Posts in Category: COVID-19 (Pobl mewn Perygl - Partneriaeth)

Cysylltu Cymunedau (CBS Pen-y-Bont ar Ogwr) 

Mae rhaglen Cysylltu Cymunedau Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-Bont ar Ogwr wedi cynyddu’r gefnogaeth y mae’n ei ddarparu i bobl a chymunedau yn ystod pandemig Covid-19. Mae Cymdeithas Sefydliadau Gwirfoddol Pen-y-Bont ar Ogwr (BAVO) gan weithio gyda’r Cyfeirwyr Cymunedol yn cefnogi amrywiaeth o anghenion cymunedol. Mae’r prif lefelau o gefnogaeth yn cynnwys: cyflenwi presgripsiwn, gwasanaethau siopa, cefnogaeth banc bwyd yn cynnwys talebau banc bwyd a danfon parseli bwyd i’r rhai sydd eu hangen fwyaf, ynghyd ag addysgu pobl am ddarpariaeth bwyd fforddiadwy eraill megis Pantris Bwyd, gwiriadau lles a chyfeillio dros y ffôn. Mae rhaglen Cymdeithas Sefydliadau Gwirfoddol Pen-y-Bont ar Ogwr a Chysylltu Cymunedau yn gweithio gyda sefydliadau allanol a gwasanaethau cynnal er mwyn sicrhau bod y bobl mwyaf diamddiffyn yn cael mynediad at y gefnogaeth maent eu hangen. Mae yna restr partneriaid o 77 sefydliad sydd wedi cefnogi Cysylltu Cymunedau, ac mewn cyfres o wiriadau effaith ynglŷn â chefnogaeth Cysylltu Cymunedau i 214 o unigolion, roedd 99% yn hapus gyda’r gefnogaeth, yr atgyfeirio a’r wybodaeth a chyngor y mae’r cyfeirwyr wedi’i ddarparu.

Gwasanaeth Cydlyniant Cymunedol Rhanbarthol ar gyfer Gogledd Ddwyrain Cymru (CBS Wrecsam, CS Ddinbych a CS Y Fflint)  

Mae cynghorau WrecsamSir Ddinbych a Sir Y Fflint wedi gweithio mewn partneriaeth i ddarparu Gwasanaeth Cydlyniant Cymunedol Rhanbarthol i Ogledd Ddwyrain Cymru. Mae’r gwasanaeth yn cefnogi oddeutu 40 o grwpiau cymunedol a sefydliadau trydydd sector sydd yn eu tro yn cynnig cefnogaeth weithgar i gymunedau lleiafrifol. 

Ers Mawrth 2020, mae’r Cydlyniant Cymunedol Rhanbarthol wedi parhau i gefnogi cymunedau ond fel gyda’r rhan fwyaf o wasanaethau mae’r ffocws wedi mynd i’r afael â’r heriau sy’n ein hwynebu yn sgil COVID19.  Mae cyfanswm o tua £20,000 wedi cael ei wobrwyo mewn grantiau i gefnogi cynlluniau penodol fel: 

  • darparu parseli bwyd, cyfarpar diogelu personol a chefnogaeth ar-lein;  

  • pecynnau gwybodaeth wedi’u cyfieithu; 

  • gweithgareddau cadw pellter cymdeithasol yn ystod gwyliau’r haf;  

  • cefnogaeth mewn perthynas â thrais domestig a chamddefnyddio sylweddau yn ystod Covid-19; 

  • cyfleoedd gwirfoddoli ac ymrwymo’r gymuned ar ôl Covid-19; a 

  • chefnogi’r Gymuned Teithwyr lleol yn ystod Covid-19 gyda chefnogaeth addysg o bell.  

Dydi Cydlyniant Cymunedol Rhanbarthol ddim yn gorffwys ar ei bri. Mae’n sefyll ar banel cronfeydd argyfwng Covid-19 Cyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru ac yn gweithio gyda CMGW a phartneriaid allweddol i adnabod a sicrhau cronfeydd mawr a mwy cynaliadwy i gefnogi cymunedau lleiafrifol ac unigolion gyda nodweddion rhagamcanol. 

Lansio’r Cerdyn Gofalwyr (CS Ceredigion)  

 Mae Cyngor Sir Ceredigion wedi lansio Cerdyn Gofalwr i ofalwyr di-dâl sy’n gofalu am aelodau o’r teulu neu ffrindiau, na fyddai’n gallu ymdopi ar eu pennau eu hunain heb gymorth na’r gofal y mae gofalwyr di-dâl yn eu darparu. 

Mae’r Cerdyn Gofalwr yn gerdyn adnabod a llun, a gyhoeddir gan Uned Gofalwyr Cyngor Sir Ceredigion, i ofalwyr sy’n 18 oed a hyn ac sydd wedi cofrestru gyda Gwasanaeth Gwybodaeth i Ofalwyr y cyngor.  

Mae’r cerdyn wedi cael ei ddatblygu mewn ymateb i bandemig Covid-19. Yn ystod misoedd cyntaf y pandemig, cysylltodd nifer o ofalwyr a’r cyngor i ofyn am rywbeth y gallent ei ddefnyddio i brofi eu bod yn gofalu am unigolyn pe bai rhywun yn eu herio pan fyddent yn casglu neu’n cludo nwyddau hanfodol i’r unigolyn hwnnw. 

Bydd gan ddeiliaid y cardiau fynediad at gyfleoedd siopa wedi’u blaenoriaethu gyda masnachwyr sy’n rhan o’r cynllun. Mae rhestr o’r masnachwyr hynny, ynghyd a buddion eraill y cynllun, ar gael ar dudalen Cerdyn Gofalwyr y cyngor. 

Gwasanaeth Cymorth Cymunedol Conwy (CBS Conwy) 

Sefydlodd Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy linell gymorth y Gwasanaeth Cymorth Cymunedol (GCC) ym mis Mawrth 2020, a'i bwrpas oedd darparu cymorth i unrhyw un yn y gymuned nad oedd yn gallu galw ar ffrindiau, teulu neu gymdogion i ofyn am help i wneud siopa, danfon meddyginiaeth ac ati. Darparwyd cymorth i ddechrau trwy baru gwirfoddolwyr ac yna fe symudon ni ymlaen i ddefnyddio staff a adleoliwyd dros dro o wasanaethau eraill yn y cyngor. Anogwyd gwirfoddolwyr i gofrestru gyda Chymorth Cymunedol a Gwirfoddol Conwy (CVSC) i gael eu paru â sefydliadau lleol. Mae gan CBS Conwy gytundeb â nifer o siopau lleol a’r ddwy siop Tesco yn y sir i gymryd taliad dros y ffôn gan unigolion sy'n defnyddio'r GCC ar gyfer ceisiadau siopa. Pan fydd Staff Conwy wrth y til, mae'r siop yn ffonio'r cwsmer sydd wedyn yn talu am ei siopa dros y ffôn. Mae yna broses mewn lle hefyd i gynorthwyo os nad oes gan unigolion fodd i dalu gyda cherdyn dros y ffôn. Mae'r gwasanaeth GCC wedi'i ostwng yn unol â llacio’r rheolau clo ac mae nifer y ceisiadau a dderbyniwn yn lleihau. Mae pob meddygfa a fferyllfa wedi cael gwybod ac wedi cael eu hannog i gofrestru gyda'r Groes Goch os oes angen cymorth arnynt i ddosbarthu presgripsiynau.

Mynd i'r afael â Thlodi Bwyd trwy’r pandemig – Cyngor Abertawe 

Ar ddechrau’r pandemig daeth Cyngor Abertawe a’i bartneriaid yn y Sectorau Iechyd a Gwirfoddol at ei gilydd i ffurfio ymateb cydgysylltiedig. Un elfen o hynny oedd sefydlu gweithgor a oedd yn cynnwys swyddogion wedi’u hadleoli o’r Gwasanaethau Diwylliannol, Eiddo ac Atal, Cydlynu Ardal Leol a Chyngor Gwasanaethau Gwirfoddol Abertawe (SCVS). Dechreuodd y Cyngor ac SCVS fapio darpariaeth bwyd ledled y sir i sicrhau bod gwybodaeth ar gael i unrhyw unigolion mewn angen ynglŷn â ble i gael gafael ar fwyd addas. Darparwyd y wybodaeth ar wefan y Cyngor a hefyd trwy wasanaeth cyfeirio uniongyrchol SCVS, a oedd yn casglu gwybodaeth fesul ardal clwstwr meddygfa. Mae’r Cyngor wedi cefnogi’r banciau bwyd cymunedol, a reolir yn y Canolfannau Dosbarthu Bwyd, trwy gydol y pandemig trwy roi a phrynu nwyddau, ac mae SCVS wedi llwyddo i drefnu danfoniadau FareShare i nifer o fanciau bwyd annibynnol yn y Sir. Os oes angen bwyd neu hanfodion eraill ar frys, mae gan bob unigolyn gyswllt â'r rhwydwaith hwn a bydd 'pecyn argyfwng' yn cael ei ddanfon naill ai gan yr awdurdod lleol neu'r SCVS. Mae Swansea Together, partneriaeth rhwng sefydliadau o’r sectorau cyhoeddus, trydydd a phreifat sef SCVS, yr Awdurdod Lleol, Matthew’s House, Crisis, The Wallich, Zac’s Place a Mecca Bingo, wedi darparu miloedd o brydau bwyd i bobl ddiamddiffyn iawn yn ystod yr argyfwng. Mae’r bartneriaeth wedi cael cefnogaeth SCVS a’r Awdurdod Lleol gyda chyngor, cyhoeddusrwydd, cyflenwadau bwyd, gwirfoddolwyr a chludiant.

Gwasanaeth Ymateb Lleol i gefnogi Pobl Agored i Niwed (CBS Blaenau Gwent) 

Fe greodd Cyngor Bwrdeistref Sirol Blaenau Gwent Wasanaeth Ymateb Lleol yn cynnwys staff a adleolwyd i gefnogi'r galw cynyddol am gefnogaeth anstatudol yn ymwneud â chyfyngiadau COVID-19 pan oedd y pandemig yn ei anterth ac i ddiogelu gofal cymdeithasol rheng flaen. Fe weithiodd y gwasanaeth hwn yn agos gyda'r Trydydd sector i ddarparu cefnogaeth barhaus i breswylwyr drwy'r cyfnod hwn. Mae preswylwyr wedi eu cefnogi gyda cheisiadau grant, banciau bwyd, atgyfeiriadau parhaus am gefnogaeth arbenigol fel gydag iechyd meddwl, Cymorth Alcohol a Chyffuriau Gwent, gwasanaethau cefnogi pobl a’r gwasanaethau cymdeithasol os oedd angen. Ar ddechrau’r cyfnod clo a thrwy’r haf fe fu'r cyngor yn ymdrin â thros 1000 o geisiadau am gymorth gyda siopa, casglu presgripsiynau a gweithgareddau cyfeillio eraill. Wrth i’r cyfyngiadau lacio ac wrth i bobl roi’r gorau i warchod eu hunain am y tro, edrychodd y cyngor ar yr opsiynau a ran lleihau’r gwasanaeth. Cysylltodd y tîm yn uniongyrchol gyda'r holl achosion agored i sicrhau y gallant drosglwyddo i drefniant mwy cynaliadwy o ran cefnogaeth.

Theatr Clwyd yn parhau’n hanfodol ar gyfer y gymuned yn ystod y pandemig (CS y Fflint) 

Nid yw Theatr Clwyd yn Yr Wyddgrug, Sir y Fflint ,wedi llwyfannu sioe ers misoedd ond mae wedi parhau’n hanfodol ar gyfer ei chymuned yn ystod y pandemig.

Mae wedi bod y brif ganolfan ar gyfer rhoi gwaed yng Ngogledd Ddwyrain Cymru, gan gefnogi’r Gwasanaeth Iechyd i gynnal eu cyflenwadau gwaed.

Gan weithio gyda gwasanaethau cymdeithasol y cyngor, maent wedi helpu gyda dosbarthu cyflenwadau bwyd i deuluoedd mewn angen o fewn y sir. Maent hefyd wedi cynnal apêl ‘Bocs Enfys’ llwyddiannus, a oedd yn gofyn i aelodau o’r gymuned i roi bocsys o ddeunyddiau celf a chrefft ar gyfer pobl ifanc ddiamddiffyn. Cafodd dros 300 eu rhoi a’u dosbarthu.

Symudodd y theatr ei holl weithdai wythnosol arlein (o'r grwpiau dementia i’r sesiynau ieuenctid) ac mae wedi bod yn eu darparu i dros 200 o bobl bob wythnos.

Dros yr haf, fe ddaeth y theatr yn un o’r prif ganolfannau ar gyfer plant diamddiffyn ac anabl yn Sir y Fflint a hefyd roedd yn cynnig lleoedd i blant gweithwyr y Gwasanaeth Iechyd yng Ngogledd Cymru yn ystod gwyliau’r haf.

Mae'r theatr hefyd wedi cefnogi bachgen ifanc lleol, sydd wedi ei dderbyn i'r Ysgol Fale Frenhinol, ond y mae ei le wedi ei ohirio. Wedi i’w gynghorydd lleol gysylltu mae wedi bod yn hyfforddi ddwywaith yr wythnos ar y llwyfan.

Canolfannau Cymdogaeth yn cefnogi preswylwyr diamddiffyn yn ystod y cyfnod clo (C Casnewydd) 

Fe brofodd Canolfannau Cymdogaeth Casnewydd, pedair ohonynt i gyd, yn amhrisiadwy yn ystod y cyfnod clo gan gefnogi a chynorthwyo rhai o breswylwyr mwyaf diamddiffyn y ddinas.

Sefydlwyd rhif Rhadffôn i sicrhau fod gan breswylwyr fynediad hawdd at gefnogaeth ac mae timau’r canolfannau wedi dosbarthu dros 800 o barseli bwyd mewn argyfwng. Mae pecynnau gweithgaredd wedi eu darparu ar gyfer preswylwyr iau a hŷn, ac mewn cydweithrediad â chydweithwyr yn y maes Iechyd darparwyd bwndeli babi i rieni newydd sy'n ei chael yn anodd yn ystod y cyfnod clo.  

Mae staff y canolfannau hefyd wedi cysylltu â dros 5000 o breswylwyr oedd yn gwarchod eu hunain. Maent wedi darparu gwasanaeth gwirio yn ystod y galwadau hyn, gan gynnig cefnogaeth a gwneud atgyfeiriadau i asiantaethau partner pan fo angen. Mae cymorth cyffredinol gyda siopa, casglu presgripsiwn, creu cyfeillgarwch a cherdded cŵn wedi ei ddarparu gan atgyfeiriadau i Volunteering Matters Cymru.  

Mae grwpiau cymunedol eraill wedi bod yn awyddus i helpu preswylwyr diamddiffyn, gan gynnwys Cymdeithas Cymuned Yemeni Casnewydd, sydd wedi bod yn dosbarthu bwyd i breswylwyr oedd yn hunan ynysu ac Achub y Plant, sydd wedi darparu eitemau hanfodol i deuluoedd, gan gynnwys mynediad i adnoddau digidol. Nododd arolwg yng Nghasnewydd nad oedd gan dros 2,500 o blant fynediad i ddyfais ddigidol neu gysylltiad rhyngrwyd dibynadwy. O ganlyniad cafodd bron i 800 o ddyfeisiadau eu benthyg i ddisgyblion yn ogystal â 1261 o unedau i ddarparu cysylltiad rhyngrwyd 4G.

Prosiect Diogel ac Iach i gefnogi preswylwyr diamddiffyn (C Castell-nedd Port Talbot) 

Cafodd Gwasanaeth Diogel ac Iach Cyngor Castell-nedd Port Talbot ei sefydlu ar ddechrau cyfnod y coronafeirws i gefnogi preswylwyr a oedd yn gwarchod eu hunain ac nad oedd ganddynt neb i’w ffonio am gymorth gyda thasgau dyddiol fel siopa a chasglu meddyginiaethau.

Cafodd grwpiau eraill o bobl a oedd angen cefnogaeth eu nodi gan aelodau a swyddogion hefyd, gan gynnwys pobl oedd angen hunan ynysu ac nad oeddent yn derbyn unrhyw gefnogaeth, gofalwyr ifanc, rhieni plant oedd yn gymwys am brydau ysgol am ddim nad oeddent yn gallu derbyn taliadau BACS, a gofalwyr pobl oedd yn gwarchod eu hunain ac yn hunan ynysu.

Derbyniodd tua 1,300 o bobl gefnogaeth gan y gwasanaeth rhwng diwedd Mawrth 2020 a diwedd Mehefin 2020.

Sefydlwyd canolfan fwyd lle roedd staff o nifer o wahanol adrannau’n cydweithio i gael bwyd, sicrhau ei fod yn cael ei storio’n ddiogel, ymdrin a dosbarthu, gwneud y gwaith dosbarthu, cadw cofnodion da, paratoi bwydlenni iach oedd yn darparu ar gyfer gofynion deietegol penodol, a sicrhau darpariaeth bwyd brys pan oedd amgylchiadau’n gofyn am hynny. Cafodd y trefniadau hyn eu nodi gan Lywodraeth Cymru fel enghraifft o arfer da.

Fe wirfoddolodd tua 100 o weithwyr yn eu hamser eu hunain a chofrestrodd tua 450 o breswylwyr i fynegi diddordeb mewn gwirfoddoli gyda’r gwasanaeth. Cafodd gwirfoddolwyr eu hyfforddi ac yna aethant ati i weithio gyda chynghorwyr lleol i gefnogi'r gymuned leol. Fe fydd Cydlynydd Gwirfoddolwyr yn cael ei recriwtio er mwyn cefnogi'r prosiect a’i weithgarwch ac mae strategaeth yn cael ei datblygu gyda mewnbwn gan gynghorwyr a sefydliadau cymunedol i sefydlu’r hyn fydd ei angen yn y ‘normal newydd'.

  About

Mae Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru (WLGA) yn cynrychioli buddiannau byd llywodraeth leol ac yn hyrwyddo democratiaeth leol yng Nghymru.

  Cysylltwch â ni

Ffôn : 02920 468680
E-bost : ymholiadau@wlga.gov.uk
Oriau busnes : Llun - Iau 8:30 - 5:00, Gwen - 08:30 - 16:30