Beth mae Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) yn ei wneud?
- Mae'n uno ac yn moderneiddio cyfreithiau gwasanaethau cymdeithasol yng Nghymru. Mae'n newid y ffordd mae gwasanaethau cymdeithasol yn cael eu darparu i wella llesiant pobl Cymru.
- Bydd gennych fwy o lais mewn penderfyniadau am eich gofal, gan wneud penderfyniadau mewn partneriaeth gyfartal gyda'r gweithwyr proffesiynol.
- Bydd modd i chi gael gwybodaeth a chyngor i’ch helpu.
- Bydd sefydliadau fel awdurdodau lleol a'r GIG yn gweithio mewn partneriaeth i wneud systemau'n symlach ac yn fwy effeithlon.
Pryd bydd y Ddeddf yn dod i rym?
- Daw'r Ddeddf i rym ym mis Ebrill 2016.
Beth yw ystyr "llesiant"?
- Mae llesiant yn golygu eich bod yn hapus, yn iach ac yn gysurus gyda'ch bywyd a'r hyn rydych chi'n ei wneud. Mae'r Ddeddf yn gosod diffiniad o lesiant ar gyfer pobl sydd angen gofal a chymorth. Mae Llywodraeth Cymru wedi cynhyrchu Datganiad Llesiant i edrych ar y canlyniadau llesiant y gall pobl sydd angen gofal a chymorth, a gofalwyr sydd angen cymorth, ddisgwyl eu cyflawni.
Ond beth os nad ydw i'n meddwl y caiff fy llais ei glywed yn iawn?
- Gall eich teulu a’ch ffrindiau gymryd rhan mewn trafodaethau a’ch helpu.
- Os nad yw hyn yn opsiwn i chi, bydd modd i chi ddefnyddio gwasanaethau eirioli.
A fydd pobl yn fwy diogel?
- Bydd Bwrdd Diogelu Annibynnol Cenedlaethol yn ystyried effeithiolrwydd trefniadau diogelu ar draws Cymru.
- Byddant yn monitro perfformiad ledled y wlad ac yn gwneud argymhellion i Lywodraeth Cymru am welliannau y gellid eu gwneud.
- Mae deddfau i ddiogelu oedolion a phlant rhag camdriniaeth neu esgeulustod hefyd wedi'u cryfhau.
Rwy'n derbyn gofal a chymorth, neu gymorth. A fydd hyn yn dod i ben ym mis Ebrill 2016?
- Na fydd. Bydd eich gofal a’ch cymorth yn parhau fel ag y mae, ac fe fyddwch yn dilyn y broses newydd yn eich adolygiad nesaf.
Beth mae'r Ddeddf yn ei wneud i sicrhau bod pobl yn cael yr help sydd ei angen cyn ei bod yn argyfwng?
- Bydd yr awdurdod a'r bwrdd iechyd lleol yn cydweithio i asesu'r boblogaeth a gweld pa ofal a chymorth sydd ei angen yn yr ardal. Bydd hyn yn dangos pa wasanaethau ataliol sydd eu hangen. Rhaid i awdurdodau lleol ddarparu gwasanaeth gwybodaeth, cyngor a chymorth i bobl. Rhaid i awdurdodau lleol annog pobl sy'n derbyn gofal a chymorth i ymuno yn y broses o lunio a darparu gwasanaethau, ynghyd â dulliau cyflawni eraill gan gynnwys; mentrau cymdeithasol, cwmnïau cydweithredol, gwasanaethau sy'n cael eu harwain gan eu defnyddwyr, a'r sector gwirfoddol.
Beth yw'r dulliau cyflawni eraill?
- Mae menter gymdeithasol yn fusnes sy'n ail-fuddsoddi’r elw yn ei wasanaethau neu yn y gymuned.
- Mae cwmni cydweithredol yn grŵp o bobl sy'n gweithredu gyda'i gilydd yn wirfoddol i ddiwallu angen economaidd neu gymdeithasol yn eu cymuned.
- Mae gwasanaethau sy'n cael eu cyflawni gan ddefnyddwyr yn cael eu rhedeg a'u rheoli gan bobl sy'n defnyddio gwasanaethau cymorth.
- Ceir gwybodaeth ar wefan Busnes Cymdeithasol Cymru ynghylch sut i sefydlu menter gymdeithasol.
Beth sy'n wahanol am fy mhroses asesu?
- Bydd asesiadau'n symlach, ac ar sail eich anghenion.
- Byddant yn cael eu cwblhau mewn partneriaeth gyda chi a'ch teulu, a'r person proffesiynol sy'n gweithio gyda chi. Bydd sgwrs cael ei chynnal i benderfynu beth sy'n bwysig i chi a beth sydd ei angen arnoch i sicrhau eich llesiant. Bydd hyn yn ystyried eich cryfderau, a'r adnoddau a'r opsiynau sydd ar gael i chi - gan gynnwys unrhyw gymorth y gall yr awdurdod lleol ei ddarparu.
A fydd unrhyw newidiadau i Daliadau Uniongyrchol?
- Bydd mwy o bobl yn medru derbyn Taliadau Uniongyrchol os ydynt yn dymuno gwneud hynny. Mae hynny'n golygu y byddwch yn cael yr arian i drefnu eich gofal a'ch cymorth eich hun i sicrhau'ch canlyniadau llesiant, gan gynyddu'ch rheolaeth a'ch dewis personol.
Sut bydd sefydliadau yn cydweithio i wella llesiant?
- Bydd rhaid i awdurdodau a byrddau iechyd lleol yn benodol gydweithio'n agos er mwyn integreiddio iechyd a gofal cymdeithasol mewn ffordd well. Gyda'i gilydd, byddant yn asesu gofynion gofal a chymorth yn eu hardaloedd gan nodi pa wasanaethau sydd eu hangen, a'u darparu.
- Bydd rhaid i sefydliadau gydweithio mewn ffordd integredig wrth asesu a pharatoi gofal er mwyn osgoi dyblygu gwaith.
Os ydw i'n ofalwr, beth sy'n newid i mi yn benodol?
- Fel gofalwr, bydd gennych yr un faint o hawl â'r person rydych yn gofalu amdano i gael eich asesu i weld pa gymorth sydd ei angen arnoch, ac i gael y lefel briodol o gymorth gan eich awdurdod lleol.
Rwy'n cael gofal maeth. Ydw i'n mynd i gael mwy o gymorth?
- Os ydych chi a'ch teulu maeth am aros gyda'ch gilydd pan fyddwch yn cyrraedd 18 oed, byddwch yn cael cymorth i wneud hynny nes eich bod yn 21. Mae modd ymestyn hwn i'ch pen-blwydd yn 25 os ydych yn derbyn addysg neu hyfforddiant.
Oes unrhyw newid i'r broses fabwysiadu?
- Sefydlwyd y Gwasanaeth Mabwysiadu Cenedlaethol yn 2014. Mae'n dod â'r holl gynghorau lleol ynghyd i gydweithio gyda sefydliadau gwirfoddol yn y maes mabwysiadu yng Nghymru. Mae'r canlyniadau eisoes yn dangos bod y broses yn gynt bellach, a bod gwell cymorth ar gael i deuluoedd.
Oes unrhyw newid i'r ffordd rwy'n talu am ofal a chymorth?
- Bydd y ffordd rydych yn talu am ofal os oes gennych y modd ariannol i wneud hynny yn unffurf ar draws Cymru - bydd un set o drefniadau asesu a chodi tâl ar gyfer pob oedolyn lle bo gofyn iddynt dalu am eu gofal. Bydd hyn ar gyfer gofal preswyl a dibreswyl.
- Bydd pawb sy'n talu yn cael datganiad manwl yn egluro sut y cafodd y swm ei gyfrif, a bydd modd ei herio os oes angen.
- Yn 2011, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru gap ar y swm y gall cynghorau ei godi am ofal a chymorth dibreswyl - mae'r cap hwn yn dal i fod mewn bodolaeth, ac mae'n £60 yr wythnos.
Sut y byddwn yn gwybod bod os yw'r Ddeddf yn llwyddiannus?
- Bydd awdurdodau lleol ar draws Cymru'n cofnodi eu perfformiad, ac yn medru cymharu eu hunain gydag ardaloedd eraill. Yna bydd modd iddynt ddysgu a gwella drwy rannu arfer da. Bydd Llywodraeth Cymru'n adrodd ar y cynydd tuag at lesiant mewn adroddiad blynyddol.
Llywodraeth Cymru: Yr Adran Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol