Mae Cyllid a Thollau EF (CThEF) yn annog contractwyr mewn ystod eang o swyddi ar draws llywodraeth leol i beidio â dioddef cam ar law hyrwyddwyr diegwyddor cynlluniau arbed treth.
Arbed treth yw pan fo pobl yn plygu rheolau’r system dreth i geisio talu llai o dreth nag y dylent. Ond, gall y rhai sy’n ymuno â chynlluniau arbed treth orfod talu’r dreth sy’n ddyledus yn y lle cyntaf – yn ogystal â llog a chosbau o bosibl. Mae hynny ar ben y ffioedd y maent eisoes wedi’u talu i ymuno â’r cynllun.
Mae CThEF am atal pobl rhag cael eu denu gan gynlluniau o’r fath, yn ogystal â’u helpu i adael cynlluniau arbed treth os ydynt yn credu eu bod wedi’u dal mewn un. Mae CThEF yn gweithio gydag amrediad eang o sefydliadau er mwyn rhoi’r adnoddau sydd eu hangen arnynt, i addysgu’r contractwyr sy’n gweithio iddynt am y risgiau o ddefnyddio cynlluniau arbed treth.
Mae pawb yn gyfrifol o dan gyfraith y DU am dalu’r swm cywir o dreth. Mae hyn yn dal i fod yn berthnasol pan fo’r contractwr wedi penodi rhywun arall i ddelio â’i faterion treth neu wedi cael cyngor gwael – yr unigolyn sy’n gyfrifol yn y pen draw ac sy’n wynebu’r risg.
Gall aelodau o’r Gymdeithas Llywodraeth Leol (LGA) sy’n ymwneud â recriwtio gweithwyr asiantaeth a gweithwyr dros dro helpu’r gweithwyr hyn i ddeall y risgiau a’r canlyniadau sydd ynghlwm wrth ddefnyddio cynlluniau arbed treth. Bydd yr wybodaeth yn yr erthygl hon yn helpu gweithwyr i sylwi ar yr arwyddion o arbed treth.
Dyma rai pethau i weithwyr fod yn wyliadwrus ohonynt:
- Unrhyw gynllun sy’n caniatáu i chi gadw mwy o’ch incwm nag y byddech yn ei ddisgwyl, gydag ychydig neu ddim didyniadau o gwbl ar gyfer Treth Incwm a chyfraniadau Yswiriant Gwladol (CYG)
- Dywedir bod rhai o’r taliadau a gewch, neu bob un ohonynt, yn “anhrethadwy”. Gellid disgrifio’r rhain fel benthyciadau, blwydd-daliadau, bonysau neu gyfranddaliadau. Nid yw’r taliadau hyn yn wahanol i incwm arferol, ac mae angen i chi dalu Treth Incwm a CYG arnynt o hyd
- Cynlluniau y dywedir wrthych eu bod yn ddiogel ac yn cydymffurfio neu wedi’u cymeradwyo gan CThEF. Nid yw hyn yn wir – nid yw CThEF byth yn cymeradwyo cynlluniau arbed treth
- Dim ond rhan o gyfanswm y taliadau a gewch y gellir ei threthu fel incwm. Os ydych yn gyflogedig, swm sy’n cyfateb i’r isafswm cyflog cenedlaethol yw hyn fel arfer
- Cael cynnig dewis rhwng cynllun cyflog safonol neu gynllun cyflog “uwch”. Mae’r fersiwn uwch yn debygol o fod yn gynllun arbed treth
- Cael cais i lofnodi mwy nag un contract neu gytundeb
- Contract cyflogaeth neu gytundeb nad yw’n nodi sut y telir eich incwm, nac yn rhoi dadansoddiad i chi o’ch holl ddidyniadau
- Cael cynnig ‘bonws arian parod’ os byddwch yn argymell y cynllun i ffrind
Mae CThEF yn annog contractwyr, gweithwyr asiantaeth neu’r rhai sy’n gweithio drwy gwmni ambarél i wirio sut maent yn cael eu talu i wneud yn siŵr nad ydynt yn cael eu dal wrthi. Gallant ddefnyddio’r gwiriwr risg rhyngweithiol i wirio a allai arbed treth fod yn rhan o’u contract presennol.
Dywedodd Mary Aiston, Cyfarwyddwr Gwrth-Arbed CThEF: “Does dim angen i chi fod yn arbenigwr treth i sylwi ar gynllun arbed treth. Os byddwch chi’n cael cynnig cyflog clir uwch am ad-drefnu sut mae’n eich cyrraedd, er enghraifft fel benthyciad nad yw’n ad-daladwy neu fel taliad ymddiriedolaeth, mae bron yn sicr yn gynllun arbed treth, felly peidiwch â chymryd rhan.
“Rydym yma i helpu ac os ydych chi’n credu eich bod wedi ymuno â’r fath gynllun, mae’n hanfodol eich bod yn ei adael cyn gynted ag y gallwch. Y cynharaf y byddwch yn ei adael, y cyntaf y gallwch dalu’r dreth sydd arnoch a lleihau’ch risg o gael biliau treth uwch.”
Ers mis Ebrill 2022, mae CThEF wedi defnyddio pwerau newydd i enwi hyrwyddwyr cynlluniau arbed treth yn gyhoeddus er mwyn helpu cwsmeriaid i gadw’n glir o’r cynlluniau y maent yn eu hyrwyddo nawr ac unrhyw rai y gallent eu hyrwyddo yn y dyfodol.
Erbyn diwedd mis Chwefror 2023, mae cyfanswm o 26 o hyrwyddwyr, sy’n ymwneud â hyrwyddo cynlluniau arbed treth, wedi cael eu henwi. Nid yw’r rhestr gyhoeddedig yn rhestr gyflawn o’r holl gynlluniau arbed treth sy’n cael eu marchnata ar hyn o bryd, nac ychwaith yn rhestr gyflawn o’r holl hyrwyddwyr, galluogwyr a chyflenwyr. Os na ddangosir cynllun arbed treth ar y rhestr, nid yw hyn yn golygu bod y cynllun yn gweithio na’i fod wedi’i gymeradwyo gan CThEF mewn unrhyw ffordd. Nid yw CThEF yn cymeradwyo cynlluniau arbed treth i’w defnyddio.
Mae cyfres ‘Spotlight’ CThEF, a gyhoeddir ar GOV.UK, yn rhoi gwybodaeth am gynlluniau arbed treth y mae CThEF yn credu eu bod yn cael eu defnyddio i osgoi talu treth sy’n ddyledus.
Mae ‘Spotlight 60’ a gyhoeddwyd ym mis Awst 2022 yn rhybuddio’n benodol am gwmnïau ambarél nad ydynt yn cydymffurfio, a beth i fod yn wyliadwrus ohono.
I gael rhagor o wybodaeth a yr ymgyrch ‘Arbed Treth – Peidiwch â Chael eich Dal Wrthi’, ewch i’r dudalen hon.
Os daw aelodau o’r LGA yn ymwybodol o gynllun arbed treth, neu o asiantaeth neu gwmni ambarél nad yw’n dilyn y rheolau treth, dylent gymryd camau i adrodd hyn wrth CThEF.