Dyddiad Cau: Dydd Sul 8 Mehefin 2025
Dyddiad Cyfweliad: Dydd Iau 3 Gorffennaf 2025
Cyflog: Gradd 3 (SCP 25 – 29) £35,235.00 - £38,626.00
Tymor: Cyfnod Penodol tan 31/03/2026 – 28 Awr (estyniad posibl yn dibynnu ar gyllid)
Swydd o dan gyfyngiadau gwleidyddol: Ydi
Cymraeg yn hanfodol: Dymunol yn unig ar gyfer y rôl hon.
Ynglŷn â’r Swydd
Ariennir Partneriaethau Ymfudo Strategol gan y Swyddfa Gartref a’r Adran Ffyniant Bro, Tai a Chymunedau, i gydlynu a chefnogi darpariaeth rhaglenni sy’n seiliedig ar ddiogelu Llywodraeth y DU, yn ogystal â’r blaenoriaethau ymfudo datganoledig y cytunwyd arnynt. Mae Partneriaethau Ymfudo Strategol yn gweithio â budd-ddeiliaid mewn sectorau statudol, gwirfoddol, preifat a chymunedol i ddarparu arweinyddiaeth strategol a swyddogaeth gynghorol a chydlynol yn ymwneud ag ymfudo yn eu rhanbarthau a’u cenhedloedd. Partneriaeth Mewnfudo Strategol Cymru sy’n ymgymryd â’r rôl hon yng Nghymru a chaiff ei chynnal gan Gymdeithas Llywodraeth Leol Cymru.
Adeiladu pontydd rhwng Partneriaeth Mewnfudo Strategol Cymru, pobl o Hong Kong yng Nghymru, cymunedau sy’n cynnal a darparwyr gwasanaeth.
Cefnogi sefydlu a darparu canolbwyntiau cymunedol i bobl o Hong Kong a gweithgareddau cysylltiedig gyda phresenoldeb mewn digwyddiadau a/neu gyngor a chanllawiau.
Cefnogi Arweinydd Dinasyddion Prydeinig Tramor Hong Kong i fynd i’r afael â’r materion allweddol a nodir yn arolwg Partneriaeth Ymfudo Strategol Cymru / Prifysgol Caerdydd ac adroddiadau ymchwil eraill ar bobl o Hong Kong yng Nghymru/y DU drwy ymgysylltiad a chyfathrebu effeithiol parhaus gyda phobl o Hong Kong.
Gwnewch gais Rŵan!
I gael sgwrs gychwynnol ynglŷn â’r swydd a’r sefydliad, cysylltwch â Anne Hubbard, Rheolwr WSMP ar 07787 125628
I wneud cais, anfonwch lffurflen gais wedi'i chwblhau erbyn y dyddiad cau, Dydd Sul 8 Mehefin 2025 i: recruitment@wlga.gov.uk
Gwahoddir ymgeiswyr ar y rhestr fer i gyfweld panel wyneb i wyneb ar Dydd Iau 3 Gorffennaf 2025.
Bydd gofyn i ymgeiswyr ar y rhestr fer gwblhau tasg cyn cyfweliad ar y diwrnod, wedi’i ddilyn gan gyfweliad gyda phanel dethol.
Bydd yn ofynnol i'r ymgeisydd llwyddiannus ddarparu tystiolaeth o hunaniaeth a chymhwysedd i weithio yn y DU.