Arweinwyr cyngor yng Nghymru yn galw ar lywodraethau Cymru a’r DU i “symud mynyddoedd” i helpu cymunedau wedi colli llu o swyddi yn y gogledd ddwyrain

Dydd Mawrth, 07 Gorffennaf 2020

Mae arweinwyr y 22 cyngor yng Nghymru wedi galw ar lywodraethau Cymru a’r DU i weithio ar y cyd ar becyn o gefnogaeth i ddod i’r adwy i’r rhai hynny sydd wedi eu heffeithio gan golli swyddi enbyd yn Sir Y Fflint.

Cyhoeddwyd y bydd 1,727 o swyddi cyn cael eu torri gan gwmni Airbus ar draws eu holl weithrediadau yn y DU, gyda llawer o bobl a theuluoedd yn wynebu’r posibilrwydd trasig o golli swyddi a bywoliaethau o safon yn ffatri fwyaf y cwmni ym Mrychdyn ar Lannau Dyfrdwy.

 

Dywedodd y Cynghorydd Rob Stewart (Abertawe), Llefarydd CLlLC dros yr Economi:

“Ers amser maith, mae Airbus wedi bod yn un o’n cyflogwyr mwyaf blaenllaw gyda miloedd o bobl wedi sicrhau swyddi o ansawdd gyda’r cwmni. Bydd colli’r swyddi ar y fath raddfa yn ergyd drom i’r economi leol yng ngogledd Cymru, ac i’r economi ehangach yng Nghymru mewn cyfnod pan mae cyn gymaint o bobl eisoes yn wynebu caledi difrifol o ganlyniad i’r argyfwng sydd ohoni.

“Fel arweinwyr pob un o’r 22 cyngor yng Nghymru, rydyn ni’n galw ar Brif Weinidog Cymru a Phrif Weinidog y DU i symud mynyddoedd i weithio a’i gilydd i helpu’r rhanbarth a’r rhai hynny sydd wedi eu heffeithio gan y colledion swyddi difrifol.”

 

Dywedodd y Cynghorydd Ian Roberts, Arweinydd Cyngor Sir y Fflint:

“Mae llawer o bobl ar draws Sir y Fflint, gogledd Cymru a gogledd orllewin Lloegr wedi eu hysgwyd gan y newyddion am golli cyn gymaint o swyddi yn y ffatri Airbus ym Mrychdyn. Ni ellir gor-ddweud pa mor drom fydd yr ergyd yn cael ei theimlo yn yr economi leol, i weithwyr presennol ac i’r llu o bobl ifanc oedd wedi gobeithio cychwyn ar eu gyrfa yn lleol yn y ffatri.

“Dwi’n ddiolchgar i fy holl gyd arweinwyr cyngor yng Nghymru am ymuno â fi yn galw am ymateb ar y cyd ar fyrder gan y ddwy lywodraeth i helpu’r gweithwyr yma a’r diwydiant awyr yn Sir y Fflint. Mae ei angen yn ddybryd i helpu i achub swyddi, bywoliaethau a ffyniant yr holl ranbarth.”

 

-DIWEDD-

  About

Mae Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru (WLGA) yn cynrychioli buddiannau byd llywodraeth leol ac yn hyrwyddo democratiaeth leol yng Nghymru.

  Cysylltwch â ni

Ffôn : 02920 468680
E-bost : enquiries@wlga.gov.uk
Oriau busnes : Llun - Iau 8:30 - 5:00, Gwen - 08:30 - 16:30