Posts in Category: COVID-19 (Pobl mewn Perygl - Gweithlu)

Gwasanaeth Cymorth Cymunedol Conwy (CBS Conwy) 

Sefydlodd Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy linell gymorth y Gwasanaeth Cymorth Cymunedol (GCC) ym mis Mawrth 2020, a'i bwrpas oedd darparu cymorth i unrhyw un yn y gymuned nad oedd yn gallu galw ar ffrindiau, teulu neu gymdogion i ofyn am help i wneud siopa, danfon meddyginiaeth ac ati. Darparwyd cymorth i ddechrau trwy baru gwirfoddolwyr ac yna fe symudon ni ymlaen i ddefnyddio staff a adleoliwyd dros dro o wasanaethau eraill yn y cyngor. Anogwyd gwirfoddolwyr i gofrestru gyda Chymorth Cymunedol a Gwirfoddol Conwy (CVSC) i gael eu paru â sefydliadau lleol. Mae gan CBS Conwy gytundeb â nifer o siopau lleol a’r ddwy siop Tesco yn y sir i gymryd taliad dros y ffôn gan unigolion sy'n defnyddio'r GCC ar gyfer ceisiadau siopa. Pan fydd Staff Conwy wrth y til, mae'r siop yn ffonio'r cwsmer sydd wedyn yn talu am ei siopa dros y ffôn. Mae yna broses mewn lle hefyd i gynorthwyo os nad oes gan unigolion fodd i dalu gyda cherdyn dros y ffôn. Mae'r gwasanaeth GCC wedi'i ostwng yn unol â llacio’r rheolau clo ac mae nifer y ceisiadau a dderbyniwn yn lleihau. Mae pob meddygfa a fferyllfa wedi cael gwybod ac wedi cael eu hannog i gofrestru gyda'r Groes Goch os oes angen cymorth arnynt i ddosbarthu presgripsiynau.

Gwasanaeth Ymateb Lleol i gefnogi Pobl Agored i Niwed (CBS Blaenau Gwent) 

Fe greodd Cyngor Bwrdeistref Sirol Blaenau Gwent Wasanaeth Ymateb Lleol yn cynnwys staff a adleolwyd i gefnogi'r galw cynyddol am gefnogaeth anstatudol yn ymwneud â chyfyngiadau COVID-19 pan oedd y pandemig yn ei anterth ac i ddiogelu gofal cymdeithasol rheng flaen. Fe weithiodd y gwasanaeth hwn yn agos gyda'r Trydydd sector i ddarparu cefnogaeth barhaus i breswylwyr drwy'r cyfnod hwn. Mae preswylwyr wedi eu cefnogi gyda cheisiadau grant, banciau bwyd, atgyfeiriadau parhaus am gefnogaeth arbenigol fel gydag iechyd meddwl, Cymorth Alcohol a Chyffuriau Gwent, gwasanaethau cefnogi pobl a’r gwasanaethau cymdeithasol os oedd angen. Ar ddechrau’r cyfnod clo a thrwy’r haf fe fu'r cyngor yn ymdrin â thros 1000 o geisiadau am gymorth gyda siopa, casglu presgripsiynau a gweithgareddau cyfeillio eraill. Wrth i’r cyfyngiadau lacio ac wrth i bobl roi’r gorau i warchod eu hunain am y tro, edrychodd y cyngor ar yr opsiynau a ran lleihau’r gwasanaeth. Cysylltodd y tîm yn uniongyrchol gyda'r holl achosion agored i sicrhau y gallant drosglwyddo i drefniant mwy cynaliadwy o ran cefnogaeth.

Prosiect Diogel ac Iach i gefnogi preswylwyr diamddiffyn (C Castell-nedd Port Talbot) 

Cafodd Gwasanaeth Diogel ac Iach Cyngor Castell-nedd Port Talbot ei sefydlu ar ddechrau cyfnod y coronafeirws i gefnogi preswylwyr a oedd yn gwarchod eu hunain ac nad oedd ganddynt neb i’w ffonio am gymorth gyda thasgau dyddiol fel siopa a chasglu meddyginiaethau.

Cafodd grwpiau eraill o bobl a oedd angen cefnogaeth eu nodi gan aelodau a swyddogion hefyd, gan gynnwys pobl oedd angen hunan ynysu ac nad oeddent yn derbyn unrhyw gefnogaeth, gofalwyr ifanc, rhieni plant oedd yn gymwys am brydau ysgol am ddim nad oeddent yn gallu derbyn taliadau BACS, a gofalwyr pobl oedd yn gwarchod eu hunain ac yn hunan ynysu.

Derbyniodd tua 1,300 o bobl gefnogaeth gan y gwasanaeth rhwng diwedd Mawrth 2020 a diwedd Mehefin 2020.

Sefydlwyd canolfan fwyd lle roedd staff o nifer o wahanol adrannau’n cydweithio i gael bwyd, sicrhau ei fod yn cael ei storio’n ddiogel, ymdrin a dosbarthu, gwneud y gwaith dosbarthu, cadw cofnodion da, paratoi bwydlenni iach oedd yn darparu ar gyfer gofynion deietegol penodol, a sicrhau darpariaeth bwyd brys pan oedd amgylchiadau’n gofyn am hynny. Cafodd y trefniadau hyn eu nodi gan Lywodraeth Cymru fel enghraifft o arfer da.

Fe wirfoddolodd tua 100 o weithwyr yn eu hamser eu hunain a chofrestrodd tua 450 o breswylwyr i fynegi diddordeb mewn gwirfoddoli gyda’r gwasanaeth. Cafodd gwirfoddolwyr eu hyfforddi ac yna aethant ati i weithio gyda chynghorwyr lleol i gefnogi'r gymuned leol. Fe fydd Cydlynydd Gwirfoddolwyr yn cael ei recriwtio er mwyn cefnogi'r prosiect a’i weithgarwch ac mae strategaeth yn cael ei datblygu gyda mewnbwn gan gynghorwyr a sefydliadau cymunedol i sefydlu’r hyn fydd ei angen yn y ‘normal newydd'.

  About

Mae Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru (WLGA) yn cynrychioli buddiannau byd llywodraeth leol ac yn hyrwyddo democratiaeth leol yng Nghymru.

  Cysylltwch â ni

Ffôn : 02920 468680
E-bost : ymholiadau@wlga.gov.uk
Oriau busnes : Llun - Iau 8:30 - 5:00, Gwen - 08:30 - 16:30