Mae CLlLC wedi amddiffyn cynghorau a’r gweithlu gofal cymdeithasol ymroddgar yn dilyn sylwadau sarhaus a di-sail a wnaed gan Fforwm Gofal Cymru mewn ymateb i gyhoeddiad cadarnhaol Llywodraeth Cymru am fwy o gyllid ar gyfer gofal cymdeithasol.
Dywedodd y Cynghorydd Andrew Morgan (Rhondda Cynon Taf), Arweinydd CLlLC:
“Mae staff gweithgar iechyd a gofal cymdeithasol wedi bod yn arwyr yng Nghymru yn ystod y pandemig. Dyna pam fod y sylwadau yma mor anffodus a sarhaus i’r gweithlu sydd wedi cael ei wthio i’r eithaf. Un o gonglfeini’r 18 mis diwethaf yw partneriaeth, sy’n gwneud y sylwadau yma hyd yn oed yn fwy siomedig.
Fel sydd wedi dod yn berffaith glir i ni i gyd, mae gweithwyr gofal ymroddgar yn parhau i fynd y filltir ychwanegol i ofalu am y rhai mwyaf bregus yn ein cymdeithas, ac yn sicr nid ydyn nhw am gael eu pregethu gan unigolion di-wyneb sy’n cael eu gyrru gan elw.
“Mi ddown ni drwy’r argyfwng gyda’n gilydd a bydd cynghorau lleol yn parhau i weithio gyda’i holl bartneriaid o fewn iechyd a’r sector wirfoddol, ynghyd â phartneriaid ymroddgar, adeiladol yn y sector annibynnol. Rydyn ni hefyd wedi ymrwymo i helpu i wireddu uchelgais Llywodraeth Cymru i ail-gydbwyso’r sector gofal cymdeithasol, darparu’r Cyflog Byw Go Iawn, cael gwared o elw fel cymhelliad mewn gwasanaethau plant, a chanolbwyntio ar gwrdd ag anghenion gofal cymdeithasol a gwella llesiant y rhai mwyaf bregus yn ein cymdeithas.”
-DIWEDD –