Cynghorau'n croesawu pecyn cymorth Llywodraeth Cymru ar bwysau ariannol Covid-19

Dydd Llun, 17 Awst 2020

Mae CLlLC wedi croesawu’r pecyn cefnogaeth £260m ychwanegol a gyhoeddwyd gan Lywodraeth Cymru heddiw, ar gyfer cyllid llywodraeth leol ychwanegol i dalu’r costau a’r pwysau ychwanegol yn sgil yr ymateb i COVID 19. 

 

Mae CLlLC, gan weithio gydag awdurdodau, wedi bod yn cymryd rhan mewn trafodaethau manwl gyda Gweinidogion ac wedi darparu tystiolaeth o bwysau cyllid sylweddol a achoswyd gan yr incwm a gollwyd a’r costau ychwanegol wrth ymateb i'r pandemig.  Y cyhoeddiad hwn yw anterth ymgysylltiad adeiladol helaeth â Llywodraeth Cymru, yn enwedig gyda'r Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol, Julie James AS, y mae'r 22 arweinydd wedi bod yn cyfarfod â hi yn wythnosol drwy gydol y pandemig. Ers dyfodiad y pandemig, mae cynghorau wedi bod yn gweithio’n ddiflino i ddiogelu’r rhai mwyaf diamddiffyn yn ein cymunedau, i gefnogi economïau lleol ac i gynnal gwasanaethau eraill fel gwastraff ac ailgylchu i barhau mor normal â phosibl.

 

Meddai Arweinydd CLlLC, Y Cynghorydd Andrew Morgan:

 

“Croesewir cyhoeddiad Llywodraeth Cymru heddiw ac mae’n darparu sicrwydd ariannol mawr ei angen ar gyfer cynghorau am weddill y flwyddyn ariannol. Mae'r pecyn a gyhoeddwyd heddiw yn dod â chyfanswm y cyllid i bron i £0.5bn ar gyfer y flwyddyn ariannol hon.  Er na all unrhyw un ddyfalu llwybr Covid-19 yn y dyfodol, mae'r warant hon yn gyfraniad sylweddol yn erbyn y frwydr barhaus yn erbyn y feirws ac mae'n darparu bwlwarc yn erbyn ton arall yn ystod y misoedd nesaf."

 

“Mae angen cyllid ychwanegol ar awdurdodau lleol i baratoi ar gyfer ysgolion yn dychwelyd ac i gadw pobl yn ddiogel mewn cartrefi gofal.  Heb y cyllid hwn, byddai'n rhaid i gynghorau gymryd camau i ragweld diffygion cyllido yn y dyfodol. Mae'r pecyn hwn yn golygu y gall gwasanaethau lleol hanfodol barhau i gefnogi ein cymunedau drwy'r argyfwng hwn a chyfrannu at yr adferiad cenedlaethol.”

 

Meddai Llefarydd Cyllid ac Adnoddau CLlLC, y Cynghorydd Anthony Hunt:

 

“Drwy’r argyfwng hwn, rydym wedi gweithio’n agos gyda Llywodraeth Cymru ac rwyf am ddiolch i’r Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol a’r Gweinidog Cyllid am eu cefnogaeth ddiflino ar gyfer gwasanaethau llywodraeth leol a’n gweithlu.”

 

“Mae’r cyhoeddiad heddiw gan Lywodraeth Cymru yn dangos ymrwymiad cadarn i ddeall y pwysau ariannol rydyn ni’n eu hwynebu ac edrychaf ymlaen at weithio yn yr hydref gyda Llywodraeth Cymru ar ein cyllidebau a chyllid ar gyfer y flwyddyn ariannol nesaf.”

 

Bydd CLlLC yn cyfarfod â'r Gweinidog Cyllid a’r Trefnydd a'r Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol yn ddiweddarach yr wythnos hon drwy'r Is-Grŵp Cyllid, lle bydd mwy o fanylion am y cyllid a'r broses ar gyfer hawlio yn cael eu trafod. Mae pob awdurdod lleol wedi wynebu pwysau cynyddol o ran costau a galw o ganlyniad, ac ar yr un pryd wedi profi gostyngiad sylweddol mewn incwm. Er y cyhoeddwyd rhywfaint o gyllid ar gyfer pwysau a cholli incwm yn gynharach yn y flwyddyn, bydd y pecyn cyllido ychwanegol hwn yn dod â sicrwydd mawr ei angen i gynghorau wrth gynllunio ar gyfer gweddill y flwyddyn ariannol.  Bydd yn help mawr i gryfhau cynaliadwyedd ariannol cyllid llywodraeth leol.

 

-DIWEDD-

  About

Mae Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru (WLGA) yn cynrychioli buddiannau byd llywodraeth leol ac yn hyrwyddo democratiaeth leol yng Nghymru.

  Cysylltwch â ni

Ffôn : 02920 468680
E-bost : enquiries@wlga.gov.uk
Oriau busnes : Llun - Iau 8:30 - 5:00, Gwen - 08:30 - 16:30