Y cynni yn parhau i gynghorau

Dydd Llun, 29 Hydref 2018

Mae cynghorau Cymru yn parhau i archwilio goblygiadau cyllideb y DU ar hyn o bryd. Cynigir y mesurau canlynol gan CLlLC i helpu trethdalwyr ar draws Cymru. Mae’n hanfodol bod mwy o gyllid yn cael ei fuddsoddi mewn gwasanaethau craidd, yn enwedig ysgolion, gofal cymdeithasol, trafnidiaeth, gwasanaethau iechyd meddwl a llu o wasanaethau eraill.

Mae CLlLC wedi galw am y canlynol:

  • Bod unrhyw gyllid a gyhoeddwyd yn y gyllideb heddiw a fydd yn dod i Gymru yn cael ei fuddsoddi yn gyfan gwbl mewn gwasanaethau craidd lleol megis ysgolion, gofal cymdeithasol a thrafnidiaeth.
  • Bod Llywodraeth Cymru yn gweithredu ar ei addewid mai cynghorau fydd y “cyntaf yn y ciw” am unrhyw gyllid ychwanegol, ac felly yn lleddfu peth o’r baich ar dalwyr y dreth cyngor.
  • Llywodraeth Cymru i rhoi hwb i gyllido gwasanaethau lleol trwy drosglwyddo’r holl grantiau unigol a gyhoeddwyd y tu allan i’r setliad eleni i fewn i gyllid craidd e.e. y £15m ar gyfer ysgolion.
  • Cynnydd mewn cyllido gwaelodol er mwyn cynyddu cyllidebau hynny sydd wedi cael eu gadael â setliadau -1%
  • Yn olaf, bod yn rhaid i fater pensiynau athrawon gael ei ddatrys; fel arall, bydd unrhyw arian newydd yn cael ei lyncu.

 

Dywedodd y Cynghorydd Debbie Wilcox (Casnewydd), Arweinydd CLlLC:

“Dyma gyllideb hynod anodd arall gan San Steffan sydd ddim yn rhoi’r diwedd ar gynni fel a addawodd Prif Weinidog Prydain. Mae llywodraeth leol yng Nghymru yn parhau i ysgwyddo baich y cynni ariannol, a’r flwyddyn nesaf yw’r flwyddyn ble y bydd costau’r gweithlu yn cynyddu hyd yn oed yn fwy. Rydyn ni wir wedi cyrraedd pwynt di-droi’n ôl. Ysgrifennodd pob un o’r 22 o’r arweinwyr cyngor i Lywodraeth Cymru heddiw yn galw arni i wneud popeth o fewn ei gallu i adfer hyblygrwydd ym mheth o’r cyllid grant fel ein bod yn gallu ymateb yn lleol i bwyseddau chwyddiant o fewn addysg a gofal cymdeithasol. Heb yr hyblygrwydd hynny, rydyn ni’n ofni am swyddi o fewn addysg, gofal cymdeithasol a meysydd eraill a fydd yn effeithio ar safon y gwasanaeth a ddarperir.

“Rydyn ni’n gwerthfawrogi parodrwydd Llywodraeth Cymru i wrando â’u hymrwymiad taw llywodraeth leol fydd y “cyntaf yn y ciw” ar gyfer unrhyw arian ychwanegol y mae’n ei dderbyn gan Lywodraeth y DU, er mwyn helpu i leddfu baich y cynni ariannol ar bobl yng Nghymru trwy fuddsoddi mewn gwasanaethau cyhoeddus lleol.”

 

Dywedodd y Cynghorydd Anthony Hunt (Torfaen), Llefarydd CLlLC dros Gyllid ac Adnoddau:

“Mae’n hanfodol bod gwasanaethau lleol yn cael yr hawl cyntaf ar unrhyw adnoddau ychwanegol sy’n dod i Gymru. Rydyn ni yn dal yn bryderus am gostau gweithlu ac yn enwedig felly y cynnydd mewn cyfraniadau cyflogwyr i’r Cynllun Pensiynau Athrawon a fydd yn gadael ein hysgolion ni mewn sefyllfa druenus. Mae cyfle yn dal i fod yn y cyd-destun Cymreig i wella ar y sefyllfa trwy ddefnyddio cyllideb Llywodraeth Cymru a pheth o’r cyllid ychwanegol sy’n dod o gynigion y Canghellor.”

“Rydyn ni’n gwybod bod llymder wedi effeithio ar bob agwedd o gymunedau Cymru. Yn gyffredin â Llywodraeth Cymru, mae’r 22 cyngor yn edrych ymlaen yn fawr i’r amser pan y bydd y polisi hwn wedi dod i ben. Fodd bynnag, tan hynny, mae’n ofynnol i ni i gyd i weithio gyda’n gilydd i sicrhau dyfodol gwasanaethau hanfodol ar draws Cymru.”

 

  About

Mae Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru (WLGA) yn cynrychioli buddiannau byd llywodraeth leol ac yn hyrwyddo democratiaeth leol yng Nghymru.

  Cysylltwch â ni

Ffôn : 02920 468680
E-bost : enquiries@wlga.gov.uk
Oriau busnes : Llun - Iau 8:30 - 5:00, Gwen - 08:30 - 16:30