Mae Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru (CLlLC) yn gweithio mewn partneriaeth ag Academi Wales a Llywodraeth Cymru i gyflwyno’r Rhaglen Arwain i Gynghorwyr yng Nghymru.
Diben y rhaglen hon yw galluogi arweinyddion a chynghorwyr eraill sy’n ymwneud ag arwain i ystyried y syniadau diweddaraf ym maes arweiniad gwleidyddol a meithrin yr wybodaeth a’r medrau angenrheidiol i ateb heriau.
Un o gryfderau’r rhaglen yw ei bod yn rhoi cyfle i gynghorwyr o bob plaid wleidyddol gwrdd â’u cyfatebion o gynghorau a phleidiau eraill a thrafod materion sy’n gyffredin iddyn nhw.
Mae’r cyfuniad hwnnw o ddysgu gan arbenigwyr ym maes arwain a thrwy profiad cyfoeswyr yn rhoi i’r cynghorwyr hyder yn eu galluoedd a rhwydwaith newydd o bobl y gallan nhw ymddiried ynddynt.
Amserlen
Mae'r rhaglenni'n drawsbleidiol ac wedi'u cyfyngu i 25 o gynghorwyr mewn unrhyw un sesiwn er mwyn sicrhau'r cyfranogiad mwyaf posibl.
Rhaglen 1 Gogledd Cymru (penwythnosau)
Modiwl 1: 23 i 24 Medi 2023
Modiwl 2: 28 Hydref a 30 Hydref 2023
Modiwl 3: 18 i 19 Tachwedd 2023
Rhaglen 2 De Cymru (yn ystod yr wythnos)
Modiwl 1: 17 i 15 Ionawr 2024
Modiwl 2: 21 Chwefror a 23 Chwefror 2024
Modiwl 3: 13 i 14 Mawrth 2024
Mae rhagor o wybodaeth gan: Ann-Marie McCafferty
annmarie.mccafferty@wlga.gov.uk