Cynllunydd Senario Sero Net

Mae'r Cynllunydd Senario Sero Net, a gomisiynwyd gan CLlLC a Llywodraeth Cymru, yn cefnogi cynghorau i gyfrifo costau ac allyriadau carbon bras o ddatgarboneiddio eu hystadau adeiladau ar lefel portffolio ar draws tri senario cynyddol tuag at ddull adeilad cyfan. Wedi'i ddatblygu gan Bartneriaethau Lleol, mae'r cymorth gwneud penderfyniadau hwn hefyd yn ystyried senarios Goleuadau Stryd a Fflyd ac yn darparu amserlenni i uchelgais 2030 am sector cyhoeddus sero net.

 

Mae'r Cynllunydd yn cefnogi argymhelliad Archwilio Cymru ar gyfer cynlluniau gweithredu datgarboneiddio wedi'u costio ac yn cynorthwyo argymhelliad Comisiynydd Cenedlaethau'r Dyfodol Cymru ar gyfer gwytnwch hinsawdd yn adeiladau cyrff cyhoeddus.1,2

 

Mae pob cyngor wedi cael dogfen Gynllunydd a chanllawiau wedi'i bersonoli yn seiliedig ar eu data penodol (o safbwynt 'pwynt mewn amser'). 

 

Am ragor o wybodaeth, anfonwch e-bost at:


Dolenni:

  Amdanon ni

Mae Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru (WLGA) yn cynrychioli buddiannau byd llywodraeth leol ac yn hyrwyddo democratiaeth leol yng Nghymru.

  Cysylltwch â ni

Ffôn : 02920 468680
E-bost : ymholiadau@wlga.gov.uk
Rydym yn croesawu galwadau a gohebiaeth yn Gymraeg
Oriau busnes : Llun - Iau 8:30 - 5:00, Gwen - 08:30 - 16:30