Arfer Da gan y Cyngor

Well-Fed – o ddarparu prydau maethlon mewn cartrefi gofal i focys bwyd mewn argyfwng (CS Fflint)
Mae Well-fed yn bartneriaeth rhwng Cyngor Sir y Fflint, Clwyd Alyn a Can Cook – cwmni bwyd sy’n ymroi i fwydo pawb yn dda. Ers argyfwng Covid-19, mae Well-fed wedi addasu ei weithrediadau o gyflenwi prydau parod maethlon i gartrefi gofal i ymateb i’r galw anhygoel i ddarparu bwyd ar frys yn y sir. Ochr yn ochr â phrydau parod maethlon, mae’r Cyngor wedi bod yn cyflenwi bagiau popty araf a ‘Bocsys Diogelwch Well-fed’ oedd yn ychwanegiad i focsys Cysgodi Llywodraeth Cymru. Cafodd y blychau diogelwch ‘saith niwrnod’ eu darparu i’r bobl oedd yn cael eu hystyried yn ddiamddiffyn, yn cysgodi am resymau iechyd a’r rhai oedd angen cymorth â bwyd am resymau ariannol, ac yn cynnwys detholiad o brydau barod, prif fwydydd a nwyddau ymolchi.

Mynd i'r afael â Thlodi Bwyd trwy’r pandemig – Cyngor Abertawe
Ar ddechrau’r pandemig daeth Cyngor Abertawe a’i bartneriaid yn y Sectorau Iechyd a Gwirfoddol at ei gilydd i ffurfio ymateb cydgysylltiedig. Un elfen o hynny oedd sefydlu gweithgor a oedd yn cynnwys swyddogion wedi’u hadleoli o’r Gwasanaethau Diwylliannol, Eiddo ac Atal, Cydlynu Ardal Leol a Chyngor Gwasanaethau Gwirfoddol Abertawe (SCVS). Dechreuodd y Cyngor ac SCVS fapio darpariaeth bwyd ledled y sir i sicrhau bod gwybodaeth ar gael i unrhyw unigolion mewn angen ynglŷn â ble i gael gafael ar fwyd addas. Darparwyd y wybodaeth ar wefan y Cyngor a hefyd trwy wasanaeth cyfeirio uniongyrchol SCVS, a oedd yn casglu gwybodaeth fesul ardal clwstwr meddygfa. Mae’r Cyngor wedi cefnogi’r banciau bwyd cymunedol, a reolir yn y Canolfannau Dosbarthu Bwyd, trwy gydol y pandemig trwy roi a phrynu nwyddau, ac mae SCVS wedi llwyddo i drefnu danfoniadau FareShare i nifer o fanciau bwyd annibynnol yn y Sir. Os oes angen bwyd neu hanfodion eraill ar frys, mae gan bob unigolyn gyswllt â'r rhwydwaith hwn a bydd 'pecyn argyfwng' yn cael ei ddanfon naill ai gan yr awdurdod lleol neu'r SCVS. Mae Swansea Together, partneriaeth rhwng sefydliadau o’r sectorau cyhoeddus, trydydd a phreifat sef SCVS, yr Awdurdod Lleol, Matthew’s House, Crisis, The Wallich, Zac’s Place a Mecca Bingo, wedi darparu miloedd o brydau bwyd i bobl ddiamddiffyn iawn yn ystod yr argyfwng. Mae’r bartneriaeth wedi cael cefnogaeth SCVS a’r Awdurdod Lleol gyda chyngor, cyhoeddusrwydd, cyflenwadau bwyd, gwirfoddolwyr a chludiant.

Cefnogi Banciau Bwyd ym Mhowys (Cyngor Sir Powys)
Mae Tîm Adfywio Cyngor Sir Powys a Tyfu ym Mhowys wedi helpu banciau bwyd Powys i reoli’r heriau a’r newidiadau a ddaeth yn sgil COVID-19. Bu’r tîm yn rheoli’r Grant Tlodi Bwyd gan Llywodraeth Cymru, a ddosbarthwyd gan CLlLC. Rhannwyd y grant refeniw o £11,602.08 rhwng saith o fanciau bwyd ym Mhowys. Roedd yr arian grant Cyfalaf ychwanegol o £13,477.00 er mwyn cefnogi mynediad sefydliadau at gyflenwadau ychwanegol o fwyd o ansawdd dda, ei storio a’i ddosbarthu, drwy brynu offer fel rhewgelloedd. Yn ystod y cyfnod clo, roedd gan y banciau bwyd arian i brynu ffonau clyfar neu liniaduron i alluogi gweithio hyblyg. Oherwydd prinder rhewgelloedd cist, cafwyd rhewgelloedd i ffitio o dan y cownter mewn un achos. Nododd hwb Llandrindod iddyn nhw weld cynnydd o 300% mewn galw. Gallai Cwmtawe Action to Combat Hardship storio cyflenwadau sylweddol o fara a nwyddau wedi eu pobi yn eu rhewgell newydd. Drwy ymwneud â chymunedau yn ardaloedd Ystradgynlais a'r Gelli Gandryll, sefydlwyd banciau bwyd allgymorth ychwanegol.

Dyweddodd Banc Bwyd Y Drenewydd, a ariennir gan Salvation Army: “Rydym wedi gorfod cau ein siop a thrwy hynny, wedi colli’r cyfle i barhau i godi arian ein hunain drwy werthu ein nwyddau. Fe droesom at eich arian chi ar unwaith i’n helpu ni.”

Defnyddio taliadau llog solar i gefnogi banciau bwyd (Cyngor Sir Gar)
Bydd banciau bwyd yn Sir Gaerfyrddin yn cael dros £42,000 ar ffurf talebau bwyd, byddant yn derbyn cyfran o’r arian mewn talebau o’r incwm a gynhyrchir gan banelau solar ar doeau adeiladau Cyngor Sir Gâr. Bydd pob banc bwyd sydd wedi gweld cynnydd sylweddol mewn galw ers pandemig y coronafeirws, yn derbyn rhestr o gyflenwyr ble gallan nhw gael nwyddau. Mae’r cyfraniad yn gyfwerth a thua £70,000 am bob mega-wat o solar a osodwyd, sef y taliad sengl mwyaf am bob megawat o solar a osodwyd i unrhyw gymdeithas budd cymunedol, fferm solar fasnachol neu bortffolio yn y DU.

Dywedodd y Cyng. David Jenkins, aelod o fwrdd gweithredol y cyngor dros adnoddau, a chyfarwyddwr Egni Sir Gâr Cyfyngedig, cymdeithas egni budd cymunedol a sefydlwyd gan y Cyngor yn 2015: “Mae pobl yn gwneud mwy o ddefnydd nag erioed o’r banciau bwyd er mwyn darparu prydau. Mae’n gyfnod heriol i bawb wrth i bandemig y coronafeirws barhau. Drwy ailgylchu ein taliad llog solar, bydd yn helpu’r rhai sy’n ei chael yn anodd ac yn methu fforddio hanfodion bywyd.”