Mae’r Cynllun Atgyfeirio Cenedlaethol ar gyfer Ymarfer Corff yn gweithredu yn ôl arferion gorau’r Deyrnas Gyfunol, tystiolaeth gyfoes berthnasol a safonau gwladol. Llywodraeth Cymru sy’n cynnal y cynllun ar y cyd â Chymdeithas Llywodraeth Leol Cymru, yr awdurdodau lleol, Iechyd Cyhoeddus Cymru a’r byrddau iechyd lleol.
Prif nodau’r cynllun
- Rhoi cyfleoedd i bobl ymarfer yn ddiogel ac yn effeithiol yn y gymuned yn ôl eu gallu ac yn unol â’r safonau gwladol.
- Cynnig cynghorion priodol am faetheg ar y cyd ag ymborthegwyr a/neu gylchoedd achrededig ym maes colli pwysau.
- Hyrwyddo’r syniad o golli pwysau mewn modd iach er lles meddwl a chorff pob client.
- Cryfhau tuedd pob client i ymarfer am weddill ei einioes.
Meini Prawf Derbyn
Mae’r cynllun ar gyfer clientiaid ac iddynt sgôr dros 30 yn ôl mynegai màs y corff lle bo angen colli pwysau ac ymarfer.
Bydd angen i arbenigwr iechyd eu hasesu a’u hatgyfeirio i ofalu y byddan nhw’n addas i gynllun yn y gymuned ac wedi cytuno i fynychu cwrs maetheg ‘Foodwise4 Life’ am wyth wythnos. Efallai y bydd rhai wedi defnyddio gwasanaethau ymbortheg neu’n parhau i’w ddefnyddio. Os felly, cofnodir hynny ar y ffurflenni atgyfeirio.
Mae rhagor o wybodaeth gan: ners.wales@wales.nhs.uk