Ar ddechrau’r pandemig daeth Cyngor Abertawe a’i bartneriaid yn y Sectorau Iechyd a Gwirfoddol at ei gilydd i ffurfio ymateb cydgysylltiedig. Un elfen o hynny oedd sefydlu gweithgor a oedd yn cynnwys swyddogion wedi’u hadleoli o’r Gwasanaethau Diwylliannol, Eiddo ac Atal, Cydlynu Ardal Leol a Chyngor Gwasanaethau Gwirfoddol Abertawe (SCVS). Dechreuodd y Cyngor ac SCVS fapio darpariaeth bwyd ledled y sir i sicrhau bod gwybodaeth ar gael i unrhyw unigolion mewn angen ynglŷn â ble i gael gafael ar fwyd addas. Darparwyd y wybodaeth ar wefan y Cyngor a hefyd trwy wasanaeth cyfeirio uniongyrchol SCVS, a oedd yn casglu gwybodaeth fesul ardal clwstwr meddygfa. Mae’r Cyngor wedi cefnogi’r banciau bwyd cymunedol, a reolir yn y Canolfannau Dosbarthu Bwyd, trwy gydol y pandemig trwy roi a phrynu nwyddau, ac mae SCVS wedi llwyddo i drefnu danfoniadau FareShare i nifer o fanciau bwyd annibynnol yn y Sir. Os oes angen bwyd neu hanfodion eraill ar frys, mae gan bob unigolyn gyswllt â'r rhwydwaith hwn a bydd 'pecyn argyfwng' yn cael ei ddanfon naill ai gan yr awdurdod lleol neu'r SCVS. Mae Swansea Together, partneriaeth rhwng sefydliadau o’r sectorau cyhoeddus, trydydd a phreifat sef SCVS, yr Awdurdod Lleol, Matthew’s House, Crisis, The Wallich, Zac’s Place a Mecca Bingo, wedi darparu miloedd o brydau bwyd i bobl ddiamddiffyn iawn yn ystod yr argyfwng. Mae’r bartneriaeth wedi cael cefnogaeth SCVS a’r Awdurdod Lleol gyda chyngor, cyhoeddusrwydd, cyflenwadau bwyd, gwirfoddolwyr a chludiant.