Rhan i bob partner ei chwarae i sicrhau cynaliadwyedd cyllidebol y sector gofal, meddai CLlLC

Dydd Llun, 22 Mehefin 2020

Mae angen i bartneriaid dynnu ynghyd i helpu i sicrhau cynaliadwyedd ariannol y sector gofal cymdeithasol, yn ôl arweinwyr cyngor yng Nghymru.

Mae galw eithriadol a chostau ychwanegol dros nifer o flynyddoedd wedi rhoi gwasanaethau gofal cymdeithasol o dan straen aruthrol. Gellir gweld effaith y pwyseddau hynny’n glir yn ystod yr argyfwng coronafeirws ar hyn o bryd, wrth i wasanethau weld hyd yn oed mwy o alw a chostau ychwanegol.

 

Dywedodd y Cynghorydd Huw David (Penybont ar Ogwr), Llefarydd CLlLC dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol:

“Does dim amheuaeth fod gwasanaethau gofal cymdeithasol wedi, ac yn mynd i barhau i wynebu heriau aruthrol dros y blynyddoedd i ddod gyda mwy o alw a disgwyliadau’n codi. Mae cynghorau wedi galw yn gyson am yr angen i sicrhau cynaliadwyedd ariannol ein gwasanaethau gofal cymdeithasol hollbwysig. Rydyn ni’n cydnabod bod sialensau ar draws y system, a dyna pam fod galwadau cynghorau wedi bod ar gyfer y sector yn ei chyfanrwydd, gan gynnwys y sector breifat sydd yn darparu gwasanaethau wedi eu comisiynnu ar ran awdurdodau lleol. Dim ond trwy weithio’n adeiladol gyda’n gilydd, yn hytrach na trwy chwarae un yn erbyn y llall, y gallwn ni sicrhau bod pawb sydd yn darparu gwasanaethau pwysig yn cael eu cefnogi a’u hamddiffyn yn yr un ffordd.”

“Rydyn ni i gyd yn gwybod pa ma mor fregus yw’r sector gofal. Tra mae’r cynni ariannol wedi ac yn parhau i gael effaith sylweddol, rydyn ni hefyd angen ystyried y ffordd y mae’r system yn gweithio. Dengys ymchwil yr elw sylweddol y mae rhai gweithredwyr cartrefi gofal yn ei wneud ar draws y DU, gyda cannoedd o filiynau o bynnau yn mynd i fuddsoddwyr alltraeth. Mae sawl un o’r cwmnïau sy’n darparu’r rhan fwyaf o’r 465,000 o welyau gofal cartref yn y DU unai yn eiddo i neu wedi’i cefnogi gan gronfeydd cyfyngedig, tra bod rhai o’r rhai mwyaf wedi’i lleoli mewn hafannau treth mewn gwledydd eraill. Mae’r wybodaeth ariannol sy’n perthyn i rhai o’r cwmnïau cadwyn dros elw wedi diflannu o’r golwg bron yn gyfangwbl. Gwneir hyn yn amhosib i gadw cyfrif o ble mae arian cyhoeddus yn mynd.”

“Mae angen edrych ar sut mae’r sector cartrefi gofal wedi’i strwythuro i sicrhau tryloywder dros broffidioldeb a chostau, ac i fynd i’r afael â’r breuder yn y sector ble bo angen. Bydd cynghorau yn parhau i alw ar Lywodraeth Cymru am fwy o gyllid cynaliadwy ar gyfer gofal cymdeithasol, i gwrdd â galw cynyddol am wasanaethau ac i sicrhau bod y gweithlu yn cael eu talu yn decach, gan weithio gyda’r holl bartneriaid i ddarparu’r gorau ar gyfer trigolion yn ein gofal.”

 

-DIWEDD-

 

 

  About

Mae Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru (WLGA) yn cynrychioli buddiannau byd llywodraeth leol ac yn hyrwyddo democratiaeth leol yng Nghymru.

  Cysylltwch â ni

Ffôn : 02920 468680
E-bost : enquiries@wlga.gov.uk
Oriau busnes : Llun - Iau 8:30 - 5:00, Gwen - 08:30 - 16:30