Tri o gynghorau Gogledd Cymru ar ‘waelod y domen’ setliad dros dro Llywodraeth Cymru

Dydd Mawrth, 09 Hydref 2018

Yn ymateb i’r setliad dros dro gan Lywodraeth Cymru heddiw, dywedodd Dirprwy Arweinydd Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru, y Cynghorydd Aaron Shotton (Sir y Fflint):

 

“Mae’r setliad dros dro heddiw ymhell o fod yn ddigonol ar gyfer anghenion cyllid cynghorau lleol. Bydd cynghorau Gogledd Cymru yn cael eu taro’n arbennig o galed gan y gyllideb arfaethedig yma gyda thri awdurdod – Conwy, Sir y Fflint ac Ynys Môn – ar waelod y domen yn nhermau cyllido blynyddol. Mae yna ddisgwyliad ar gynghorau unwaith eto i ganfod toriadau enfawr i gydbwyso eu cyllidebau am y flwyddyn nesaf.

“Bydd yna bwynt yn dod yn fuan ble y bydd yn rhaid i un neu fwy o’n cynghorau ni gyfaddef nad ydyn nhw mewn sefyllfa i allu cydbwyso eu cyllidebau yn ôl gofynion statudol, heb gyfaddawdu ar ansawdd a diogelwch gwasanaethau lleol, o dan straen ariannol mor ddwys.”

“Mae arweinwyr cynghorau Cymru wedi bod yn rhybuddio ers nifer o flynyddoedd am effeithiau cynyddol y cynni ariannol.”

“Mae CLlLC wedi bod yn dadlau yn resymol ac yn seiliedig ar dystiolaeth ar gyfer gwella cyllid i amddiffyn ysgolion, gofal cymdeithasol i’r henoed, ynghyd a gwasanaethau amgylcheddol, trafnidiaeth, llyfrgelloedd a llawer mwy. Mae Llywodraeth Cymru wedi methu i gyfateb ei rethreg o gefnogaeth gyda’r gyllideb yma. Rydyn ni’n croesawu y cynnydd mewn cyllid ar gyfer y GIG yng Ngogledd Cymru.”

“Mae angen i Lywodraeth Cymru ail-ystyried ei gyllideb er mwyn buddsoddi yn y gwasanaethau cymunedol lleol y mae cynghorau yn eu darparu ochr yn ochr â’r GIG. Gall trethdalwyr fod yn wynebu codiadau mwy nag erioed yn y Dreth Cyngor y flwyddyn nesaf gan nad ydi cynghorau bellach yn cyllido cynghorau i’r lefel sydd ei angen.”

“Byddwn ni yn galw ar Aelodau Cynulliad ar draws y rhanbarth, o bob plaid, i bwyso ar Lywodraeth Cymru i adolygu ar unwaith y gefnogaeth sy’n cael ei roi i gynghorau o fewn y gyllideb yma.”

  About

Mae Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru (WLGA) yn cynrychioli buddiannau byd llywodraeth leol ac yn hyrwyddo democratiaeth leol yng Nghymru.

  Cysylltwch â ni

Ffôn : 02920 468680
E-bost : enquiries@wlga.gov.uk
Oriau busnes : Llun - Iau 8:30 - 5:00, Gwen - 08:30 - 16:30