Cynigion niwclear Wylfa yn 'gam pwysig ymlaen', meddai cynghorau Cymru Mae cynghorau ledled Cymru wedi croesawu cyhoeddiad Llywodraeth y DU bod Wylfa wedi'i ddewis fel safle ar gyfer ei Adweithydd Modiwlaidd Bach (SMR) cyntaf. Mae'r penderfyniad yn cael ei ystyried yn ddatblygiad arwyddocaol i ogledd-orllewin Cymru, gyda'r potensial i gefnogi uchelgeisiau diogelwch ynni a datgarboneiddio hirdymor Cymru.
Mae'r cyhoeddiad yn nodi y bydd unrhyw brosiect yn y dyfodol yn mynd trwy brosesau cynllunio manwl a rheoleiddio, gan gynnwys asesu amgylcheddol ac ymgysylltu â'r cyhoedd. Mae'r safle wedi cynnal seilwaith niwclear o'r blaen, ac mae gwaith cynharach sy'n gysylltiedig â phrosiect Horizon yn darparu profiad perthnasol i bartneriaid lleol wrth i drafodaethau fynd rhagddo.
Bydd CLlLC yn parhau i weithio gyda Chyngor Ynys Môn, Llywodraeth Cymru a phartneriaid i sicrhau bod lleisiau lleol yn cael eu clywed wrth i gynlluniau ddatblygu a bod ystyriaethau cymunedol, amgylcheddol ac economaidd yn cael eu cydbwyso'n ofalus.
Dywedodd llefarydd CLlLC ar ran yr Economi ac Ynni, y Cynghorydd Gary Pritchard:
"Mae'r cyhoeddiad hwn yn gam pwysig ymlaen i'r rhanbarth. Gallai prosiect o'r raddfa hon gefnogi cyflogaeth o ansawdd uchel, cryfhau cadwyni cyflenwi lleol a chyfrannu at system ynni fwy diogel a charbon is i Gymru.
"Os caiff ei ymdrin yn ofalus, mae gan y prosiect hefyd y potensial i ddod â manteision gwirioneddol drawsnewidiol i gymunedau ar draws Ynys Môn, gan greu cyfleoedd newydd i bobl leol, cefnogi buddsoddiad hirdymor a helpu'r ynys i dyfu mewn ffordd gynaliadwy."
"Rydym hefyd yn cydnabod bod datblygu niwclear yn parhau i fod yn fater o ddadl i lawer o gymunedau. Mae'n hanfodol bod y prosiect yn esblygu mewn ffordd sy'n parchu pryderon lleol, yn diogelu'r iaith a'r diwylliant Cymraeg, ac yn sicrhau manteision hirdymor ystyrlon i bobl ar draws Ynys Môn a gogledd Cymru."