygu polisïau a blaenoriaethau a fydd yn gwella gwasanaethau cyhoeddus a democratiaeth.
Mae CLlLC yn sefydliad trawsbleidiol dan arweiniad gwleidyddol sy’n ceisio rhoi llais cryf i lywodraeth leol ar lefel genedlaethol. Mae’r Gymdeithas yn sefydliad aelodaeth sy’n cynrychioli'r 22 awdurdod lleol yng Nghymru, mae’r 3 awdurdod tân ac achub a’r 3 awdurdod parc cenedlaethol yn aelodau cyswllt.
Mae CLlLC yn credu bod gwasanaethau’n cael eu darparu orau o fewn fframwaith democrataidd o atebolrwydd lleol ac y dylai’r bobl sy’n defnyddio gwasanaethau cyhoeddus allu dweud eu dweud gymaint â phosib’ ynglŷn â’r modd maent yn cael eu trefnu, eu rheoli a’u hariannu. Llywodraeth leol sy’n cael ei chyfrif fel yr haen o lywodraeth sydd agosaf at ddefnyddwyr gwasanaeth ac sydd yn y lle gorau i ymateb i’w hanghenion. Cydnabyddir mai rôl y llywodraeth ganolog yw pennu’r strategaeth ar gyfer gwasanaethau cyhoeddus yn genedlaethol, ond llywodraeth leol sy’n darparu’r gwasanaeth ar sail amgylchiadau lleol.
Cafodd CLlLC ei sefydlu’n wreiddiol yn 1996 fel corff datblygu polisi a chorff cynrychioliadol. Ers hynny, mae CLlLC wedi datblygu’n sefydliad sydd hefyd yn arwain ar welliant a datblygu, caffael, materion cyflogaeth ac yn cynnal amrywiaeth o gyrff partner sy’n cefnogi llywodraeth leol.