Mae cynghorau ledled Cymru yn trawsnewid sut mae arian cyhoeddus yn cael ei wario, gan ddefnyddio caffael nid yn unig i brynu nwyddau a gwasanaethau ond i gryfhau economïau lleol, cefnogi busnesau bach a lleihau allyriadau carbon.
O ailfeddwl sut mae contractau gofal cymdeithasol yn cael eu darparu, i sicrhau mynediad digidol arloesol i ysgolion a chefnogi cynhyrchwyr bwyd lleol, mae cynghorau’n defnyddio caffael mewn ffyrdd newydd i gefnogi cymunedau a chryfhau economïau lleol.
Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili wedi arwain dau brosiect mawr sy’n newid sut mae arian cyhoeddus yn cael ei wario yng Nghymru. Mae ei raglen EdTech, a ddatblygwyd gyda Llywodraeth Cymru a phob un o’r 22 awdurdod lleol, yn golygu bod gan bob ysgol yng Nghymru bellach fynediad teg at dechnoleg dysgu ddigidol. Mae’r cyngor hefyd yn arwain Grŵp Bwyd Cydweithredol y Sector Cyhoeddus Cymru, partneriaeth gwerth £47 miliwn sy’n helpu 19 o gyrff cyhoeddus i brynu bwyd gyda’i gilydd a chefnogi cyflenwyr yng Nghymru.
Yn Sir Gaerfyrddin, mae datblygiad Pentre Awel yn Llanelli yn defnyddio caffael i ddarparu swyddi, hyfforddiant a buddion cymunedol ochr yn ochr ag adeiladu. Mae dull y cyngor wedi creu 76 o swyddi, 71 o brentisiaethau ac wedi cynhyrchu mwy na £35 miliwn o werth cymdeithasol, wrth roi cyfle i dros 2,000 o ddisgyblion ddysgu sgiliau newydd ac archwilio gyrfaoedd sy’n gysylltiedig â’r prosiect.
Ailgynlluniodd Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf ei gontract Gofal Cartref, gwerth £20 miliwn y flwyddyn, i wella gwasanaethau i ofalwyr a darparwyr gofal. Mae contractau lleol llai, taliadau Cyflog Byw Go Iawn a chyllid ymlaen llaw wedi helpu i leihau rhestrau aros i ffigurau sengl ac wedi gwneud hi’n haws i bobl adael yr ysbyty pan fyddant yn barod.
Mae gwasanaeth caffael Ardal Cyngor Caerdydd, a rennir â Sir Fynwy, Torfaen a Bro Morgannwg, yn rheoli £1.3 biliwn o wariant cyfunol. Drwy weithio gyda’i gilydd, mae’r cynghorau’n lleihau dyblygu, yn cefnogi cyflenwyr lleol ac yn helpu i gyrraedd targedau sero net.
Mae’r gwaith hwn wedi cael ei gydnabod yng Ngwobrau GO Cymru, sy’n dathlu rhagoriaeth mewn caffael cyhoeddus – o arloesi a chydweithio i gynaliadwyedd ac effaith gymdeithasol. Perfformiodd cynghorau Cymru’n gryf ar draws sawl categori, gan adlewyrchu ymrwymiad y sector i sicrhau gwerth a chanlyniadau cadarnhaol i gymunedau.
Dywedodd y Cynghorydd Jamie Pritchard, Dirprwy Arweinydd Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili:
“Rydym yn hynod falch o’n Tîm Caffael a’r gwaith anhygoel maen nhw’n ei wneud i ddarparu arloesedd, gwerth a manteision gwirioneddol i’n cymunedau.
“Mae ennill tair gwobr mewn un noson yn gyflawniad eithriadol ac yn dyst i’w gwaith caled, eu creadigrwydd a’u hymrwymiad i wneud y cyngor yn arweinydd ym maes caffael cyhoeddus. Llongyfarchiadau enfawr i bawb a gymerodd ran!”
Dywedodd y Cynghorydd Mark Pritchard, llefarydd CLlLC dros Gyllid:
“Gall pob punt y mae cyngor yn ei gwario yn wneud mwy na darparu gwasanaeth yn unig. Ledled Cymru, mae awdurdodau lleol yn dod o hyd i ffyrdd newydd a chreadigol o ddefnyddio’r pŵer gwario hwnnw i gefnogi pobl, rhoi hwb i fusnesau lleol a chryfhau cymunedau.
“Mae’n wych gweld y gwaith hwnnw’n cael ei gydnabod yng Ngwobrau GO. P’un a yw Caerffili’n helpu pob ysgol i gael mynediad at ddysgu digidol, Sir Gaerfyrddin yn adeiladu gwerth cymdeithasol mewn prosiectau mawr fel Pentre Awel, neu’r Rhondda’n ailgynllunio contractau gofal i gefnogi gofalwyr a phreswylwyr yn well, mae’r enghreifftiau hyn yn dangos y gwahaniaeth mae llywodraeth leol yn ei wneud bob dydd.
“Efallai nad caffael yw rhan fwyaf trawiadol gwaith y cyngor, ond mae’n siapio cymaint o’r hyn y mae pobl yn dibynnu arno – o’r bwyd mewn ysgolion a chartrefi gofal i’r dechnoleg mewn ystafelloedd dosbarth. Mae’r gwobrau hyn yn tynnu sylw at yr effaith gadarnhaol y mae cynghorau’n ei chael mewn cymunedau ledled Cymru, ac ymroddiad y staff sy’n gweithio’n ddiflino i wneud i hynny ddigwydd.”