Sefydlodd Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy linell gymorth y Gwasanaeth Cymorth Cymunedol (GCC) ym mis Mawrth 2020, a'i bwrpas oedd darparu cymorth i unrhyw un yn y gymuned nad oedd yn gallu galw ar ffrindiau, teulu neu gymdogion i ofyn am help i wneud siopa, danfon meddyginiaeth ac ati. Darparwyd cymorth i ddechrau trwy baru gwirfoddolwyr ac yna fe symudon ni ymlaen i ddefnyddio staff a adleoliwyd dros dro o wasanaethau eraill yn y cyngor. Anogwyd gwirfoddolwyr i gofrestru gyda Chymorth Cymunedol a Gwirfoddol Conwy (CVSC) i gael eu paru â sefydliadau lleol. Mae gan CBS Conwy gytundeb â nifer o siopau lleol a’r ddwy siop Tesco yn y sir i gymryd taliad dros y ffôn gan unigolion sy'n defnyddio'r GCC ar gyfer ceisiadau siopa. Pan fydd Staff Conwy wrth y til, mae'r siop yn ffonio'r cwsmer sydd wedyn yn talu am ei siopa dros y ffôn. Mae yna broses mewn lle hefyd i gynorthwyo os nad oes gan unigolion fodd i dalu gyda cherdyn dros y ffôn. Mae'r gwasanaeth GCC wedi'i ostwng yn unol â llacio’r rheolau clo ac mae nifer y ceisiadau a dderbyniwn yn lleihau. Mae pob meddygfa a fferyllfa wedi cael gwybod ac wedi cael eu hannog i gofrestru gyda'r Groes Goch os oes angen cymorth arnynt i ddosbarthu presgripsiynau.