Mae cynghorau Cymru yn cefnogi ymgyrch Sbotolau Safonau Masnach Cymru 2025, gan dynnu sylw at waith hanfodol swyddogion Safonau Masnach ledled Cymru sy’n cadw defnyddwyr yn ddiogel ac yn cefnogi busnesau gonest.
Nod yr ymgyrch genedlaethol yw helpu pobl i osgoi cynhyrchion anniogel neu ffug, o deganau ffug a thrydanai diffygiol i gosmetigau anghyfreithlon a masnachwyr twyllodrus. Mae’n dathlu rôl hanfodol Safonau Masnach drwy dri diwrnod thematig:
- Osgoi Trychineb Nadolig
- Cael Cosmetig Hyderus
- Cartref Diogel Cartref
Mae pob thema’n annog siopwyr i wneud dewisiadau gwybodus, prynu’n ddiogel, ac i ddeall sut mae Safonau Masnach yn helpu i gadw teuluoedd yn ddiogel drwy gydol y flwyddyn.
Mae timau Safonau Masnach cynghorau ledled Cymru yn cynghori siopwyr i siopa’n glyfar a chadw’n ddiogel y Nadolig hwn. P’un a ydynt yn prynu teganau, nwyddau trydanol neu addurniadau Nadoligaidd, atgoffir siopwyr i brynu gan fanwerthwyd dibynadwy yn unig ac i osgoi bargeinion sy’n ymddangos yn rhy dda i fod yn wir – gall nwyddau anniogel neu ffug achosi tanau, anafiadau a risgiau iechyd hirdymor.
Cynghorir siopwyr i:
- Brynu gan fanwerthwyd ag enw da neu wefannau rydych chi’n eu hadnabod.
- Gwirio am farciau diogelwch CE neu UKCA a chyfarwyddiadau clir.
- Osgoi cynhyrchion sy’n cael eu gwerthu heb labelu priodol neu gan werthwyr cymdeithasol heb eu gwirio.
- Talu gyda cherdyn credyd neu gerdyn debyd am amddiffyniad ychwanegol.
- Cadw derbynebau a thynnu lluniau o nwyddau diffygiol os oes angen eu hadrodd.
- Osgoi colur wedi’i labelu “at ddefnydd proffesiynol yn unig” oni bai ei fod yn cael ei ddefnyddio gan weithwyr proffesiynol hyfforddedig.
- Cael dyfynbrisiau ysgrifenedig ar gyfer atgyweiriadau neu welliannau cartref a chadarnhau manylion llawn masnachwr cyn cytuno i unrhyw waith.
Dywedodd y Cynghorydd Stephen Thomas, llefarydd CLlLC dros Wasanaethau Rheoleiddio:
“Rydyn ni i gyd yn ddefnyddwyr, ac rydyn ni i gyd yn dibynnu ar y gwaith hanfodol y mae swyddogion Safonau Masnach yn ei wneud drwy gydol y flwyddyn i gael gwared ar gynhyrchion anniogel o werthiant, ymchwilio i sgamiau a chefnogi busnesau cyfreithlon. Mae’r ymgyrch hon yn gyfle gwych i gydnabod eu hymdrechion ac i atgoffa pobl sut y gall gweithredoedd syml helpu i amddiffyn eu hunain a’u teuluoedd rhag niwed.”
“Ar yr adeg hon o’r flwyddyn, mae’n hawdd cael eich temtio gan fargeinion ar-lein rhad – ond gall rhai ddod â pheryglon cudd. Mae ein neges yn syml: siopa’n glyfar, arhoswch yn ddiogel, a chefnogwch eich tîm Safonau Masnach lleol.”