Ymgynnull arweinwyr cyngor a Llywodraeth Cymru ar gyfer cyfarfod Cabinet ar y cyd cyntaf yn y DU

Dydd Mercher, 06 Hydref 2021

Daeth arweinwyr holl gynghorau Cymru a Cabinet Llywodraeth Cymru ynghyd ddydd Mercher. Credir mai y cyfarfod Cabinet ar y cyd hwn yw’r cyntaf o’i fath i’w gynnal yn y DU, yn dilyn lefel digynsail o ymgysylltu rhwng llywodraeth leol a Llywodraeth Cymru ers cychwyn y pandemig.

 

Galwyd y cyfarfod i ddatblygu ymatebion ar y cyd i heriau allweddol ac i gwrdd â blaenoriaethau â rennir trwy’r Rhaglen Lywodraethu, gan ganolbwyntio’n benodol ar yr argyfwng gofal cymdeithasol a newid hinsawdd.

 

Bu arweinwyr cyngor a gweinidogion yn cyfnewid syniadau am ddiwygio arloesol a beiddgar gan gynnwys o ran recriwtio a chadw staff, modelau darparu gwasanaeth, a chyllid cynaliadwy, ynghyd â’r ymrwymiadau sydd eisoes wedi cael ei gwneud gan gynghorau yn cwmpasu pwrcasu, trafnidiaeth, adeiladau a defnydd tir.

 

Dywedodd y Cynghorydd Andrew Morgan (Rhondda Cynon Taf), Arweinydd CLlLC:

“Roedd hwn yn gyfarfod hanesyddol sydd yn arwydd o’r parch o’r ddwy ochr rhwng Llywodraeth Cymru a llywodraeth leol, ac yn dangos partneriaeth sydd ddim i’w weld yn unman arall yn y DU.

“Mae cynghorau a Llywodraeth Cymru yn rhannu ystod o flaenoriaethau sy’n rhan o ddatblyfu gweledigaeth i wneud gwahaniaeth gwirioneddol i fywydau yn ein cymunedau. Ymysg y blaenoriaethau mwyaf brys mae mynd i’r afael â gofal cymdeithasol, a delio gyda newid hinsawdd.

“Ledled Cymru, mae gwasanaethau cymdeithasol ar ben eu tennyn. Rhaid i ni ymateb i broblemau byr dymor ond mae yna hefyd  gwestiynau o ran y gweithlu ac yn strategol y gallwn ni ond eu hateb trwy weithio gyda’n gilydd.

“Nid rhywbeth i boeni amdano yn y dyfodol yw newid hinsawdd: mae’n cael effaith o’n cwmpas ni heddiw. Yn y dyddiau diwethaf, rydym ni wedi bod yn clirio ar draws Cymru wedi i lifogydd unwaith eto rwygo drwy deuluoedd, cartrefi, busnesau a chymunedau.

“Mae’r ddau faes yn cynrychioli heriau hir dymor strategol a systemig, ond llawer o gyfleon hefyd i weithredu yn feiddgar ar y cyd i ddarparu newid gyda’n gilydd.”

 

Dywedodd Mark Drakeford, Prif Weinidog Cymru:

“Rydyn ni wedi gweld, yn fyw iawn, dros y deunaw mis diwethaf y berthynas hollbwysig sydd wedi cael ei datblygu rhwng Llywodraeth Cymru a llywodraeth leol i’n helpu ni trwy’r pandemig a sydd wedi caniatáu i ni weithio gyda’n gilydd ar ran y bobl sydd wedi ein hangen ni.

“Yr her nawr yw i ganolbwyntio’r bartneriaeth honno ar y dasg o lunio adferiad. Yr hyn â’n cynhaliodd ni trwy’r pandemig oedd gwerthoedd cyfiawnder cymdeithasol, undod a chydweithredu a oedd yn hanfod i wasanaeth cyhoeddus yng Nghymru. Yr ysbryd ‘Tîm Cymru’ hynny sy’n ein helpu ni i ddod trwy’r argyfwng Covid, a gall ein helpu ni trwy heriau yfory hefyd. Bydd datblygu ymatebion beiddgar, creadigol, arloesol ar y cyd yn ein helpu ni i gyflawni Cymru well."

 

Dywedodd Rebecca Evans, Gweinidog dros Gyllid a Llywodraeth Leol:

“Cafwyd cyfle unigryw heddiw i holl arweinwyr llywodraeth leol a gweinidogion Llywodraeth Cymru i drafod ein huchelgeisiau ac i daclo gyda’n gilydd dau o’n heriau mwyaf sylweddol – gofal cymdeithasol a newid hinsawdd.

“Bu trafodaethau yn canolbwyntio ar uchelgeisiau strategol ac ymarferol i fwrw ati â’r gwaith ar unwaith ac yn y tymor hirach. Mae llawer i’w wneud, ond rydyn ni’n rhannu’r  un arddeliad ac ymroddiad glir i weithio’n agos gyda’n gilydd i ddarparu’r newid go iawn sydd ei angen”

 

– DIWEDD –

Categorïau: Newyddion

  About

Mae Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru (WLGA) yn cynrychioli buddiannau byd llywodraeth leol ac yn hyrwyddo democratiaeth leol yng Nghymru.

  Cysylltwch â ni

Ffôn : 02920 468680
E-bost : enquiries@wlga.gov.uk
Oriau busnes : Llun - Iau 8:30 - 5:00, Gwen - 08:30 - 16:30